Y Ceidwadwyr 'ddim am daro bargen 芒 Phlaid Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud na fydd ei blaid yn taro unrhyw fargen gyda Phlaid Cymru ar 么l etholiadau'r Senedd ym mis Mai.
Dywedodd Andrew RT Davies na fyddai ei blaid yn ailadrodd pleidlais yn 2016, pan gefnogodd ei gr诺p Leanne Wood i fod yn brif weinidog.
Dywed Plaid Cymru fod y sylwadau'n destun "embaras", gan ddweud eu bod eisoes wedi diystyru clymblaid gyda'r Tor茂aid.
Daw sylwadau Mr Davies ar drothwy cynhadledd rithwir Plaid Cymru ddydd Gwener.
Mae'r arweinydd Adam Price wedi addo cynnal refferendwm annibyniaeth os bydd yn ennill yr etholiad ym mis Mai.
Llafur yn 'fflyrtio 芒 chenedlaetholdeb'
Mae'n golygu bod y Ceidwadwyr yn diystyru unrhyw gytundeb 芒 Phlaid a allai ganiat谩u i'r naill ochr neu'r llall gymryd grym, pe bai'r ddau gr诺p yn ennill digon o seddi.
Mae pob llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru wedi cael ei harwain gan Lafur ers i'r Cynulliad agor yn 1999, er ei bod yn aml wedi bod angen cefnogaeth gwleidyddion mewn pleidiau eraill.
Methodd ymgais gan y Ceidwadwyr, Plaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol i ffurfio clymblaid yn 2007.
Cefnogodd y Ceidwadwyr ac UKIP Plaid Cymru i ffurfio llywodraeth ar 么l etholiad 2016.
Ond ar 么l drama'r pleidleisio yn y Senedd fe wnaeth Leanne Wood ffugio bargen gyda Carwyn Jones gan ganiat谩u iddo ddychwelyd fel prif weinidog.
Dywedodd Mr Davies: "Byddaf yn rhoi ymrwymiad clir i bobl ledled Cymru na fyddwn yn gweithio gyda ymwahanwyr rhwygol Plaid Cymru.
"Ni fydd 2016 yn cael ei ailadrodd ac ni fyddwn yn cefnogi enwebu unrhyw arweinydd arall.
"Yn anffodus, mae prif weinidog Llafur wedi fflyrtio 芒 chenedlaetholdeb ymrannol trwy gydol ei gyfnod byr yn y swydd, ond er budd y wlad a'n hadferiad economaidd mae'n rhaid iddo ddiystyru unrhyw fargeinion ystafell gefn gyda phlaid sydd 芒'r bwriad llwyr o rwygo Prydain ar wah芒n."
'Anfon RSVP i barti heb wahoddiad'
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru fod yr "ymyrraeth" yn destun "embaras" a'i fod yn "gyfystyr ag anfon RSVP i barti na chawsoch eich gwahodd iddo".
"Mae'n anodd amgyffred pam y byddai unrhyw un yn meddwl y byddai Plaid Cymru - plaid sy'n ymgyrchu o ddydd i ddydd dros degwch i Gymru - yn ffurfio unrhyw fath o gynghrair 芒 phlaid sy'n gwneud ei gorau glas i danseilio ein cenedl a'i senedd genedlaethol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Dim ond ymgais arall yw'r gwichian diweddaraf yma gan y Tor茂aid yng Nghymru i dynnu sylw oddi wrth y ffaith na allan nhw sefyll i fyny i'w penaethiaid yn Llundain, ac eisiau trosglwyddo pwerau i Whitehall.
"Fe nododd y Prif Weinidog Mark Drakeford safbwynt Llafur Cymru y penwythnos diwethaf. Ni yw plaid datganoli.
"Rydyn ni'n falch o fod yn wladgarol, ac yn credu bod dyfodol Cymru yn cael ei wasanaethu orau mewn Undeb tecach diwygiedig.
"Ein blaenoriaeth yw arwain Cymru trwy'r pandemig, allan o'r clo, a pharhau i symud Cymru ymlaen."
Dywedodd Mr Drakeford wrth Bwyllgor Materion Cymru ddydd Iau bod Prif Weinidog y DU, Boris Johnson yn dangos "gelyniaeth amlwg" tuag at ddatganoli, a bod undeb y Deyrnas Unedig yn "symud yn agosach at y dibyn gyda phob diwrnod" o dan ei arweinyddiaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2021