´óÏó´«Ã½

Dathlu Sul y Mamau ar ôl blwyddyn anodd

  • Cyhoeddwyd
Cerys gyda Caio - yn yr ysbyty ac yn ddiweddarFfynhonnell y llun, Llun teulu

Wrth ddathlu Sul y Mamau, rhiant newydd sy'n rhannu ei phrofiad o fod yn fam am y tro cyntaf mewn pandemig a'i babi yn yr ysbyty am saith mis.

Ar Fawrth 16 y llynedd, roedd Cerys Wyn yn edrych ymlaen at gael ei babi cyntaf fis Mehefin ac yn gobeithio cael haf braf o fagu. Ond fe newidiodd ei bywyd hi - a'r byd - yn gynt na'r disgwyl.

Roedd wedi cerdded i'w gwaith y diwrnod hwnnw a dechrau cael poenau yn ystod y dydd oedd yn achosi pryder.

"Ro'n i newydd gael cinio a theimlo bod poena 'da fi," meddai. "Erbyn hanner awr wedi pedwar ro'n i'n meddwl 'fi ddim yn teimlo'n dda o gwbl'. Ddaeth Huw y gŵr i bigo fi lan ac aethon ni'n syth i'r ysbyty."

O fewn pedair awr roedd Caio Wyn wedi cyrraedd yn pwyso llai na thri phwys, ac roedd blwyddyn llawn sialensiau o'u blaenau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dau bwys ac 11 owns oedd Caio pan gafodd ei eni

"Roedd e'n 11 wythnos yn gynnar ac roedd e wedi gorfod cael ei resuscitatio," meddai Cerys, sy'n byw yng Nghaerdydd. "Roedd y consultants i gyd yn yr ystafell ac roedd amboiti 10 person yn y stafell pan nes i gael e."

Doedd neb yn disgwyl i'r babi ddod yn gynnar ond roedd sgan wythnosau ynghynt wedi codi pryderon.

Doedd y beipen fwyd ddim yn mynd yr holl ffordd i'r stumog ac felly drannoeth yr enedigaeth roedd yn rhaid i'r babi fynd am lawdriniaeth i osod tiwb er mwyn ei fwydo.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y llun cyntaf o'r babi newydd, cyn iddo fynd i'r uned gofal dwys - a'r rhieni dal yn eu dillad gwaith oherwydd y brys

Oherwydd ei fod mor fychan cafodd ei rieni newydd wybod y byddai'n rhaid iddo aros yn Ysbyty Athrofaol Cymru am dri mis arall tan fydden nhw'n mentro cau'r bwlch rhwng y gwddf a'r stumog.

Yn goron ar y cyfan, o fewn dyddiau daeth cyfyngiadau'r cyfnod clo i rym. Dim ond un rhiant ar y tro fyddai'n cael mynd i weld Caio, cyn i'r rheolau gael eu tynhau ymhellach a dim ond un rhiant y dydd oedd yn cael mynd i'r ysbyty.

"Y peth mwya' caled oedd gorfod expressio llaeth heb gael babi gyda fi," meddai Cerys. "Am bum mis nes i neud e. Doedd neb yn gallu mynd i'w weld e i'r ysbyty os oeddwn i'n teimlo bod fi ffili un dydd neu angen cael break.

"Rhai dyddiau doeddwn i ffili mynd mewn o gwbl achos bod gŵr fi wedi mynd mewn. Doedd e ddim yn naturiol i fod i ffwrdd o dy blentyn di. Mae wedi bod yn anodd."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Oherwydd rhesymau meddygol bu'n rhaid gohirio'r llawdriniaeth sawl tro ac roedd Caio i mewn dros yr haf cyfan a chyfnod mamolaeth Cerys yn wahanol iawn i'r hyn oedd wedi ei obeithio:

"Ro'n i'n edrych 'mlaen achos bod un o ffrindiau fi'n cael babi mis Ebrill a fi Mehefin, ac roedd chwaer fi'n cael ail babi hi mis Ebrill.

"Yn yr haf bydde ni wedi gallu mynd i gaffis a mynd am walks a chael playdate bach yn tÅ· ein gilydd, a bydde wedi bod yn neis dreifo lan i weld fy chwaer yng nghanol wythnos achos bydde hi wedi bod bant hefyd a mynd mas gyda nhw achos roedd pobl yn gallu mynd o gwmpas bach mwy yn yr haf.

"Ti yn teimlo bach bod rhywbeth wedi cael ei chymryd oddi wrthot ti, beth mae cyfnod mamolaeth i fod."

Ar ôl saith mis o ddisgwyl, aed a Caio i'r theatr a sylweddoli bod y sefyllfa yn waeth na'r disgwyl a'r driniaeth yn amhosib. Felly fis Hydref fe gafodd fynd adref am y tro cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Huw gyda Caio ar ôl iddo gael mynd adref

"Roedd e'n lyfli jest gallu bod 'da'n gilydd fel teulu," meddai Cerys. "Dwi'n gwybod bod locdown wedi bod ond o leia' ni wedi gallu bod gyda'n gilydd a jest treulio amser 'da'n gilydd lot mwy. Mae Huw wedi gallu hala lot mwy o amser 'da fi na beth bydde fe fel arfer - mae'n gweithio gartref nawr.

"Wnaeth Mam a Dad weld e gynta' fis Tachwedd. Roedd e'n lyfli, jest gweld nhw'n dod trwy'r drws a methu credu bron bod nhw wedi gweld e o'r diwedd, a bod e'n bodoli. Roedden nhw'n cael lluniau bob dydd ond actually gweld e a chael gafael arno fe. Roedd hynny'n neis.

"Un o'r pethe anodda' oedd taw dim ond Mam a Dad a Mam a Thad Huw sydd wedi ei weld e - a ma'n chwaer i wedi gweld e unwaith - a that's it, sneb arall wedi gweld e."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Caio yn cyfarfod rhieni Cerys a Huw - neu Mam-gu a Tad-cu, a Mama

Bydd Caio, sydd bron yn flwydd, nawr yn cael triniaeth wahanol pan yn hÅ·n ac ymhen cwpwl o fisoedd bydd Cerys yn dychwelyd i'w gwaith.

Er gwaetha'r flwyddyn anodd, mae Cerys, sy'n llawn canmoliaeth i'r tîm meddygol yn yr ysbyty yng Nghaerdydd, yn mwynhau'r profiad o fod yn fam ac yn llawn balchder o'i mab:

"Ma' fe'n grêt. Tan ti'n cael babi ti ddim yn gwybod be' mae pawb arall yn siarad am - mae mor lyfli. Mae'n trial dechrau cropian nawr ond yn rili frustrated - mae o eisiau mynd i bob man ond ffili, a mae'n bablan.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Caio yn flwydd oed ar Fawrth 16

"Mae'r bobl sy'n dod yma - y dietician a'r speech therapist - maen nhw methu coelio bod o'n prem… mae ei ddatblygiad o yn rili da ac mae'n hapus, heblaw pan mae'n cael dannedd trwyddo.

"Fydd e'n cael llawdriniaeth gobeithio pan mae'n cerdded felly falle diwedd y flwyddyn.

"Mae'r consultant wastad yn dweud 'he's done so well, there are so many thing that could have gone wrong - but he's strong'.

"Mae fe wedi bod yn lyfli ac mae o'n neud fi'n emosiynol pan fi'n meddwl pa mor bell mae o wedi cyrraedd."

Hefyd o ddiddordeb: