大象传媒

Ymchwilio i farwolaeth dynes 74 ym Mhont-y-p诺l

  • Cyhoeddwyd
Safle ymchwiliad llofruddiaeth ym Mhont-y-p诺l
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae swyddogion yr heddlu'n cynnal archwiliadau yn y t欧 yn Sebastopol

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i farwolaeth dynes 74 oed a gafodd ei darganfod yn farw ym Mhont-y-p诺l.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dy yn ardal Sebastopol, Pont-y-p诺l, am 09.30 ddydd Sadwrn, 6 Chwefror.

Mae dyn 70 oed o Bont-y-p诺l wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae e yn y ddalfa.

Yn 么l swyddogion yr heddlu, dydyn nhw ddim yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd mewn cysylltiad a'r ymchwiliad.

Mae swyddogion yn parhau yn yr ardal, yn bennaf er mwyn cynnal ymchwiliadau pellach a cheisio lleddfu ofnau pobl yn y gymuned.

Pynciau cysylltiedig