'Hyder' y Gweinidog Addysg dros ailagor ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Addysg Cymru'n dweud ei bod yn hyderus y bydd mwy o ddisgyblion cynradd yn gallu dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb o 15 Mawrth, os yw nifer achosion Covid yn parhau i ostwng.
Bydd plant rhwng tair a saith oed yn dechrau dychwelyd i'r ysgolion ddydd Llun, ynghyd 芒 myfyrwyr rhai cyrsiau coleg.
Ond rhybuddiodd Kirsty Williams bod parhau i osgoi cymdeithasu tu hwnt i ysgolion, yn cynnwys "cysgu dros nos neu bart茂on pen-blwydd" er mwyn helpu atal achosion coronafeirws.
Dywedodd Ms Williams hefyd y gallai disgyblion uwchradd hefyd fod yn dychwelyd yn raddol maes o law.
Yn y cyfamser, mae Plaid Cymru'n galw am flaenoriaethu rhoi brechiadau Covid i athrawon.
Mae disgwyl penderfyniad ynghylch dychwelyd mwy o ddisgyblion cynradd a disgyblion h欧n ar 15 Mawrth yn dilyn adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru o'r cyfnod clo.
Mae mwyafrif y disgyblion wedi bod yn cael gwersi ar-lein ers mis Rhagfyr.
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod niferoedd achosion yn gostwng, ond mae'r cyfraddau yng ngogledd Cymru bron yn ddwbl y cyfartaledd ac mae cynnydd bach wedi'i weld mewn ardaloedd eraill.
'Mae'r ysgolion dan reolaeth uchel'
Ar raglen Sunday Supplement, dywedodd Kirsty Williams: "Os yw'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i ddatblygu fel y mae wedi gwneud ers y cyfnod clo yn Rhagfyr, yna rwyf mor hyderus ag y galla'i fod y byddwn ni'n gallu dychwelyd mwy o blant i addysg wyneb yn wyneb ar 15 Mawrth."
Ychwanegodd: "Os gwelwch yn dda, peidiwch 芒 chamddehongli hyn fel arwydd y gall pethau ddychwelyd i'r arferol.
"Mae'r ysgolion dan reolaeth uchel. Mae staff ysgol yn gweithio'n wirioneddol galed i'w gwneud mor ddiogel rhag Covid 芒 phosib.
"Ond yr ymddygiad o amgylch yr ysgol - ar y siwrne i'r ysgol, wrth fynedfa'r ysgol, ar eich ffordd gartre ac ar y penwythnos - dyna fydd yn ein help i gynnal gwelliant y sefyllfa iechyd cyhoeddus, fydd yn caniat谩u i fwy o blant ddychwelyd."
Cafodd gwersi eu symud ar-lein i holl ddisgyblion a myfyrwyr Cymru cyn dechrau'r tymor mewn ymgais i fynd i'r afael 芒'r feirws.
Mae ysgolion a cholegau wedi aros ar agor ar gyfer plant gweithwyr hanfodol, disgyblion bregus a phlant sydd angen sefyll arholiadau neu asesiadau hanfodol.
'Rhywfaint o hyblygrwydd'
O ran ailddechrau gwersi wyneb yn wyneb mewn ysgolion uwchradd, dywedodd Ms Williams bod y sefyllfa'n fwy "cymhleth" yn sgil y risg o drosglwyddo'r haint gan fod coronafeirws ymhlith disgyblion h欧n "yn ymddwyn yn debycach i'r ffordd i mae ymhlith oedolion".
"Ein blaenoriaeth fydd defnyddio pa bynnag gyfle sydd gyda ni i gael gymaint o ddysgu wyneb yn wyneb 芒 phosib i flynyddoedd 11 a 13, ac mae llawer o'r penaethiaid rydym yn ymgynghori 芒 nhw'n dymuno rhywfaint o hyblygrwydd i gael rhai myfyrwyr blynyddoedd 10 a 12 i mewn hefyd.
"Ond fe allwn ni orfod gwneud hynny yn rheolaidd, gan alluogi i ni leihau nifer y plant yn y dosbarth, a helpu cadw'r ysgolion hynny mor ddiogel rhag Covid 芒 phosib."
Dywedodd Ms Williams hefyd bod rhai myfyrwyr prifysgol i fod i ddychwelyd i'r campws yr wythnos hon er mwyn "gwneud asesiadau ymarferol ac elfennau ymarferol eu gwaith".
Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda phrifysgolion, meddai, "i ddychwelyd myfyrwyr pan mae'n ddiogel ac yn briodol i wneud hynny".
Mae llefarydd addysg Plaid Cymru, Sian Gwenllian wedi galw o'r newydd am frechu staff ysgolion.
Dywedodd wrth raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul y dylid blaenoriaethu cynnig unrhyw frechlynnau "dros ben" i staff ysgolion.
Ychwanegodd ei bod yn ffafrio cynllun gofalus Llywodraeth Cymru i agor ysgolion fesul dipyn, wrth i adroddiadau awgrymu y bydd Boris Johnson yn cyhoeddi yfory, y bydd ysgolion yn Lloegr yn agor yn llwyr ar 8 Mawrth.
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies hefyd wedi croesawu'r camau i ailagor ysgolion ond mae'n poeni bod dim digon yn cael ei wneud ar gyfer busnesau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2021