ASau'n galw am rewi eu cyflogau eu hunain
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau'r Senedd yn galw ar y corff annibynnol sy'n pennu eu cyflogau i barhau i rewi cyflogau gwleidyddion Bae Caerdydd.
Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi argymell codiad cyflog o 2.4% i Aelodau'r Senedd ym mis Mai.
Byddai hynny'n cyfateb i gynnydd o 拢1,624 ar gyflog sylfaenol AS - i fyny i 拢69,273.
Mae Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Gyngres Annibynnol dros Ddiwygio, Plaid Diddymu'r Cynulliad ac UKIP oll yn gwrthwynebu'r newid.
Mae Neil McEvoy, arweinydd plaid Propel (sydd heb ei chofrestru hyd yma), wedi galw ar ASau i "arwain drwy esiampl yn y cyfnod hynod yma" a chefnogi rhewi cyflogau am ddwy flynedd.
'Anodd cyfiawnhau'
Cafodd cyflogau ASau eu rhewi yn 2020 gan ddileu codiad arfaethedig o 4.4%.
Ar y pryd dywedodd y panel, sy'n gweithredu ar wah芒n i wleidyddion yn Senedd Cymru, bod codiad yn "anodd ei gyfiawnhau" o ystyried y rhagolygon economaidd gwael oherwydd y pandemig Covid-19.
Ond mewn adolygiad dywedodd y corff y byddai parhau i rewi cyflogau yn nhymor nesaf y Senedd "ddim bellach yn adlewyrchu'r r么l yn deg" ac y gallai arwain at yr angen am godiad sylweddol mewn cyflogau.
O dan y newid sy'n cael ei argymell, byddai codiadau cyflog yn cael eu cyfyngu i uchafswm o 3%. Mae'r cynigion wedi mynd i ymgynghoriad.
'Amhriodol, ansensitif ac annheg'
Wrth ymateb i'r ymgynghoriad, dywedodd gr诺p Llafur yn y Senedd eu bod yn "gwrthwynebu'n gryf" y codiad cyflog, gan ychwanegu y byddai'n "amhriodol, ansensitif ac annheg... mewn cyfnod lle mae ein hetholwyr yn wynebu amgylchiadau anodd iawn o ganlyniad i'r pandemig Covid-19".
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Yn y cyfnod hwn o ddirywiad economaidd lle mae llawer o bobl ar draws Cymru wedi bod yn byw ar 80% o'u cyflogau neu wedi colli'u gwaith yn llwyr, mae hwn yn gynnig cwbl annerbyniol.
"Byddwn yn adlewyrchu'r farn hon yn ein hymateb i'r panel cydnabyddiaeth ariannol."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Mewn cyfnod lle mae gweithwyr y sector cyhoeddus yn wynebu rhewi eu cyflogau, ni ddylai aelodau etholedig weld eu cyflogau'n codi."
Dywedodd Caroline Jones o'r Gyngres Annibynnol dros Ddiwygio: "Byddai unrhyw un call yn cydnabod bod rhoi codiad cyflog i wleidyddion yn hollol chwerthinllyd."
Ychwanegodd Mark Reckless o Blaid Diddymu'r Cynulliad: "Gan fod y llywodraeth Lafur wedi rhoi llawer o bobl ar y clwt, rydym yn croesawu eu hymgais i rewi cyflogau aelodau."
Roedd UKIP hefyd yn cytuno fod codiad cyflog yn "hollol amhriodol".
Mae'r 大象传媒 wedi gofyn i'r panel am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2020
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020