大象传媒

Diwedd y daith i dr锚n st锚m Llangollen heb fwy o arian

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tren NadoligFfynhonnell y llun, Rheilffordd Llangollen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dechreuodd y gwaith o adfer y rheilffordd yn 1975

Mae'r ymddiriedolwyr Rheilffordd Llangollen wedi gwneud ap锚l am fuddsoddiad ariannol gan ddweud fod yr atyniad twristiaeth mewn peryg o gau am byth oherwydd dyledion.

Fe gymerodd hi dros 40 mlynedd i gannoedd o wirfoddolwyr adfer y rheilffordd tr锚n st锚m 10 milltir o hyd rhwng Llangollen a Corwen.

Mae yna amcangyfrif fod y lein yn cyfrannu tua 拢8m i'r diwydiant twristiaeth yn y gogledd-ddwyrain.

Eisoes mae adain fusnes cwmni Rheilffordd Llangollen wedi ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.

Ffynhonnell y llun, iStock
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r lein wedi helpu denu pobl i Langollen a'r cyffiniau

Dywedodd Peter Edwards, cadeirydd bwrdd ymddiriedolwyr newydd Rheilffordd Llangollen, fod yr adain fusnes wedi bod yn gwneud colledion ers tair blynedd ac "nad oedd bellach yn gynaliadwy".

Ychwanegodd fod y cwmni cyfunedig 芒 dyledion o tua 拢250,000 a bod argyfwng Covid wedi gwaethygu'r sefyllfa.

Daw'r colledion o ganlyniad i'r rhan o'r busnes sy'n ymwneud 芒 gwaith peirianyddol, gan gynnwys gwaith cynnal a chadw, ar beiriannau Llangollen a rheilffyrdd eraill.

'Gobeithio gallu dwyn persw芒d'

Mae'r 15 aelod o staff ar gyfnod ffyrlo ac wedi cael clywed fod yna risg y byddan nhw'n colli eu swyddi.

Ond dywed Mr Edwards fod yna obaith o hyd o allu ailagor y gwasanaeth rhwng Llangollen a Chorwen.

Mae hyn oherwydd bod yr adain sy'n gyfrifol am y rheilffordd, yn hytrach na'r gwaith cynnal a chadw, yn ymddiriedolaeth ar wah芒n.

Nhw sy'n gyfrifol am logi'r trac a'r adeiladau gan Gyngor Sir Ddinbych, a nhw hefyd sydd 芒'r drwydded angenrheidiol ar gyfer cynnal gwasanaeth ar y lein.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu gwirfoddolwyr wrthi am dros 40 mlynedd yn adfer y lein rhwng Llangollen a Chorwen

"Cyn belled 芒'n bod yn gallu ufuddhau 芒'r gofynion rheoleiddio, ac os allwn achub rhai o'r prif asedau er mwyn rhedeg y gwasanaeth... yna mae yna siawns dda y gallwn ailddechrau yma," meddai Mr Edwards.

Mae lein Llangollen, yn debyg i fusnesu eraill yn y sector twristiaeth, wedi derbyn grantiau gan y llywodraeth yn ystod y pandemig.

Dywed Mr Edwards ei fod yn gobeithio gallu dwyn persw芒d i ddenu mwy o gymorth o wahanol ffynonellau er mwyn ailagor.

"Beth sydd angen i'r ymddiriedolaeth ei wneud yw ailffocysu ar ein r么l fel sefydliad treftadaeth sy'n ymwybodol o'i bwysigrwydd i'r dref ac i Ddyffryn Dyfrdwy," meddai.

"Mae'n rhaid i ni wneud mwy i bwysleisio hynny a gwneud achos cryf i ddarbwyllo sefydliadau fel Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych i roi cymorth gyda materion ariannol a chyfreithiol sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y gwaith adfer yn cynnwys gosod platfform newydd yng Nghorwen

Ychwanegodd pe na bai'r ymddiriedolwyr yn llwyddiannus yn eu hymdrechion i ailagor, yna fe allai'r rheilffordd gau am byth.

Dywedodd fod hyn oherwydd y byddai unrhyw sefydliad newydd fyddai am fentro yn wynebu bil cychwynnol o 拢250,000 ar gyfer costau sicrhau trwydded i allu cynnal y gwasanaeth.