Ateb y Galw: Yr actores Heledd Roberts
- Cyhoeddwyd
Yr actores Heledd Roberts sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Ameer Davies-Rana yr wythnos diwethaf.
Mae Heledd yn chwarae'r cymeriad Anest yn y gyfres Rownd a Rownd, ond mae hi hefyd i'w chlywed yn sgwrsio ar raglen Ifan Evans bob prynhawn Iau ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi byth wedi bod tramor gyda fy nheulu ac yn hytrach na theithio tramor, roedden ni'n treulio tipyn o amser lawr yng ngharafan Mamgu a Tadcu yn Ninbych y Pysgod.
Un o fy atgofion cyntaf oedd mynd i'r garafan gyda Mam, Iolo fy mrawd a Manon fy chwaer ac yn ysu i fynd allan ar y beics. Roedd yn rhaid i ni aros trwy'r dydd achos Dad o'dd yn dod â'r beics lawr ar y treilar ar ôl iddo orffen gwaith. Dwi'n cofio treulio orie yn eistedd wrth y ffenest yn aros! Hefyd, fel arfer o'dd y tywydd wastad yn bwrw glaw ond doedd dim byd gwell na dawnsio gyda Bradley Bear.
Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?
Alun Williams (Planed Plant) a Dwayne Peel - o'dd hyd yn oed gyda fi keyring gyda rhif 9 PEEL arno, a ges i garden Nadolig rhyw flwyddyn!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dwi'n absolwteli caru Parc Dinefwr. Dwi'n treulio tipyn o amser yno pan dwi adre - yn mwynhau mynd i redeg yno neu cerdded y cŵn, Nala a Bela gyda Mam.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Egnïol, uchelgeisiol, brwdfrydig.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Neithiwr. Dwi'n berson itha' emosiynol!
Beth yw dy hoff gân a pham?
Bydd Wych gan Rhys Gwynfor. Dwi'n meddwl 'nath y gân yma ddod allan ar adeg cywir yn fy mywyd i. Ma'n easy listen, yn codi calon heb fod dros ben llestri. Dwi hefyd yn credu mai dyma fydd cân y ddawns gyntaf yn ein priodas!
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Haf llynedd o'n i'n sunbatho ar decking y garafan mewn bicini pan 'nath Nala penderfynu dianc. Doedd dim amser gyda fi i chwilio am esgidiau na rhoi unrhywbeth dros y bicini. Felly bues i'n rhedeg rownd y parc a darganfod Nala gyda grŵp o fechgyn tu allan i'r dafarn.
O'n i yn MORTIFIED a gan nad oedd Nala yn fodlon dod ata i bues i'n plygu lawr o fla'n y grŵp o fechgyn ac yna yn gorfod cerdded nôl gan gario Nala ac yn hollol ymwybodol fod pawb yn edrych ar fy mhen-ôl!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson dathlu fy Lefel A allan yn Nepal!
Roeddwn yn gwirfoddoli ar y pryd mewn cartref plant amddifad a chartref yr henoed ond roedd y noson yn epic! Bwyd rili rhad yn 'Phat Khat' i ddechre ac yna noson o fwynhau ac yn yfed diodydd lot RHY RHAD! Roedd pawb yn Nepal yn hollol garedig a dwi ddim yn cofio talu am ddim un diod! O'dd y tacsi adre yn hileriys - dwi hyd yn oed wedi safio enw'r dyn fel 'looking for the one'. Nath y gwirfoddolwyr i gyd campio ar lawr yr ystafell ymgynnull a buon ni'n chwerthin tan orie man y bore.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n berson byr iawn fy amynedd, wastad yn hwyr ac yn gwario lot gormod ar wefan ASOS (ond wedi rhoi ASOS lan ar gyfer y grawys)!
O archif Ateb y Galw:
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Bydde hi'n ddiwrnod poeth iawn a fydden ni'n treulio'r diwrnod yn hamddenol gyda fy ffrindiau a fy nheulu. BBQ ar y traeth, diodydd, champagne, darllen ychydig, lot o chwerthin, canu a skinny dipping!
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n defnyddio lot o Instagram a falle bydde lot yn synnu i glywed bo' fi'n berson rili swil, nerfys a dwi'n proper over-thinker!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Dwi'n un ddrwg iawn am gwmpo i gysgu yn ystod ffilms ond fy hoff ffilm yw Forest Gump - dwi'n meddwl bo' fi falle yn ffansio Tom Hanks hefyd! Ond ma Notting Hill yn ail agos iawn.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Oprah Winfrey - dwi'n meddwl ei bod hi'n berson anhygoel gyda lot i ddysgu ni gyd!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Fy ffrind gore, Hanna Gwenllian Thomas. Ma' hi'n berson trefnus, yn ffyddlon, da am wrando, yn rhoi cyngor amazing, yn feddylgar ond hefyd dwi'n teimlo bod ganddi ei bywyd i gyd yn 'sorted'.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
Cwrs cyntaf - smoked salmon ac wyau, heb angofio'r chives,ar fara di-glwten.
Prif gwrs - lasagne, chips a beans fel sydd yn Y Plough, Rhosmaen.
Pwdin - profiterols Marks and Spencer - limited edition Nadolig gyda lot o hufen!
Pwy wyt ti'n ei enwebu?
Ioan Pollard