Ymestyn cynllun ffyrlo tan ddiwedd Medi
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i'r Canghellor Rishi Sunak gadarnhau yn ei gyllideb ddydd Mercher y bydd y cynllun ffyrlo yn para tan ddiwedd Medi.
Ond ym mis Gorffennaf bydd yn rhaid i gyflogwyr gyfrannu 10% o d芒l am oriau na weithiwyd, ac yna 20% ym misoedd Awst a Medi.
Ar draws y DU mae'r cynllun wedi diogelu 11.2 miliwn o swyddi.
Mae 178,000 o bobl - 12% o weithlu Cymru - ar ffyrlo ar hyn o bryd.
Ar ei uchafbwynt ym mis Mehefin 2020, roedd 378,400 o bobl yng Nghymru ar ffyrlo, yn 么l ffigyrau'r Trysorlys.
Dywedodd y Canghellor Rishi Sunak: "Mae ein cynlluniau rhoi cefnogaeth yn ystod Covid wedi amddiffyn swyddi ac incwm nifer ar draws y DU.
"Mae yna olau bellach ar ddiwedd y twnnel ac mae'n bwysig ein bod yn helpu busnesau ac unigolion yn y misoedd heriol sydd i ddod."
Bydd Mr Sunak yn cyhoeddi manylion pellach ddydd Mercher.
Wrth siarad 芒'r 大象传媒 yn gynharach dywedodd yr ysgrifennydd busnes ei bod hi'n bwysig "peidio chwalu" unrhyw adfywiad busnes cyn iddo ddigwydd ac ychwanegodd y gallai'r economi wella erbyn ail hanner olaf y flwyddyn.
"Mae'n bwysig cadw swyddi pawb, cadw cwmn茂au i fynd a darparu cefnogaeth gyson", meddai Kwasi Kwarteng.
Y manylion
Hyd at 30 Mehefin: Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflog (hyd at 拢2,500 y mis) am oriau nad yw aelod o staff wedi gweithio. Bydd y cyflogwr yn parhau i dalu cyfraniadau yswiriant gwladol a chyfraniadau pensiwn.
O 1 Gorffennaf: Llywodraeth yn talu 70% o gyflog (hyd at 拢2,187.50 y mis) a bydd y cyflogwr yn talu 10% am oriau na weithiwyd - ac felly bydd gweithwyr yn parhau i dderbyn 80% o'u cyflog.
O 1 Awst: Cyfraniad y llywodraeth yn gostwng i 60% (hyd at 拢1,875 y mis) a'r cyflogwr yn talu 20% am oriau na weithiwyd.
Yn unol 芒'r rheolau presennol bydd hawl gan fusnesau gyflogi staff yn rhan amser a gostwng yr oriau ffyrlo.
Mae disgwyl i Mr Sunak gyhoeddi hefyd y bydd dros 600,000 o bobl ar draws y DU, nifer ohonynt wedi dod yn hunan-gyflogedig yn 2019-20, yn gallu hawlio grantiau ariannol uniongyrchol drwy'r Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunan-gyflogedig drwy gyfnod coronafeirws.
Roedd y Trysorlys eisoes wedi cyhoeddi y byddai'r cynllun cefnogi swyddi i weithwyr y DU yn cael ei ymestyn tan ddiwedd Ebrill.
Daw'r cyhoeddiad ar 么l i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chynlluniau gwariant yn gynharach ddydd Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2021