Ateb y Galw: Y cyflwynydd Gareth yr Orangutan
- Cyhoeddwyd
Y cyflwynydd Gareth yr Orangutan sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan y Welsh Whisperer yr wythnos diwethaf.
Gareth yw un o sêr Hansh, sef sianel fideos S4C, sydd wedi denu ffans o bob oedran gyda'i gwestiynau treiddgar. Mae wedi cyfweld rhai o enwau mwyaf Cymru, fel Owain Arthur, Casi a Gerallt Pennant.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dod adra o'r hospital efo Mam. O'dd o unai diwrnod ar ôl i fi gal fy ngeni neu diwrnod ar ôl fi gal tonsils fi allan pan o'n i'n tua pedwar neu pump oed.
Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?
Carol Vorderman. Dal yn, i fod yn deg. A Jet o Gladiators. A'r llwynog o Robin Hood. Woof!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Caernarfon, achos pan dwi'n Caernarfon dw i adra, neu o leiaf o fewn walking distance. Safio cash ar tacsis. Dwi hefyd yn lecio Rhyl a Caerdydd.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dw i'n crio bron bob tro dw i'n gwylio ffilm. Forrest Gump, Toy Story 3, Kong: Skull Island... Tro dwytha oedd yn ystod sbeshal Nadolig fi ar S4C - Anrheg Nadolig Gareth. Ar gael ar YouTube wan. Mae o'n cynnwys fi, Mari Lovgreen, Elain Llwyd, y Welsh Whisperer a Mici Plwm. Torcalonnus.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Gareth yr Orangutan. Ga'i go arall? Dewr. Del. Doniol.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
'Swn i'n dewis ffilm plîs, achos mae nhw'n llai o waith.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Fy hoff gân i 'di Mwfs Fel Dafydd Iwan gan Gareth yr Orangutan, achos hwnna wnaeth rhoi fi a Dafydd Iwan ar y map.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dw i ddim efo llawer o hunan-barch, felly mae'n anodd codi cywilydd arna i. Ond nesh i alw athrawes ysgol yn 'Mam' am un tymor cyfa' pan o'n i'n 14. I fod yn deg, mi oedd 'na debygrwydd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Parti Dolig gwaith oedd hi - dw i'm yn cofio pa flwyddyn. 2018 neu 2017 dw i'n meddwl? Nath Bill chwydu mewn i brandy glass fo. Classic.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Rhaid i fi stopio byta tecawes. A chips. Lyfio chips. Da chi wedi clwad cân fi am chips? Fflipin Lyfio Chips ydi enw'r gân. Mae o ar YouTube fi, a Spotify, a SoundCloud. Ers rhyddhau hwnna, dwi wedi sgwennu tair cân arall am chips. Checiwch nhw allan.
O archif Ateb y Galw:
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd i sbês a ffeindio planed arall. Ond y noson cyn hynna, 'swn i'n cael sesh efo mêts fi, cyn dwyn roced o NASA.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Byw plîs. Achos ma 'na rwbath reit morbid am yfed hefo pobl 'di marw, does?
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
James Bond.
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dw i'n eithaf siŵr bod fi'n perthyn i Geraint Løvgreen. (Dwi'n trio cal funding am documentary/prawf DNA gan S4C).
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
Pwdin plîs, dw i newydd fyta. Ma siŵr 'swn i'n mynd am hufen iâ, cwstard a crîm dros dessert trio o Morrisons. Ga'i ddeud hynna? Os ddim, mae M&S neu Tesco hefyd yn neud dessert trio. Os ti mond hefo access i rwla fel Spar ti probably am orfod prynu tri pwdin ar wahân i gal trio.
Neu Viennetta. Ma' Viennetta yn sort of fel tri pwdin yndi? Achos ma gen ti choclet, hufen iâ, a hufen iâ fwy fflyffi fel sydd ar y top. Neis 'di Viennetta. Lot o bobl yn deud bod o'n hen ffasiwn 'wan dydi? Fel, Viennetta ydi go-to lot o comedians am fatha bwyd o'r 70au neu rwbath, mae o ar yr un lefal ag avacado suite yn bathrŵm yndi?
Ond o'n i'm yn fyw yn y 70au ac o'dd Viennetta yn bob man pan o'n i'n tyfu fyny. Dal yn dydi? Cer di i unrhyw siop mawr wan a dwi'n garantio ti byddan nhw'n gwerthu o leia tri variety o Viennetta. Dwi'n siŵr bo' siop gornal fi ar gwaelod stryd hyd yn oed yn gwerthu'r un plaen. Neu mint.
Mae o fel lasagne mewn hufen iâ. Ella 'sa hwnna yn gallu bod yn y 'pull quote' o'r erthygl yma?
Pwy sy'n 'neud Viennetta? Swn i'n gallu neud adverts Viennetta. Swn i'n neud o am cash, ond dim am lifetime supply o Viennetta neu wbath achos 'swn i wedi hen 'laru arna fo ar ôl tua tri diwrnod sdret o Viennetta i pob pryd o fwyd.
Cwrs cyntaf fi fysa butterbean a sundried tomato pâ³Ùé ar sleisan o ciabatta.
Pwy wyt ti'n ei enwebu?
Jason Edwards