大象传媒

拢650m yn 'ychwanegol' o'r Trysorlys i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mochyn arianFfynhonnell y llun, coldsnowstorm

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru dderbyn 拢650m ychwanegol gan Drysorlys Llywodraeth y DU o ganlyniad i wariant ychwanegol Covid-19.

Mae'n dod 芒 chyfanswm y cyllid a drosglwyddwyd o San Steffan i Gaerdydd ers y pandemig i 拢5.85bn.

Bydd gweinidogion yng Nghaerdydd yn gallu cario unrhyw ran o'r 拢650m na fydd yn cael ei wario erbyn mis Ebrill drosodd i'r flwyddyn ariannol nesaf.

Wrth groesawu'r arian newydd, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod "yn dod ar yr unfed awr ar ddeg".

Ychwanegodd llefarydd fod y cyhoeddiad yn dod "ychydig ddyddiau cyn ein bod i fod i gyhoeddi ein cynlluniau gwariant terfynol ar gyfer y flwyddyn."

"Dylid nodi hefyd mai dyma ein cyfran [Fformiwla] Barnett o'r cyllid a ddyrannwyd i fynd i'r afael 芒'r pandemig yn Lloegr", meddai'r llefarydd.

"Mae'r trefniadau cyfyngedig i ddwyn cyllid ychwanegol ymlaen yn is na'r ystod lawn o hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol rydyn ni wedi bod yn ceisio, gan gynnwys mynediad llawn i'n cronfa wrth gefn ein hunain y flwyddyn nesaf."

Ffynhonnell y llun, WPA Pool
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Prif Weinidog Boris Johnson a'r Canghellor Rishi Sunak yn amlinellu manylion y pecynnau ariannol i fusnesau yn ystod y pandemig

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart AS, fod y cyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru "ar ben pob un o becynnau cymorth eraill Llywodraeth y DU, gan gynnwys y cynllun ffyrlo, y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan a'r gwahanol fenthyciadau busnes."

"Mae'n bwysig bod y cyllid hwn nawr yn cyrraedd busnesau ac unigolion ledled Cymru wrth i ni geisio ailadeiladu economi'r DU."

Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys Steve Barclay AS: "Rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru cyn y cyhoeddiad hwn i sicrhau bod ganddyn nhw'r sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw cyn cwblhau eu cyllideb ar 16 Chwefror."

Ddechrau mis Ionawr, gofynnwyd i Boris Johnson ymddiheuro ar 么l i lywodraeth y DU gyhoeddi ar gam y byddai Cymru'n derbyn 拢227m yn ychwanegol o gyllid ddydd Mawrth.

Cyhuddodd Liz Saville Roberts o Blaid Cymru y Canghellor Rishi Sunak o "gamarwain bwriadol" am iddo gyhoeddi cyllid a oedd eisoes wedi ei gyhoeddi yn barod.