大象传媒

Trafod ailddatblygu Shotton i daclo 'problemau' yn y dref

  • Cyhoeddwyd
ShottonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyngor yn dweud bod ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gynnydd yn ardal Shotton

Mae angen ailddatblygu tref Shotton er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, yn 么l yr awdurdod lleol.

Bydd cabinet Cyngor Sir y Fflint yn trafod cynnig i lunio uwchgynllun i'r ardal mewn cyfarfod dydd Mawrth.

Yn 么l arweinydd y cyngor, Ian Roberts, mae angen syniadau "realistig ac uchelgeisiol" i gymuned sydd 芒 "phroblemau rydym angen gweithio i'w datrys".

Byddai gan y cynllun meistr gyfres o amcanion ar gyfer y tymor byr, canol a hir, fydd yn llywio datblygiad yr ardal am y pump i 10 mlynedd nesaf.

Hefyd, gallai prosiectau eraill yn y cylch ddod yn rhan o'r cynllun ehangach.

'Tanseilio ymdrechion lleol'

Mae menter gymunedol eisoes wedi bod yn gweithio i adnewyddu adeilad eiconig gwaith dur John Summers dros y blynyddoedd diwethaf ond wedi wynebu nifer o rwystrau, gan gynnwys fandaliaeth.

Noda'r cynnig sy'n mynd gerbron cynghorwyr bod ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gynnydd yn y cylch.

"Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r cyngor ac aelodau lleol wedi derbyn nifer cynyddol o gwynion a sylwadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol a phroblemau amgylcheddol fydd, os na chawn nhw eu datrys, yn niweidio'r ardal ac yn tanseilio ymdrechion lleol i gadw'r dref yn l芒n a thaclus," meddai'r ddogfen.

Os bydd cabinet y sir yn cymeradwyo'r cynnig, bydd y gwaith o lunio'r cynllun yn mynd rhagddo, gyda'r nod o gyflwyno cynlluniau pendant yn ystod yr haf.