Galwadau i beidio gwerthu melin 欧d hanesyddol yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn galw ar gyngor sir i beidio gwerthu melin 欧d hanesyddol.
Yn 么l Gr诺p Cymuned Melin y Brenin, mae Cyngor Wrecsam wedi "anwybyddu" eu hymdrechion i roi'r adeilad yn nwylo'r gymuned.
Dywedodd cynghorydd nad oedd yr awdurdod lleol wedi bod yn "agored a thryloyw" gyda'r broses o gynnig y felin ar y farchnad agored mewn arwerthiant.
Ond yn 么l llefarydd ar ran y cyngor, dyna'r "cyfle gorau" i sicrhau bod yr adeilad yn cael defnydd unwaith eto.
Mae'r felin yn fan cychwyn i Lwybr Clywedog, sy'n cysylltu Wrecsam a safleoedd hanesyddol y dyffryn cyfagos fel stad Erddig a Chanolfan Treftadaeth y Bers.
Pallodd y felin falu yn 1940 ac fe'i hailddatblygwyd fel canolfan ymwelwyr yn 1991. Wedi hynny bu'n storfa i greiriau milwrol, ond mae wedi bod yn wag ers 2013.
Yn 么l cadeirydd Gr诺p Cymuned Melin y Brenin, Phil Phillips, mae'r felin yn adeilad "hynod bwysig" mewn ardal oedd yn "gyrru'r chwyldro diwydiannol".
Ers tua 2018, mae'r gr诺p wedi bod yn trafod gyda'r cyngor sut y gallan nhw gymryd yr awenau.
"Am dair blynedd, 'dan ni wedi cael ein hanwybyddu, mwy neu lai," meddai Mr Phillips, sydd hefyd yn dywysydd teithiau i ymwelwyr.
"Mae gennym ni gynllun busnes, sy'n rhywbeth ofynnodd y cyngor amdano.
"Mae gennym ni gefnogaeth y gymuned, a 'dan ni wedi dod 芒 th卯m o arbenigwyr a gwirfoddolwr at ei gilydd, a hefyd noddwyr gyda'u hamser a'u harian, i sicrhau bod hwn yn brosiect all weithio.
"Ond yn anffodus, dydy'r cyngor ddim eisiau cydweithredu ac maen nhw eisiau cael gwared 芒'r felin."
Dywedodd Mr Phillips eu bod wedi cael gwybod ym mis Tachwedd bod y cyngor eisiau gwerthu rhyddfraint yr adeilad, a bod y gr诺p wedyn wedi cynnig pris o 拢10,000 ac i dalu costau adnewyddu.
"Glywon ni ddim byd tan fis Ionawr, pan wnaethon ni ofyn iddyn nhw be' sy'n mynd ymlaen. Ac yn sydyn, roedd yr adeilad ar restr yr arwerthwyr. Cafodd ei restru heb inni, fel gr诺p sydd 芒 diddordeb, gael gwybod."
Mae dros 1,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb ar-lein yn galw am stopio'r gwerthiant a throsglwyddo'r felin i'r gymuned.
Y pris awgrymedig yn yr arwerthiant ar 24 Mawrth yw 拢165,000, ac ynghlwm 芒'r adeilad mae cyfamod sy'n dweud y dylai gael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion cyhoeddus.
Ond mae'r Cynghorydd Carrie Harper yn "pryderu am y broses" a arweiniodd at y penderfyniad i'w werthu.
Cwestiynodd r么l Gr诺p Corfforaethol Strategaeth Tir ac Adeiladau'r cyngor, sydd ddim yn cwrdd yn gyhoeddus.
'Gweithredu tu 么l drysau cae毛dig'
"Dwi'n pryderu am y broses - dylai'r cyngor fod yn agored a thryloyw pan yn cael gwared ag ased," meddai.
"Nid felly oedd hi yn yr achos yma. Doedd y rhan fwyaf o'r cynghorwyr yn gwybod dim am y peth a does neb o'r cyhoedd wedi cael craffu ar y penderfyniad, heb s么n am unrhyw ymgynghoriad."
Ychwanegodd bod cynigion y gr诺p cymunedol yn "cyd-fynd 芒'r cyfamod" ac yn "gweddu i'r strategaeth twristiaeth ehangach."
"Mae'r cyngor yn edrych ar hwn mewn ffordd tymor byr iawn ac wedi gwneud hynny i gyd tu 么l i ddrysau cae毛dig, ac mae nifer o gynghorwyr nawr yn codi pryderon cyffredinol am sut mae'r awdurdod yn cael gwared ag asedau," meddai.
'Ffordd orau ymlaen'
Mewn e-bost at y cynghorydd Harper ac eraill - a rannwyd 芒 gwefan Wrexham.com - dywedodd arweinydd y cyngor, Mark Pritchard, bod "dim angen penderfyniad gan y bwrdd gweithredol" cyn gwerthu'r felin a bod y Gr诺p Corfforaethol Strategaeth Tir ac Adeiladau wedi penderfynu gwerthu rhyddfraint y felin ym mis Hydref 2020.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Wrecsam y bu "ymgynghori" gyda'r gr诺p hwnnw a "phenderfynwyd mai'r ffordd orau ymlaen fyddai i roi'r adeilad hwn ar werth".
Ychwanegodd: "Mae adeilad Melin y Brenin wedi bod yn wag ers 2013.
"Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i bob adeilad gyrraedd isafswm safonau effeithlonrwydd ynni cyn cael ei rentu.
"Byddai uwchraddio'r adeilad wedi bod yn ddrud a doedd dim cyllid i wneud hynny.
"Ni fyddai incwm rhent posib yr adeilad wedi dod 芒 digon o refeniw i gyfiawnhau gwario arian trethdalwyr Cyngor Wrecsam fel hyn.
"Mae hyn hefyd yn rhoi'r cyfle gorau i gr诺p neu unigolyn gaffael yr adeilad, buddsoddi ynddo a'i wneud yn ddefnyddiol eto.
"Rhaid pwysleisio nad yw'r cyfamod sydd ar yr adeilad yn cael ei anwybyddu, ac mae'r adeilad yn cael ei werthu gyda'r cyfamod ynghlwm."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2020