Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Angen i'r pleidiau ddenu pleidleiswyr ifanc newydd'
- Awdur, Teleri Glyn Jones
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae llythyr agored wedi'i anfon at bob un o arweinwyr pleidiau Cymru yn galw arnyn nhw i wneud mwy i ymgysylltu 芒 phleidleiswyr newydd cyn etholiadau Senedd mis Mai.
Mae 32 o sefydliadau ac academyddion yn galw ar bleidiau gwleidyddol i "gynyddu eu hymgysylltiad" 芒'r 100,000 o bleidleiswyr newydd.
Etholiad y Senedd ar 6 Mai fydd y tro cyntaf i bobl ifanc 16 a 17 oed, yn ogystal 芒 gwladolion tramor, bleidleisio yng Nghymru.
Ysgrifennwyd y llythyr ar ddechrau wythnos o ddigwyddiadau i godi ymwybyddiaeth bod pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yng Nghymru.
Mae'r llythyr wedi'i lofnodi gan y Comisiynydd Plant, Cyngor Hil Cymru, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Urdd Gobaith Cymru ac Youth Cymru.
Mae'n galw ar bleidiau i:
- gyhoeddi maniffestos sy'n hawdd eu deall, wedi eu targedu at bobl ifanc;
- ystyried pleidleiswyr newydd wrth greu polis茂au;
- gymryd rhan mewn hystingau a digwyddiadau eraill ar gyfer pleidleiswyr sydd yn cael yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf.
Mae 69% o bobl ifanc 16-24 oed yn credu bod etholiadau'r Senedd yn bwysig - cyfran uwch nag mewn unrhyw gr诺p oedran arall ac eithrio pobl dros 65 oed, yn 么l p么l piniwn newydd gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol ac YouGov.
Mae'r arolwg barn hefyd yn dangos bod y gr诺p oedran ieuengaf hwn hefyd yn llawer mwy tebygol o fod wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd gwleidyddol yn ystod y 12 mis diwethaf.
Dywedodd 77% eu bod wedi cymryd rhan mewn rhywfaint o weithgaredd gwleidyddol o gymharu 芒 thua hanner y bobl ym mhob gr诺p oedran arall.
'Y bleidlais gyntaf mor bwysig'
Dywedodd Jess Blair, Cyfarwyddwr ERS Cymru: "Rydyn ni'n gwybod bod y bleidlais gyntaf yn hanfodol i adeiladu arferion democrataidd sy'n para am oes.
"Ond mae'r etholiad hwn yn wahanol i eraill yn hanes Cymru. Gyda chymaint o bleidleiswyr newydd, rhaid i bleidiau wneud eu gorau glas i sicrhau eu bod yn estyn allan i bob cymuned.
"Mae gan hyn y potensial i adeiladu cenhedlaeth newydd o ddinasyddion gweithredol. Rhaid i bleidiau beidio 芒 cholli'r cyfle hwn, ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth wneud etholiadau mis Mai yn llwyddiant democrataidd."
'Rhaid i'r gwleidyddion chwarae eu rhan'
Dywed Grug Muse, : "Os nad ydan ni'n gallu perswadio nhw bod etholiadau'r Senedd yn bwysig, yn medru newid bywydau pobl, yn medru bod yn ffordd iddyn nhw weld y newid ma' nhw isio yn y byd, maen nhw'n mynd i golli diddordeb yn y Senedd.
"Mae'r gwaith dan ni'n neud yn trio cael pobl ifanc i gofrestru, yn trio ennyn diddordeb a gwneud iddyn nhw deimlo bod gwleidyddion yn gwrando. Ond 'mond hyn a hyn fedrwn ni wneud, mae'n rhaid i wleidyddion gwrdd 芒 ni hanner ffordd.
"Mae hwn yn gyfle unigryw i ddal gr诺p o bleidleiswyr newydd mewn cyfnod lle mae gynnon ni access i fedru rhoi yr adnoddau iddyn nhw, i ni fedru cefnogi nhw ac i roi yr addysg wleidyddol mae nhw angen. Ond os nad ydy'r gwleidyddion yn cyfarfod 芒 ni hanner ffordd, 'chydig iawn fedrwn ni wneud."
Ymateb y pleidiau
Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru ar y Dyfodol, Delyth Jewell AS: "Byddwn yn annog pobl ifanc sydd newydd eu rhyddfreinio yng Nghymru i ddefnyddio eu hawliau trwy gofrestru i bleidleisio ac i ddefnyddio eu pleidlais i greu'r dyfodol y maent am ei weld drostynt eu hunain a chymdeithas.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae ein pobl ifanc yn cael eu gwerthfawrogi ac rydyn ni am iddyn nhw wybod bod ganddyn nhw le fel dinesydd gweithgar yng Nghymru.
"Mae'r pandemig wedi newid cymaint o'n bywydau. Rydyn ni am i bobl ifanc siapio'r adferiad a bydd Llafur Cymru yn gweithio ochr yn ochr 芒 nhw i adeiladu cenedl decach, gryfach a gwyrddach.
"Ry'n yn annog pawb i sicrhau eu bod ar y gofrestr etholiadol ac yn cofrestru i bleidleisio yn gynnar trwy'r post."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Rydyn ni'n croesawu'r cyfle i ymgysylltu 芒'r rhai sydd bellach yn ddigon hen i bleidleisio am y tro cyntaf - yr etholiad Senedd pwysicaf ers 1999.
"Mae hi ond yn bosib cael Gymru gryfach a mwy llwyddiannus os ydym yn ymgysylltu ac yn gwrando ar y genhedlaeth nesaf - a dyna'n union y byddwn i'n ei wneud rhwng nawr a mis Mai."
Mae'r Senedd wedi trefnu wythnos o weithgareddau fel rhan o'u prosiect "Defnyddia dy lais" i annog mwy o bobl i gofrestru i bleidleisio.
Yn 么l y Llywydd, Elin Jones: "Nod ymgyrch Senedd Cymru a ffocws y gweithgareddau addysg ac ymgysylltu yw magu hyder pleidleiswyr ieuengaf Cymru i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd nawr ac am flynyddoedd i ddod gan ddechrau gyda chofrestru a bwrw eu pleidlais gyntaf ym mis Mai.
"Mae'n bwysig iddyn nhw wybod bod eu llais yn cyfrif."