Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
AS: Penderfyniad ar ailagor siopau yn un 'anghyfforddus'
Nid oedd gweinidogion Cymru yn "gyffyrddus" gyda'r penderfyniad i ganiat谩u i archfarchnadoedd werthu eitemau sydd ddim yn hanfodol cyn ailagor pob siop, yn 么l dirprwy weinidog yr economi.
Ond dywedodd Lee Waters AS ei bod yn benderfyniad "pragmatig" i godi gwaharddiad yr archfarchnadoedd dair wythnos cyn caniat谩u i siopau sydd ddim yn hanfodol ailagor.
Dywedodd mai dyma oedd "y peth lleiaf peryglus" i'w wneud, ond roedd yn cydnabod nad oedd yn benderfyniad hawdd.
Y llynedd, yn ystod y cyfnod clo byr, dywedodd Prif Weinidog Cymru fod gwahardd archfarchnadoedd yn ogystal 芒 siopau llai rhag gwerthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol yn "fater syml o degwch".
Cyn yr adolygiad clo diweddaraf, dywedodd Mark Drakeford y byddai gweinidogion yn edrych i "ddechrau ailagor rhywfaint o fanwerthu nad yw'n hanfodol".
Bydd hynny'n dechrau nawr ar 22 Mawrth pan all canolfannau garddio ailagor a bydd archfarchnadoedd yn tynnu'r deunydd lapio o'u eiliau eitemau sydd ddim yn hanfodol.
Mae disgwyl i bob siop arall ailagor o 12 Ebrill, yn unol 芒'r amserlen yn Lloegr.
Dywed Llywodraeth Cymru bod 拢150m ychwanegol ar gael i gefnogi busnesau sydd ddim yn cael ailagor tan hynny.
Pan ofynnwyd iddo ar raglen 大象传媒 Politics Wales a oedd negeseuon Llywodraeth Cymru yn ddigon clir, dywedodd Mr Waters: "Rwy'n credu bod y negeseuon wedi caniat谩u lle ar gyfer dehongli ac nid oedd hynny'n fwriad erioed.
"Rwy'n credu bod angen i ni fod mor glir ag y gallwn ond mae'n anodd iawn bod yn ddiffiniol oherwydd mae pethau'n dal i fod mor ansicr."
'Nerfus am symud yn rhy gyflym'
Ychwanegodd mai'r peth "lleiaf peryglus" i wneud oedd rhoi "rhywfaint o ryddid ychwanegol" i archfarchnadoedd am eu bod ar agor yn barod ac am fod mesurau diogelwch yn barod.
Gan gwestiynu a oedd yn cydnabod ei fod yn annheg i siopau llai, dywedodd: "Nid oedd yn rhywbeth roeddem yn gyffyrddus ag ef, os ydw i'n hollol onest 芒 chi, ond mae'n ddyfarniad pragmatig."
Gyda chyfraddau achosion Covid-19 yn parhau i ostwng, cyfraddau positifrwydd i lawr, a llai o bwysau ar ysbytai, bu galwadau gan rai pobl i Lywodraeth Cymru gyflymu ei llacio o ran cyfyngiadau cloi.
Ond dywedodd Lee Waters fod cynghorwyr a gweinidogion Llywodraeth Cymru yn "nerfus iawn yngl欧n 芒 symud yn rhy gyflym" oherwydd bod amrywiad Caint "70% yn fwy heintus na straen gwreiddiol Covid".