大象传媒

'Mwy o bobl o blaid annibyniaeth a dyna'r unig ateb'

  • Cyhoeddwyd
gorymdaith
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Miloedd o gefnogwyr annibyniaeth i Gymru yn gorymdeithio yng Nghaernarfon ym mis Gorffennaf 2019

Mae'r gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru gymaint 芒'r gefnogaeth i annibyniaeth yn Yr Alban ddegawd yn 么l, medd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

Wrth siarad ar raglen Andrew Marr fore Sul dywedodd Mr Price bod "mwy a mwy o bobl" yn cefnogi y syniad oherwydd cyflwr yr economi a bod mwy o anghyfartaledd bellach yn y gymdeithas Gymreig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Maint y gefnogaeth bresennol i annibyniaeth yng Nghymru yn debyg i'r Alban,' medd arweinydd Plaid Cymru

"Does dim modd darparu llwybr gwell i Gymru heb annibyniaeth," medd Mr Price.

"Mae maint y gefnogaeth i annibyniaeth yma yng Nghymru yn debyg i'r hyn oedd yn Yr Alban ddeg mlynedd yn 么l.

"Ychydig flynyddoedd wedi hynna roedd yr Alban o fewn trwch blewyn i bleidleisio o blaid annibyniaeth mewn refferendwm," ychwanegodd.

'Ddim yr amser cywir'

Yn y cyfamser ar raglen Dewi Llwyd fore Sul dywedodd y Dirprwy Weinidog, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod yna angen "difrifol i ddwys谩u trefniadau datganoli yng Nghymru ond nid r诺an yw'r amser cywir i gynnal refferendwm ar annibyniaeth".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Deyrnas Unedig yn 'wladwriaeth o bedair cenedl,' medd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Dywedodd fod y pandemig wedi dangos fod y Deyrnas Unedig yn "wladwriaeth o bedair cenedl" a bod angen "dwys谩u'r trefniadau" hynny.

Er hynny dyw'r Arglwydd Elis-Thomas ddim yn credu ei fod yn "syniad da" i gael refferendwm ar annibyniaeth yng Nghymru "ar hyn o bryd".

Ond mynnodd nad ydi'r "drafodaeth am ragor o bwerau datganoli i Gymru yn mynd i gilio".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Angen difrifol i gryfhau datganoli yng Nghymru,' medd yr Arglwydd Elis-Thomas

Yn 么l y Dirprwy Weinidog, pan fydd yr Alban yn symud "at fwy o annibyniaeth" a Gogledd Iwerddon yn "cydweithio'n fwy" gyda'r Weriniaeth mae'n amlwg y bydd y drafodaeth ar annibyniaeth yn debygol o newid.

"Dwi'n meddwl fod 'na angen difrifol i gryfhau datganoli yng Nghymru," meddai.

"Mae'r Deyrnas Unedig bellach, ac mae hyn wedi dod yn fwy amlwg yn ystod y pla difrifol, yn wladwriaeth o bedair cenedl a dyna dwi wedi ei gredu erioed.

"Dwi'n gweld bod angen dwys谩u trefniadau'r pedair cenedl.

"Mae'n rhaid cael strwythur i'r Deyrnas Unedig r诺an ein bod ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd ac yn anffodus dydi'r strwythurau sy'n cael eu gosod gan Lywodraeth San Steffan ddim yn drefniadau priodol ar gyfer y Deyrnas Unedig yn y 21ain ganrif," ychwanegodd.

'Neb yn annibynnol y dyddiau hyn'

Pan ofynnwyd i'r Arglwydd Elis-Thomas a fyddai'n cefnogi annibyniaeth i Gymru dywedodd nad ydi o erioed wedi defnyddio'r gair.

"Dwi erioed wedi defnyddio'r gair - cyd-ddibyniaeth, ymreolaeth a chydweithrediad sy'n bwysig i mi.

"Mae angen mwy a mwy o ymreolaeth i Gymru, hunan-reolaeth.

"Mae'r gair annibyniaeth yn cael ei ddefnyddio ond does neb yn annibynnol yn y dyddiau cymhleth hyn ac mae'r pla wedi dangos hynny- mae gennym ni gyd gyfrifoldeb."

Wrth gloi dywedodd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ei bod hi'n bwysig i bawb lynu at y rheolau Covid presennol.

Wrth drafod unrhyw lacio mynnodd bod yn rhaid i hynny ddigwydd yn "ofalus".

"Os 'da ni'n s么n am gyfle i adfer bywyd cymdeithasol... mae'n rhaid bod yn ofalus na fyddwn ni'n ailagor a gwneud y camgymeriad o beidio gwneud digon neu yn waeth byth gwneud penderfyniad a hynny yn gorfod cael ei wyrdroi - mae hynny yn beth sydd yn fy nghadw i yn effro," meddai.

Ychwanegodd fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth wraidd bob penderfyniad sy'n cael ei wneud.