大象传媒

Anafiadau rygbi: 'Angen cynnwys menywod yn y sgwrs'

  • Cyhoeddwyd
Nic EvansFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddioddefodd Nic Evans salwch, trawiadau a cholli cof yn ystod ei gyrfa

Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru wedi dweud bod angen i athletwyr benywaidd gael eu clywed wrth drafod anafiadau i'r pen mewn chwaraeon.

Dywedodd y cyn-chwaraewr rheng 么l, Nic Evans, nad oedd ganddi unrhyw atgofion o'i hymddangosiad cyntaf yn stadiwm Twickenham o ganlyniad i gyfergyd.

Bydd y Pwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn dechrau ei ymchwiliad i anafiadau hirdymor i'r ymennydd o fewn chwaraeon ddydd Mawrth.

Dywedodd World Rugby, corff llywodraethu'r gamp, mai "lles i bawb sy'n cymryd rhan - yn y g锚m gymunedol, el卯t, dynion, menywod neu phlant - yw ein blaenoriaeth barhaus".

'Cannoedd o gyfergydion'

Ym mis Rhagfyr y llynedd, cychwynnodd naw o gyn-chwaraewyr rygbi proffesiynol gwrywaidd - y mwyafrif ohonyn nhw 芒 diagnosis o ddementia cynnar - achos cyfreithiol yn erbyn World Rugby.

Roedden nhw'n honni esgeulustod ar 么l anafiadau ailadroddus i'r pen yn ystod eu gyrfaoedd.

Bydd Evans, 43, a chwaraeodd dros Wasps Ladies, yn cael profion y mis hwn i asesu a yw hi'n wynebu'r "posibilrwydd gwaethaf".

Mae'n credu iddi ddioddef cannoedd o gyfergydion yn ei gyrfa.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe roddodd Nic Evans y gorau i chwarae yn 2012

Dylai ei hymddangosiad cyntaf yn Twickenham fod yn gofiadwy, ond yn hytrach mae gwagle.

"Dydw i ddim yn cofio dim o'r g锚m, dwi ddim yn cofio chwarae, dwi'n cofio cyn y g锚m ac yna dwi'n cofio bod adref yng Nghymru a dwi'n meddwl bod hynny wedi digwydd drwy gydol fy ngyrfa chwarae," meddai.

Gall Evans, sydd bellach yn ddarlithydd, gofio un digwyddiad lle chafodd ei thaclo i'w phen, ar gae caled, sych a arweiniodd at drawiad cyfergyd (concussive seizure).

"Ges i 'seizure' am cwpl o funudau, es i mewn i'r ambiwlans, es i'r ysbyty a ges i CT scan i weld os oedd gen i 'brain bleed', so roedd hi'n eitha' ofnadwy i ddweud y gwir."

Collodd hi ei thrwydded gyrru am flwyddyn am nad oedd doctoriaid yn si诺r a oedd gyda hi epilepsi neu trawiadau gyfergyd.

Er hynny parhaodd i chwarae am y flwyddyn honno.

"Mis yn hwyrach roeddwn i 'n么l yn chwarae, 'n么l yn ymarfer a felly nes i chwarae trwy gydol yr amser gyda phoen yn y pen, teimlo'n s芒l, teimlo'n eitha' diflas i ddweud y gwir, ond nes i gario 'mlaen i chwarae."

Bellach yn hyfforddwr, dywed Evans nad oedd hi erioed wedi ystyried unrhyw "ddifrod hirdymor".

"Fyddwn i ddim wedi rhoi fy hun mewn perygl o beidio 芒 gallu byw bywyd llawn pan yn h欧n," ychwanegodd.

'Pen yn y tywod'

Gorffennodd Nic Evans chwarae yn 2012, ond ar 么l i'r achos cyfreithiol ddod i'r amlwg ym mis Rhagfyr, fe ddechreuodd gwestiynu ei hun.

"Dwi wedi bod yn rhoi fy mhen yn y tywod i ddweud y gwir," meddai.

"Dwi'n eitha positif fel person, a dwi'n meddwl bod rygbi wedi rhoi lot i fi, so dwi'n teimlo'n ddiolchgar iawn am rygbi.

"Ond rwy'n mynd i weld niwrolegydd ac os oes gen i symptomau tebyg dwi eisiau gwybod amdano fe.

"Dwi'n fam i dri o blant ac mae angen i fi feddwl am y dyfodol, ac mae angen i fi gwybod os oes siawns o hyn yn digwydd imi, sut dwi'n mynd i ymdopi."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Merched yn chwarae rygbi ym Mhrifysgol Abertawe

Awgrymodd ymchwil Prifysgol Abertawe y llynedd fod chwaraewyr rygbi benywaidd mewn mwy o berygl o ddioddef cyfergyd na dynion - ac mae'r effeithiau'n fwy difrifol.

Dywedodd Elizabeth Williams, uwch ddarlithydd mewn biomedeg, fod dynion a menywod yn fwy tebygol o ddioddef gwahanol fathau o drawiadau i'r pen a gall ymennydd menyw fod 芒 risg uwch o anaf pan fyddan nhw'n profi'r un grym allanol.

Dywedodd Tonia Antoniazzi, AS Llafur G诺yr a chyn-brop rhyngwladol Cymru, fod rhoi'r ffocws ar g锚m y dynion yn ddull "diffygiol".

"Yr hyn sy'n fy mhoeni i yw mai ychydig iawn o leisiau menywod sydd i'w clywed am eu hanafiadau a sut maen nhw wedi cael effaith ar eu bywydau drwy cyfergyd," meddai.

"Mae angen i ni fod yn siarad amdano, mae angen iddo hefyd fod yn fath o alwad i'n holl chwiorydd sydd wedi chwarae rygbi ers yr 80au i gymryd sylw os oes ganddynt unrhyw broblemau o ran cof, unrhyw faterion mewn gwirionedd nad yw'n cael ei ystyried."

Mewn datganiad dywedodd World Rugby eu bod yn parhau "i fuddsoddi mewn ymchwil sy'n benodol i fenywod a chydweithio i lywio ein rhaglenni atal anafiadau".

Ddydd Mawrth, bydd ASau yn holi arbenigwyr yn y maes.

Bydd pwyllgor yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn edrych ar r么l cyrff llywodraethu cenedlaethol, eu cyfrifoldebau i ddeall y risgiau sy'n gysylltiedig 芒 chwaraewyr, a pha gamau sy'n bosib er mwyn eu lleihau.

Pynciau cysylltiedig