大象传媒

Dros filiwn dos o'r brechlyn wedi eu rhoi yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
brechlyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod miliwn dos o'r brechlyn rhag Covid-19 wedi eu rhoi yma.

Mae dros draean o'r holl oedolion yng Nghymru wedi cael o leiaf un dos.

Yn 么l yr ystadegau diweddaraf sydd wedi eu cyhoeddi ddydd Sadwrn, mae 916,336 o bobl - dros 38% o'r oedolion yng Nghymru - wedi cael o leiaf un dos o'r brechlyn.

Mae 89,053 o'r ail ddos hefyd wedi eu rhoi, sy'n golygu bod y cyfanswm hyd yma wedi cyrraedd 1,005,389 o frechlynnau.

Mae ystadegau Llywodraeth Cymru sydd wedi eu cyhoeddi ar 27 Chwefror yn rhoi darlun i ni o faint o bobl ymhob categori sydd wedi eu brechu hyd yma:

  • 91.2% o bobl dros 80 oed;

  • 93.4% o bobl rhwng 75 a 79 oed;

  • 92.9% o bobl rhwng 70 a 74 oed;

  • 87.6% o'r rhai sy'n cael eu blaenoriaethau oherwydd cyflyrau iechyd.

Yn ychwanegol at hynny mae 162,941 o weithwyr gofal iechyd a chymdeithasol wedi cael eu brechu.

Ar hyn o bryd mae'r broses o frechu gofalwyr di-d芒l, pobl anabl cymwys a'r rhai sydd 芒 salwch meddwl difrifol yn mynd yn ei blaen.

'Gwaith anhygoel'

Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething hefyd wedi cyhoeddi'r bwriad i gynnig brechiad i bob oedolyn cymwys yng Nghymru erbyn 31 Gorffennaf, cyn belled 芒 bod y cyflenwad yn parhau.

"Mae'r ffaith bod miliwn o ddosau wedi'u rhoi yn ffrwyth ffantastig gwaith anhygoel o galed ac ymdrechion pawb a fu ynghlwm wrth y rhaglen frechu yng Nghymru.

"Rhaid peidio 芒 gwneud yn fach o gamp mor aruthrol, mewn cwta 12 wythnos ers i'r brechlynnau cyntaf gyrraedd.

"Mae'n rhaglen frechu'n mynd rhagddi, a chyn belled 芒 bod cyflenwadau'n caniat谩u, byddwn wedi brechu pob oedolyn erbyn diwedd Gorffennaf.

"Rwyf am sicrhau pobl na chaiff neb ei adael ar 么l - mae'r brechlyn ar gael i bawb sydd am ei gael." meddai Vaughan Gething.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Gweiniodg Iechyd, Vaughan Gething, wedi canmol y gwaith brechu sydd wedi ei wneud hyd yma

Ar 么l cael y brechlyn, pwysleisiodd y Gweinidog Iechyd hefyd ei bod hi'n bwysig bod pobl yn cadw at y canllawiau sydd wedi bod mewn grym er rhai misoedd: gwisgo mwgwd, cadw pellter o 2m, golchi dwylo'n rheolaidd ac awyru ystafelloedd.

Apeliodd Vaughan Gething hefyd ar bobl i beidio 芒 ffonio'r gwasanaeth iechyd lleol, oni bai bod unigolion wedi cael eu cynghori i wneud hynny, neu os ydy rhywun yn credu y dylen nhw fod yn y 4 gr诺p uchaf (dros 70 oed, pobl a chyflyrau iechyd neu weithiwr iechyd neu gymdeithasol rheng flaen.)

Pynciau cysylltiedig