大象传媒

'Bydd diffinio ystyr 'lleol' yn heriol i'r heddluoedd'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn yn siarad ar Dros Frecwast

Mae comisiynydd heddlu un o'r lluoedd sydd wedi cyhoeddi'r nifer uchaf o ddirwyon am dorri rheolau coronafeirws wedi rhybuddio pa mor heriol yw plismona rheol 'aros yn lleol'.

Mae dyfalu y bydd Llywodraeth Cymru'n llacio'r rheol 'aros gartref' ddydd Gwener wrth adolygu'r cyfnod clo sydd mewn grym ers cyn y Nadolig.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, bod dehongli'r hyn fyddai rheol 'aros yn lleol' yn ei olygu yn debygol o fod "yn eithaf heriol i'r heddlu".

Roedd yn ymateb i awgrym ddydd Mercher gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething bod rheolau newydd ar gyfer gwahanol rannau o Gymru yn bosibilrwydd.

'Pum milltir ddim yn ddigonol' mewn mannau

"Mae'r gweinidog ei hun yn dweud sut allai pum milltir fod yn gwbl wahanol mewn ardal drefol o'i gymharu ag ardal wledig," dywedodd Mr Llywelyn.

"Yn ardal Dyfed-Powys, dyw pum milltir ddim ddim yn ddigonol o ran pellter i deithio yn fy nhyb i."

Pwysleisiodd yr angen i bawb gymryd cyfrifoldeb i "beidio bod mewn man sydd yn [creu] risg o ledu'r feirws".

Mae hynny, dywedodd, yn golygu "dim teithio i hyfforddi a dim ond teithio ychydig ymhellach o ran mynd i neud y pethau hanfodol mewn bywyd".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd haf diwethaf yn brysur eithriadol i Heddlu Dyfed-Powys wrth i bobl dorri'r rheolau i ymweld 芒 llefydd fel Bannau Brycheiniog

Cytunodd Mr Llywelyn ag awgrym y gallai newid rheol teithio i gyngor teithio - a geiriad mwy amwys na rheol pum milltir y llynedd - wneud pethau'n anoddach i'r heddlu.

Dywedodd y bydd yn ymatal rhag ymweld 芒 thraeth tua 10 milltir o'r gartref er gymaint y byddai'n "dwli mynd i'r arfordir i gerdded... ystod cyfnod nesaf yma".

Ychwanegodd ei fod yn credu y bydd cyfnod pa bynnag newidiadau fydd yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener, "yn fyrrach na'r arfer... achos wrth gwrs mae'r Pasg yn dod yn fuan iawn ar 么l y cyhoeddiad hyn yr wythnos yma".

"Dwi'n deall fydd 'na gyhoeddiadau sydd yn s么n am yr hyn sydd yn newid nawr, ond hefyd yn edrych i'r dyfodol yngl欧n 芒 rywfaint o newidiadau fydd yn digwydd o gwmpas amser Pasg hefyd."

Beth bynnag y newidiadau, dywedodd Mr Llywelyn ei fod yn disgwyl cyfnod mwy prysur wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio, wedi i'r llu weld un o'i gyfnodau prysuraf erioed haf diwethaf.

"Dyna pam y'n ni'n galw yn y trafodaethe y'n ni'n ca'l gyda Llywodraeth Cymru, i'r canllawie fod yn glir [yn] y misoedd nesa' trwyddo i'r haf."

'Symud o gam i gam'

"Agorodd y llifddorau y llynedd yn yr haf ac fe ddoth llawer iawn o bobl draw yma i Geredigion, meddai arweinydd y cyngor sir, Elen ap Gwynn, oedd hefyd ar raglen Dros Frecwast.

"Yn lwcus, gafodd o ddim effaith negyddol," ychwanegodd, gan grybwyll cyngor arbenigwyr bod llai o berygl i'r feirws ledu wrth i bobl fod yn yr awyr agored ym misoedd yr haf.

Mae Mark Drakeford eisoes "wedi agor y drws" i'r posibilrwydd, meddai, o ailagor y sector lletygarwch yn raddol, yn enwedig llety gwyliau hunan-arlwyo, ond gall hynny wrthdaro unrhyw reol i aros yn lleol.

"Dwi wedi gofyn y cwestiwn yna," dywedodd, "a'r ateb ges i [oedd] bydde nhw'n symud o gam i gam, o arhoswch adre i arhoswch yn lleol - hwnna'n swnio'n debyg i ddod i rym ddechra' wsos nesa' - i arhoswch o fewn Cymru."