Ceisio cadw'r gobeithion am Gamp Lawn yn fyw yn Yr Alban

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cais Louis Rees-Zammit oedd yr un allweddol i Gymru yn y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon ddydd Sul

Bydd Cymru'n teithio i Gaeredin ddydd Sadwrn mewn ymgais i gadw eu gobeithion am Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Cafodd y ddwy wlad ddechrau gwych i'r bencampwriaeth y penwythnos diwethaf gyda buddugoliaethau dros Loegr ac Iwerddon.

Doedd sylwebwyr ddim yn disgwyl i Gymru na'r Alban gystadlu am y bencampwriaeth eleni, ond ar 么l y g锚m gyntaf dim ond nhw a Ffrainc sy'n gallu ennill y Gamp Lawn.

Bydd y gic gyntaf ym Murrayfield am 16:45 brynhawn Sadwrn.

Llu o anafiadau

Ond mae chwe chwaraewr yn y garfan wedi cael anafiadau ers y gic gyntaf yn erbyn Iwerddon, gan olygu bod nifer o newidiadau i'r t卯m o'r penwythnos diwethaf.

Mae Dan Lydiate, Tomos Williams, Johnny Williams a George North ymysg y rheiny sydd ddim ar gael, ond mae newyddion da wrth i Liam Williams ddychwelyd i'r t卯m yn dilyn gwaharddiad.

Mae'n bosib hefyd y bydd y canolwr Willis Halaholo yn ennill ei gap rhyngwladol cyntaf oddi ar y fainc.

Ond nid Cymru yw'r unig wlad sy'n delio ag anafiadau - bydd Yr Alban yn gorfod ymdopi heb Jamie Ritchie, Sean Maitland a Cameron Redpath.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Y penwythnos diwethaf oedd y tro cyntaf i'r Alban drechu Lloegr yn Twickenham ers 38 o flynyddoedd

Er yr anafiadau, mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac yn dweud bod hynny'n rhoi cyfle i chwaraewyr gwahanol greu argraff.

"Mae'r bwlch o chwe diwrnod rhwng gemau yn dod yn sydyn, ond rydyn ni'n edrych ymlaen at fynd 'n么l mas ar y cae," meddai.

"Rydyn ni wedi cael ambell anaf ond ry'n ni'n ei weld fel cyfle i'r rheiny sy'n dod mewn i'r t卯m."

Er y canlyniad da yn erbyn 14 dyn Iwerddon yng Nghaerdydd ddydd Sul, mae Cymru ar rediad ofnadwy oddi cartref.

Maen nhw wedi colli eu chwe g锚m ddiwethaf i ffwrdd o Gymru - eu rhediad gwaethaf ers 2006/07 - a'r Alban fydd y ffefrynnau brynhawn Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Wayne Pivac yn dweud bod yr anafiadau yn rhoi cyfle i chwaraewyr gwahanol greu argraff

T卯m Cymru

Leigh Halfpenny; Louis Rees-Zammit, Owen Watkin, Nick Tompkins, Liam Williams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (c), Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Elliot Dee, Rhodri Jones, Leon Brown, Will Rowlands, James Botham, Kieran Hardy, Callum Sheedy, Willis Halaholo.

T卯m Yr Alban

Stuart Hogg (c); Darcy Graham, Chris Harris, James Lang, Duhan van der Merwe; Finn Russell, Ali Price; Rory Sutherland, George Turner, Zander Fagerson, Scott Cummings, Jonny Gray, Blade Thomson, Hamish Watson, Matt Fagerson.

Eilyddion: David Cherry, Oli Kebble, WP Nel, Richie Gray, Gary Graham, Scott Steele, Jaco van der Walt, Huw Jones.