Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
44 yn rhagor yn marw gyda Covid-19 yng Nghymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 44 yn rhagor o farwolaethau sy'n gysylltiedig 芒 Covid-19.
Hefyd fe gofnodwyd 796 o achosion newydd ar draws Cymru yn y cyfnod 24 awr mwyaf diweddar.
Mae'n golygu fod cyfanswm y marwolaethau ers dechrau'r pandemig bellach yn 4,530, a nifer yr achosion wedi codi i 187,711.
Cyhoeddodd ICC hefyd fod 23,991 o bobl yn rhagor wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn, sy'n codi'r cyfanswm i 264,538.
Mae hynny'n gyfystyr 芒 8.4% o boblogaeth Cymru.
Am y tro cyntaf, Sir Y Fflint oedd 芒'r nifer dyddiol uchaf o achosion, sef 119.
Roedd yna 82 o achosion newydd yn Wrecsam, 78 yng Nghaerdydd, 45 yng Nghaerffili, 38 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a 37 yr un yn Abertawe a Chasnewydd.
Roedd yna ostyngiad pellach yn y cyfraddau achosion ar draws Cymru dros saith diwrnod - o 261 i 245 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth.
Wrecsam sy'n parhau 芒'r gyfradd achosion uchaf dros saith diwrnod, sef 564.1.
Sir Y Fflint sy'n ail gyda chyfradd o 425.4, gyda Chasnewydd wedyn 芒 chyfradd o 315.5 a Sir Ddinbych gyda 308.3.
O'r marwolaethau diweddaraf i'w cofnodi, roedd 12 yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr; 11 yng Nghaerdydd a'r Fro; wyth yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan; saith yn ardal Cwm Taf Morgannwg; pedwar yn ardal Hywel Dda; a dau yn ardal bwrdd Bae Abertawe.
Cafodd 13,224 yn rhagor o brofion eu cynnal yn y cyfnod dan sylw.