Cynllun ynni morol Doc Penfro yn hollti barn yn lleol
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr ar hanes morol wedi rhybuddio y gallai cynllun i ddatblygu ynni morol yn Noc Penfro gael effaith "gatastroffig" ar y Dociau Brenhinol hanesyddol yn y dref.
Mae'r cynlluniau wedi cael eu cyflwyno gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, ac maen nhw'n rhan o brosiect ehangach gwerth 拢60m i ddatblygu ynni morol yn Sir Benfro - un o brosiectau Dinas Rhanbarth Bae Abertawe.
Mi allai Ardal Forol Doc Penfro greu 1,800 o swyddi llawn amser yn Sir Benfro.
Fe sefydlwyd y Dociau Brenhinol yn Noc Penfro ym 1814, a dyma'r unig un o'i fath yng Nghymru.
Cafodd 250 o longau eu hadeiladu yn y dociau rhwng 1816 a 1926 ac yn ddiweddarach fe ddaeth Doc Penfro yn gartref i'r awyrennau Sunderland enwog yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Bwriad y cais yw datblygu cyfleusterau i adeiladu a pharatoi dyfeisiadau ar gyfer ynni morol.
'Cynnig cymaint o gyfleoedd'
Yn 么l Jess Hooper, rheolwr cynllun ar gyfer Ynni Morol Cymru, mae'r cais cynllunio yn Noc Penfro yn allweddol ar gyfer twf y diwydiant yn lleol.
"Mae'r isadeiledd yn allweddol. Fe fydd y gwaith adeiladu yn digwydd ar y lan, ac mae angen creu cyfleusterau newydd i greu pont rhwng y lan a'r m么r," meddai.
"Mae hwn yn gynllun allweddol. Mae'n cynnig cymaint o gyfleoedd o ran swyddi ac i bobl ifanc.
"Ar gyfer y gigawat cyntaf o drydan fydd yn cael ei gynhyrchu gan dyrbeini ar y m么r, fe fydd 1,100 o swyddi yn cael eu creu yn Sir Benfro."
Serch hynny, mae nifer o gyrff treftadaeth wedi lleisio eu gwrthwynebiad huawdl i'r cynlluniau.
O dan y cynlluniau, fe fydd llithrfeydd, y timber pond a'r doc sych yn cael eu gorchuddio ar gyfer gwaith adeiladu.
Mae'r Gymdeithas Fictorianaidd, Y Gr诺p Sioraidd, Cyngor Tref Doc Penfro, Y Gymdeithas Henebion ac Achubwch Treftadaeth Prydain i gyd wedi cyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol i'r cais cynllunio.
'Pam cael gwared arnyn nhw?'
Dywedodd Dr Ann Coats, cadeirydd Cymdeithas Dociau'r Llynges, y byddai'r cynllun yn arwain at niwed "gatastroffig" i dreftadaeth y Dociau Brenhinol yn Noc Penfro.
"Pan ydych chi yn dymchwel hanner y llithrfeydd a'u llenwi, ac yn gwneud yr un peth gyda'r dociau sych, dyw hi ddim yn bosib eu cael nhw 'n么l," meddai.
"Does neb erioed wedi llwyddo i ddangos bod modd dadwneud y broses. Ry'n ni yn s么n am ddinistrio adeiladau cofrestredig.
"Pam cael gwared arnyn nhw? Dyma'r rheswm pam yr adeiladwyd Doc Penfro."
Dywedodd prif weithredwr awdurdod y porthladd, Andy Jones, bod y cynlluniau yn rhan o "esblygiad" y dociau dros y canrifoedd.
"Ynni morol yw'r cam nesaf yn y broses," meddai.
"Mae hi'n amhosib datblygu cyfleusterau modern i borthladd heb gael effaith, ac felly o'r cychwyn cyntaf, ry'n ni wedi gweithio gyda'r awdurdod lleol, Cadw a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyn lleied o effaith a phosib."
Mae awdurdod y porthladd yn dweud y bydd y gwaith adeiladu yn cael ei wneud mewn ffordd sydd yn diogelu'r adeiladau hanesyddol, fel y gellid eu datgelu unwaith eto yn y dyfodol.
'Edrych mewn ffordd strategol'
Yn 么l William Wilkins, wnaeth arwain y gwaith o adfer plasty a gerddi Aberglasne yn Sir Gaerfyrddin, mae angen cynllun strategol ar gyfer y Dociau Brenhinol.
"Mae angen edrych ar y dociau mewn ffordd strategol er mwyn ystyried beth mae'n medru cynnig mewn termau addysgol a thwristiaeth," meddai.
"Mi allai gynnig cryn dipyn yn fy marn i."
Mae disgwyl i'r cais cynllunio gael ei ystyried gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Penfro yn ystod y misoedd nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd13 Mai 2017