大象传媒

A gafodd cylch cerrig ei symud o Benfro i G么r y Cewri?

  • Cyhoeddwyd
Waun Mawn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhai o'r t卯m yn cloddio ar Waun Mawn

Mae archaeolegwyr wedi darganfod gweddillion cylch cerrig hynafol y maen nhw'n credu allai fod wedi cael eu datgymalu a'u hailadeiladu fel C么r y Cewri (Stonehenge).

Cafodd y cylch, o'r enw Waun Mawn, ei ddarganfod ym Mynydd Preseli yn Sir Benfro. Mae'n wybyddus fod 'meini glas' sydd wedi eu canfod yng Ngh么r y Cewri yn Wiltshire yn dod o'r un ardal.

Mae'r t卯m sy'n gyfrifol am y darganfyddiad, a gafodd ei wneud wrth ffilmio rhaglen i'r 大象传媒, yn dweud fod elfennau allweddol sy'n cysylltu C么r y Cewri i'r cylch Cymreig - un o'r cylchoedd cerrig hynaf i gael ei ddarganfod ym Mhrydain erioed.

Maen nhw'n awgrymu y gallai'r meini gleision fod wedi cael eu symud wrth i bobl ardal y Preseli fudo, gan fynd 芒'u henebion gyda nhw fel arwydd o'u hunaniaeth a'u hailgodi yng Ngh么r y Cewri 175 milltir i ffwrdd.

Yn 么l arbenigwyr, gallai hynny egluro pan bod y meini gleision eu cludo mor bell, er bod y mwyafrif o gylchoedd cerrig yn cael eu codi yn agos at eu chwareli.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Athro Mike Parker Pearson fu'n arwain y prosiect

Roedd y gwaith cloddio'n rhan o brosiect sy'n cael ei arwain gan yr Athro Mike Parker Pearson o Brifysgol UCL, ac roedd eisoes wedi cloddi dwy chwarel meini gleision ym Mynydd Preseli.

Pan ddaeth yn amlwg bod y meini gleision yn dyddio n么l i cyn i G么r y Cewri ddechrau cael ei godi yn 3000 CC, aeth y t卯m i edrych eto ar feini Waun Mawn.

Dim ond pedair carreg sy'n dal ar y safle, ond yn 2018 fe ddatgelwyd tyllau lle byddai'r meini gwreiddiol wedi sefyll, gan ddangos eu bod yn rhan o gylch ehangach o 30-50 o feini.

Cafodd olion golosg o'r tyllau ei ddyddio, gan ddangos eu bod wedi eu codi oddeutu 3400 CC.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llun o'r safle o'r awyr

Mwy o safleoedd?

Roedd cysylltiadau amlwg eraill rhwng C么r y Cewri a Waun Mawn.

Diamedr y cylch Cymreig yw 110m, yr un fath a'r ffos sy'n amgylchynu C么r y Cewri, ac mae'r ddau gylch yn aliniedig gyda'r wawr ar hirddydd haf.

Mae gan un o feini C么r y Cewri groesdoriad anarferol sy'n cyfateb i un o'r tyllau adawyd yn Waun Mawn, sy'n awgrymu bod y maen wedi dechrau fel rhan o'r cylch yn y Preselau cyn cael ei symud.

Dywedodd yr Athro Parker Pearson: "Gydag oddeutu 80 o feini yn rhan o G么r y Cewri, rwy'n credu nad Waun Mawn yw'r unig gylch cerrig sydd wedi cyfrannu at G么r y Cewri.

"Efallai bod mwy yn y Preselau sy'n aros i gael eu darganfod... pwy a 诺yr? Efallai bydd rhywun yn ddigon lwcus i ddod o hyd iddyn nhw."

Gallwch weld mwy ar Stonehenge: The Lost Circle Revealed ar 大象传媒 am 21:00, nos Wener 12 Chwefror.

Pynciau cysylltiedig