Chwe Gwlad 2021: Coron Driphlyg i Gymru ar 么l trechu Lloegr
- Cyhoeddwyd
Pwy fyddai wedi meddwl ar 么l Cyfred yr Hydref y byddai Cymru yn llwyddo i ennill y Goron Driphlyg ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad?
Ond dyna'n union ddigwyddodd yn Stadiwm y Principality wrth i d卯m Wayne Pivac ennill o 40 i 24.
Roedd Cymru ar y blaen o 17-14 a hanner amser wedi i'r dyfarnwr Ffrengig Pascal Gauzere ganiat谩u ceisiau dadleuol gan Josh Adams a Liam Williams i Gymru.
Cafodd cais Adams ei roi ar 么l i Dan Biggar gymryd cic gosb gyflym.
Roedd yna amheuaeth bod Louis Rees-Zammit wedi taro'r b锚l ymlaen yn y symudiad arweiniodd at gais Williams.
Roedd yna gais i'r mewnwr Kieran Hardy yn gynnar yn yr ail hanner.
Ond toc wedi'r awr roedd Lloegr yn 么l yn gyfartal 24-24 wedi i Ben Youngs groesi'r llinell am gais.
Llwyddodd y Cymry i ysgwyd y Saeson unwaith eto ac fe fanteisiodd Callum Sheedy ar y diffyg disgyblaeth trwy sicrhau chwe phwynt gyda dwy gic gosb.
Fe gafodd y nerfau eu setlo yn yr eiliadau olaf pan sgoriodd y clo Cory Hill gais ola'r g锚m
Cymru: L Williams; Rees-Zammit, North, J Davies, Adams; Biggar, Hardy; W Jones, Owens, Tomas Francis, Beard, AW Jones (capt), Navidi, Tipuric, Faletau.
Eilyddion: Dee, R Jones, Brown, Hill, Botham, G Davies, C Sheedy, Halaholo.
Lloegr: Daly; Watson, Slade, Farrell, May; Ford, Youngs; M Vunipola, George, Sinckler, Itoje, Hill, Wilson, Curry, B Vunipola.
Eilyddion: Cowan-Dickie, Genge, Stuart, Ewels, Martin, Earl, Robson, Malins.