拢350,000 wedi'i addo mewn wythnos i brynu t欧 tafarn
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion Llandwrog ger Caernarfon yn gobeithio bwrw mlaen i brynu tafarn y pentref, wedi iddyn nhw lwyddo i gael addewidion o 拢350,000 mewn llai nag wythnos.
Mae tafarn Ty'n Llan wedi bod ynghau ers dros dair blynedd, a gobaith y pentrefwyr ydi ei hailagor fel menter gymunedol.
Yn ogystal 芒 bod yn dafarn, gallai'r adeilad 200 mlwydd oed hefyd gael ei ddefnyddio fel canolfan gymunedol, caffi, a siop.
"Gafon ni ymateb anhygoel, a d'eud y gwir," meddai Caryl Lewis, un o'r gwirfoddolwyr tu 么l i'r cynllun.
"Mae o jest yn dangos fod pobl yn teimlo'n gryf dyl'a ni fod yn buddsoddi yn Ty'n Llan fel menter gymunedol.
"Mae'n adeilad rhestredig, a mae'n adeilad hardd iawn. Mae o'n dyddio n么l i 1830, a mae'n bechod weld o'n dirywio."
Y bwriad r诺an ydi troi'r addewidion ariannol i fenthyciadau, ac yna i drigolion lleol brynu cyfranddaliadau yn y fenter.
Mae'r pentrefwyr yn hyderus mai nhw fydd perchnogion newydd Ty'n Llan o fewn y misoedd nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd28 Medi 2019