Dychwelyd i'r ysgol yn raddol dan ystyriaeth
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i ddychwelyd disgyblion i ysgolion yn raddol yn cael ei ystyried gan y Gweinidog Addysg.
Disgyblion ifanc a'r rhai sy'n gwneud arholiadau fyddai'r cyntaf i fynd yn 么l i'r dosbarth, meddai Kirsty Williams.
Yn siarad ar Wales Live, dywedodd ei bod yn "edrych ar y blaenoriaethau ac os allwn ni gael ein disgyblion ieuengaf yn 么l".
Dywedodd Ms Williams hefyd na fyddai'n diystyru gwersi yn ystod mis Awst i ysgolion uwchradd.
Dydy ysgolion yng Nghymru heb ailagor ers cyn y Nadolig wrth i lefelau Covid-19 gynyddu dros y wlad yn wythnosau cyntaf y flwyddyn.
Dywedodd Ms Williams bod y llywodraeth yn deall bod dysgu o adref "yn fwy heriol i'r disgyblion ieuengaf", a'i bod yn "anodd iawn gwneud y cyfnod sylfaen drwy sgrin gyfrifiadurol".
Ychwanegodd ei bod yn edrych ar y posibilrwydd o gael disgyblion blynyddoedd 11 a 13 - sy'n astudio at gymwysterau TGAU a Safon Uwch - yn 么l.
"Rydyn ni'n edrych ar yr holl senarios a faint o le i symud sydd yn y Rhif R er mwyn cynyddu nifer y plant all fynd yn 么l," meddai.
Dywedodd bod angen cynllun "hyblyg", a symud i ffwrdd o'r syniad bod pob disgybl i mewn neu adref.
Pan ofynnwyd a fyddai'n diystyru gwersi yn ystod mis Awst i ysgolion uwchradd, dywedodd ei bod yn "fodlon trafod pob posibilrwydd" er mwyn mynd i'r afael 芒 gwersi sydd wedi eu colli.
"Dyna pam dwi'n siarad gyda'r undebau am bob posibilrwydd ynghylch rotas, am ddychwelyd yn raddol achos... dwi am i gymaint o blant 芒 phosib gael y fantais o ddysgu wyneb yn wyneb."
Wales Live, 大象传媒1 am 22:35 ac ar iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2021