Hanes y capel Cymreig sydd i'w ennill am 拢3
- Cyhoeddwyd
Hoffech chi ennill hen gapel yng Ngwynedd am 拢3?
Dyna'r wobr i bwy bynnag fydd yn fuddugol mewn raffl ble gallwch ennill hen Gapel Jerusalem, Abergynolwyn, sydd bellach wedi cael ei drawsnewid yn d欧 moethus.
Mae gan rai o drigolion yr ardal safbwyntiau gwahanol yngl欧n 芒 raffl o'r fath, gyda rhai yn cwestiynu os y dylai hen gapel gael ei roi i ffwrdd, efallai i rywun o tu allan i'r ardal, gydag eraill yn teimlo ei fod yn ddefnydd da o adeilad gwag.
Mae'r bobl sydd yn trefnu'r raffl yn gobeithio rhoi hyd at 拢100,000 o'r arian i elusen cylfwr Alzheimer.
Siaradodd Cymru Fyw gyda phedwar o bobl sy'n gyn-aelodau o Gapel Jerusalem.
Mae Elwyn Evans yn dod o Abergynolwyn ac yn dal i fyw yn y pentref. Roedd y capel yn rhan bwysig o'i fywyd am ddegawdau, meddai.
"Y capel yma oedd y cryfa' yn y pentre' o ran aelodaeth pan o'n i'n tyfu fyny, ac hefyd yr unig gapel lle'r oedd y gweinidog yn byw yn y pentre'.
"Roedd yna ddau gapel arall yn y pentre' - Capel i'r Wesleaid a Chapel yr Annibynwyr. Capel y Methodistiaid Calfinaidd oedd hwn (Jerusalem), ond ar lafar gwlad yn aml iawn yr enw oedd yn cael ei ddefnyddio oedd 'Y Capel Mawr', am y rheswm syml ei fod yn fawr o ran maint gyda galeri ac yn dal tua 400 o bobl."
'Yn fanno ges i'n magu'
"Pan o'n i'n iau oedd 'na oedfa ar fore Sul, gyda'r nos ac Ysgol Sul, ac roedd y plant yn cymryd rhan yn aml yn y gwasanaethau.
"Yn fanno ges i'n magu i ddweud gwir, yn mynd i'r ysgol Sul a'r Band of Hope yno ers pan o'n i'n bump oed yn y 1950au cynnar."
Cafodd Elwyn ei fedyddio a'i dderbyn yn y capel ac roedd yn flaenor yno pan fu'r capel gau yng nghanol y 90au.
"Mae hi'n drist wrth gwrs bod y capel yn cael ei roi ffwrdd mewn raffl, ond dwi'n meddwl oedd yr adeg pan oedd yr adeilad yn dirywio nes iddo gau yn gyfnod mwy trist.
"Fe wnaeth rhai dynnu sylw i gyflwr yr adeilad, ac fe wnaethon ni symud allan o'r adeilad a chynnal y gwasanaethau yn neuadd y pentre'."
"Roedd y cysylltiad gyda'r capel 'di cael ei dorri ers ambell flwyddyn erbyn i'r adeilad gael ei werthu, a gan bo' ni heb addoli yna ers rhyw 26 mlynedd dydi'r hyn sy'n digwydd r诺an ddim yn brifo gymaint.
"Roedd gweld yr hen ddodrefn a'r lloriau i gyd yn cael eu rhwygo allan yn drist. Roedd y pulpud, y seddi a phopeth arall yn deilchion tu allan - yn gweld hynny o'n i fwy dan deimlad na beth ydw i r诺an.
"Dwi'n 'nabod un ffrind ysgol i mi sy'n byw i ffwrdd bellach sydd wedi prynu tocynnau raffl - wnawn i byth mo hynny. Byddai'r syniad o brynu tocyn yn mynd yn groes i'r graen i fi."
Mae Gareth Ioan Jones yn wreiddiol o Abergynolwyn ac roedd ei dad, John Pinion Jones, yn weinidog ar Gapel Jerusalem rhwng 1959 ac 1966.
"Dwi 'di gadael Abergynolwyn ers 1966 pan o'n i'n bedair oed, felly dim ond cof plentyn sydd gen i o'r lle.
'Mae'r pentre' wedi newid yn fawr iawn'
"Mae'r hyn sy'n digwydd yno'n nodweddiadol o'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'r pentre' wedi newid yn fawr iawn yn yr hanner canrif a mwy ers i mi adael. Mae nifer o'r tai erbyn hyn mae'n si诺r yn dai haf ac i bobl sydd wedi mewnfudo.
"Mae'r hen bentre' Cymraeg o'n i'n arfer hel ag e yn blentyn mae'n si诺r wedi diflannu. Pan oedd fy nhad yna roedd yna roedd y capeli yn llawn, roedd 'na ysgol gynradd lawn ac fe 'nath fy nhad ailddechrau band pres Abergynolwyn."
Roedd Robert Jones o Fferm Caerberllan yng Nghwm Llan ger y pentre' yn mynd i'r capel o pan oedd yn blentyn tan iddo gau.
"Roedd ganddo ni gapel bach yn y cwm 'ma drws nesa i'r pentref, oedd ynghlwm i Gapel Jerusalem - pan oedd yna gyfarfod iawn oeddan ni'n mynd i'r 'Capel Mawr'. Caeodd y ddau gapel yr un pryd."
"Fe wnaethon nhw gau'r capel oherwydd diogelwch - roedd rhaid gwneud y toiledau i fyny a mynediad i'r anabl ac ati, a 'da ni'n cynnal y gwasanaethau yn neuad y pentre' bellach.
'Mae hi'n chwith ar 么l y capel'
"Gafon ni fel cyn-aelodau wahoddiad i fynd i weld y gwaith sy' 'di digwydd yn y capel. A chwarae teg ma' nhw 'di gwneud gwaith tu hwnt ar y lle, fel da chi'n gallu gweld o'u gwefan nhw.
"Mae hi'n chwith ar 么l y capel. Yn Nhywyn saith milltir i ffwrdd mae'r capel Methodist 'di werthu a dim ond y festri sydd ar 么l, ac mae'r capel Annibynwyr 'di cau yno hefyd."
"Does 'na ddim lle os oes 'na angladd mawr, nunlle all ddal lot fawr o bobl heblaw am Gapel Wesle yn Nhywyn efallai.
"Mae'n dda gweld o 'di cael ei ail-wneud, to newydd ac ati, achos roedd 'na gostau. I'r 'chydig o'na ni oedd yna erbyn diwedd, roedd hi'n amhosib ei gadw o.
"Mae sefyllfa ariannol y capel lot gwell r诺an achos does 'na ddim costau, jest talu rhent i gael defnyddio'r Neuadd Bentre' am awr a hanner 'da chi yno dydd Sul. Mae'n llai na'r Capel yn amlwg ond mae'n glud ac yn gynnes yno. Un neu ddau sy'n iau na ni yno, a dwi'n 60 - eithriad yw hi i gael mwy na 10 yna."
'Da chi ddim yn gwybod pwy all ennill'
Priododd Nia Jones a'i g诺r Royston yng Nghapel Jerusalem 47 mlynedd yn 么l, ac maent dal i fyw yn y pentref.
"Dwi 'di prynu ambell docyn raffl efo fy chwaer - achos ma'n biti os na fyddai rhywun lleol yn ennill ac yn parhau i osod y lle," meddai Nia.
"Ond 'da chi ddim yn gwybod pwy all ennill - gall fod yn rywun o rywle yn y byd. Mae wedi'i wneud yn d欧 mawr, a dwi'm yn si诺r pwy all fyw yno i ddweud gwir."
"Maen nhw wedi gwneud y lle i fyny'n biwtiffyl - doedd hi ddim yn saff iawn yno ar un pwynt, gyda gwactod o dan y llawr."
Mae cysylltiad Nia gyda Chapel Jerusalem yn mynd n么l i'r dechrau un, pan godwyd yr adeilad yn 1867.
"Nath fy hen daid roi pres i adeiladu'r capel pan a ddaeth i'r pentre' o Gorris. Chwarelwr oedd fy nhaid, a'r chwarelwyr yma 'nath gynnal y capel i ddechrau, gyda'r cyfraniad yn dod o'u cyflogau nhw.
"Does gennym ni ddim siop yn y pentre' bellach, na thafarn chwaith."
Mae trigolion ardal Abergynolwyn yn aros yn eiddgar i weld pwy fydd yn ennill y raffl, a beth fydd y goblygiadau i'r pentref. Ond mae hanes Capel Jerusalem, a'i ddylanwad yn eu bywydau, yn parhau yn fyw iawn yng nghof Elwyn, Gareth, Robert a Nia.
Hefyd o ddiddordeb: