Gweddw'n galw am newid rheol sy'n 'fath o greulondeb'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw a gollodd ei g诺r 10 mis ar 么l y tro diwethaf iddyn nhw fedru dal dwylo'i gilydd wedi s么n am y "creulondeb" o beidio caniat谩u ymweliadau i gartrefi gofal.
Bu farw g诺r Lynn Parker, Alistair, ychydig cyn y Nadolig mewn cartref gofal yng Nghaerffili.
Dywedodd hi ei fod wedi "rhoi'r gorau iddi" wedi 10 mis o fethu dal llaw ei wraig gan mai hi oedd ei "linell bywyd".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried caniat谩u mwy o ymweliadau dan do nawr bod y brechlyn yn cael ei ddosbarthu.
Fe wnaeth Mrs Parker, nyrs wedi ymddeol o Risga, ofalu am ei g诺r am 15 mlynedd wedi iddo gael diagnosis o barlys ymledol (MS).
Ond wrth i'r cyflwr waethygu, roedd hi'n cael trafferth ymdopi gydag ef gartre, ac ym mis Mai 2019 fe symudodd i gartre gofal.
"Fe geision ni wneud y gorau o bethau," meddai Mrs Parker. "Fe wnes i addo peidio gadael ei ochr, a wnes i ddim tan i Covid fy ngorfodi i wneud.
"Roeddwn i'n ymweld ag e bob dydd am bum neu chwe awr. Yna ar 20 Mawrth y llynedd, fe ataliwyd ymweliadau. Pan oeddwn i'n cael ei weld eto, roedd hynny y tu allan a dau fedr i ffwrdd, neu dryw ddrws gwydr ac roedd hynny'n dod i stop os oedd rhywun yn y cartref yn s芒l.
"Yr holl fisoedd yma lle'r oedd e fy angen i, roeddwn i'n ei weld yn diflannu. Fi oedd ei linell bywyd. Roedd e'n fath o greulondeb."
'Wedi torri'i galon'
Ychwanegodd fod ei g诺r wedi dechrau gwrthod bwyd, diod a meddyginiaeth. Byddai'n ceisio'i berswadio i fwyta ac yfed dros Skype, ond "doedd hynny ddim yr un peth".
"Roedd e'n credu ei fod wedi cael ei adael. Doedd e ddim yn sylweddol beth oedd y sefyllfa y tu allan," meddai.
"Roeddwn i adre'n ceisio cadw fy hun yn iach fel fy mod yn medru mynd i mewn ato gyda chydwybod clir pan fyddai'r amser yn dod, ond ddaeth yr amser fyth."
Siaradodd gyda'i g诺r dros y ff么n ar fore 19 Rhagfyr, ond awr yn ddiweddarach cafodd alwad i ddweud ei fod wedi marw'n sydyn.
"Rwy'n credu ei fod wedi torri'i galon," ychwanegodd. "Roeddwn i'n gallu gweld 'mod i'n ei golli e.
"I fynd misoedd ar fisoedd heb ddal ei law tan iddo farw... mae'n fy ngwneud i'n grac nawr."
Mae Mrs Parker am i Lywodraeth Cymru newid y rheolau fel nad yw teuluoedd eraill yn gorfod mynd drwy'r un profiad, gydag un aelod o'r teulu'n cael ei enwebu i fynd ar ymweliad.
Yr wythnos ddiwethaf daeth cyhoeddiad y byddai trigolion cartrefi gofal yn Lloegr yn cael un ymwelydd cyson o 8 Mawrth.
Yn Yr Alban bydd ymweliadau dan do yn ailddechrau yn gynnar ym mis Mawrth.
Does dim cyhoeddiad hyd yma am newid y rheol yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod pwysigrwydd pobl mewn cartrefi gofal yn medru cwrdd gyda'u teuluoedd a'u hanwyliaid, ac rydym yn ystyried sut i ganiat谩u mwy o ymweliadau gan feddwl am lwyddiant ein cynllun brechu i drigolion a staff cartrefi gofal.
"Yn y cyfamser, tra ein bod ar Lefel 4 o gyfyngiadau dylai ymweliadau dan do ond digwydd mewn amgylchiadau neilltuol.
"Dyma yw'r sefyllfa wedi bod gydol cyfnod y pandemig. Mae gofyn i gartrefi ystyried ceisiadau [am ymweliadau o'r fath] mewn modd sensitif ac ar sail bob achos unigol."
I weld mwy am y stori, gwyliwch Wales Live ar 大象传媒 1 Cymru nos Fercher am 22:35.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2020