大象传媒

Cwmni o Lanidloes yn ystyried diswyddiadau yn sgil Brexit

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
cig oenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed rheolwr cwmni prosesu cig o Lanidloes y gallai golli traean o'i fusnes yn sgil biwrocratiaeth Brexit

Dywed un o brif allforwyr cig oen Cymru bod y gost ychwanegol a'r gwaith papur sy'n gysylltiedig 芒 gwerthu cig i'r UE yn golygu nad yw ei gwmni yn gwneud "dim elw".

Mae cwmni prosesu Randall Parker Foods yn Llanidloes, Powys yn rhybuddio y gallai 150 o'r gweithwyr golli eu gwaith oni bai bod y mesurau rheoli ffiniau newydd yn newid.

Mae'r cwmni yn prosesu miliwn o 诺yn y flwyddyn ac mae hanner rheiny yn cael eu hallforio i'r UE.

Dywed llywodraeth y DU eu bod yn rhoi cymorth i allforwyr gyda'r rheolau newydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Os oes yna fwy nag un cynnyrch mi all gymryd oriau i wneud y gwaith papur,' medd y cwmni allforio cig oen

Dywedodd Dale Williams, rheolwr cyffredinol cwmni Randall Parker bod perthynas newydd y DU gyda'r UE wedi Brexit yn golygu bod yn "rhaid i rywun dreulio diwrnod cyfan yn gwneud gwaith papur ar gyfer un cerbyd".

"Os oes yna fwy nag un cynnyrch mi all gymryd oriau - mae'n rhaid i ni anfon dogfennau i gael eu gwirio cyn y gall cerbydau gychwyn ar eu taith," meddai.

"Fel mae pethau'n sefyll ry'n yn gweithredu heb ddim elw bron. Ar hyn o bryd ni'n gweithredu er mwyn cadw'r drysau ar agor a dyna'i gyd."

Mae rhai o'r staff eisoes ar ffyrlo ac mae Mr Williams yn poeni y bydd yn rhaid i draean o'r staff gael eu diswyddo er mwyn gwneud elw.

"Os yw'r gwaith papur a'r mesurau rheoli naill ochr y ffin yn parhau fe fydd yn rhaid i ni ddiswyddo pobl," meddai.

Costau cludo

Ffynhonnell y llun, Daniel Lambert
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cwmni Daniel Lambert yn mewnforio gwin o'r UE

Mae newidiadau mawr i fusnesau sy'n mewnforio hefyd - yn eu plith cwmni Daniel Lambert o Ben-y-bont ar Ogwr sy'n mewnforio gwin.

Dywed ei bod wedi cymryd 20 diwrnod iddo gael y dogfennau sy'n galluogi cynhyrchwyr gwin i anfon cynnyrch ato.

"Dyw hyn ddim am Brexit fel y cyfryw," meddai Mr Lambert, "mae e fwy i'w wneud gyda dull llywodraeth y DU o weithredu - os oes angen defnyddio swyddog tollau o hyd mae'r gost o fewnforio ac allforio yn mynd i fod yn ddrud - fe fydd hynny yn codi prisiau nwyddau."

Dywed Mr Lambert bod ei gostau cludo nwyddau wedi bron 芒 dyblu oherwydd y prisiau y mae mewnforwyr yn gorfod eu talu am ddatganiadau tollau.

Mae oedi hefyd yn bosib os nad yw busnesau eraill, sy'n defnyddio yr un cludwr, wedi cwblhau y gwaith papur priodol.

Dywed Mr Lambert fod prynu cyflenwadau ychwanegol yn sgil Covid yn gwaethygu'r broblem.

'Pentwr o waith papur'

Ffynhonnell y llun, Tim Jones
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Mike Gooding o gwmni Farmers Fresh yn Wrecsam nad yw'n glir beth sydd angen ei wneud

Mae Farmers Fresh - sef cwmni cydweithredol o 2,700 o ffermwyr sydd 芒 ffatri yn Wrecsam wedi bod yn allforio i'r UE am 20 mlynedd.

Mae tri chwarter o'r miliwn o ddefaid y maen nhw'n eu prosesu ar gyfer cwsmeriaid yn yr UE.

"Dyw'r ffaith nad yw'r rheolau yn glir ddim yn help ar hyn o bryd," medd Mike Gooding o'r cwmni, "ac mae pobl yn dehongli'r rheolau yn wahanol.

"Mae yna alw mawr am gig oen o Gymru yn Ewrop," mae'n ychwanegu, "ond mae problemau ar hyn o bryd wrth i system wael o weithredu ddod i rym yn lle un oedd yn gweithio'n iawn."

Mae'n ychwanegu bod y cwmni wedi bod yn chwilio am farchnadoedd newydd mewn gwledydd eraill ond eu bod wedi canfod bod Seland Newydd eisoes yn allforio i'r gwledydd hynny.

"Ar hyn o bryd ry'n yn gorfod delio gyda phentyrrau o waith papur gan nad yw'r systemau electronig na'r cronfeydd data wedi'u gosod yn iawn."

'Ymwybodol o'r problemau'

Dywed Llywodraeth y DU eu bod yn "ymwybodol o nifer bychan o broblemau" ers 1 Ionawr ond "bod busnesau yn addasu'n dda ar y cyfan" i'r rheolau newydd a bod "masnachu yn digwydd yn gymharol llyfn"

"Mae'r diwydiant bwyd-amaeth yn hynod bwysig ac ry'n am helpu busnesau i gael budd o'r manteision sydd i ddod," medd llefarydd ar ran Llywodraeth San Steffan.

"Ry'n yn cydweithio'n agos gydag allforwyr er mwyn iddynt ddeall yr anghenion newydd."

Pynciau cysylltiedig