Galw am gymorth i weithwyr a lleoliadau'r celfyddydau
- Cyhoeddwyd
Blwyddyn union ers i theatrau Cymru gau eu drysau oherwydd y pandemig, mae 'na alw ar i'r cronfeydd cymorth barhau i gefnogi gweithwyr llawrydd ynghyd 芒 chanolfannau celfyddydol.
Yn 么l ymgyrchwyr mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi "chwalu" y sector yn llwyr.
Ddydd Mawrth bydd Creu Cymru yn lansio ymgyrch #HiraethuAmdanat i geisio tynnu sylw at effaith y pandemig ar y celfyddydau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn deall y pryderon a'u bod eisoes wedi clustnodi 拢63m yn eu cronfeydd cymorth.
Prin iawn ydy'r cyfleoedd wedi bod i actorion, cantorion a gweithwyr llawrydd yn y maes hwn ers i'r pandemig afael oherwydd natur y maes.
Yn 么l un cyfarwyddwr celfyddydau fe fydd angen rhagor o gymorth ar 么l mis Ebrill.
'Angen mwy o fuddsoddiad'
"Dwi'n gobeithio bod 'na rhyw fath o olau ar ddiwedd y twnnel," meddai cyfarwyddwr Celfyddydau Pontio ym Mangor, Osian Gwynn.
"Mi fyddwn ni angen mwy o fuddsoddiad.
"'Ni ddim yn gwybod beth yn union yw'r trefniant ar gyfer y cyfnod wedi mis Ebrill ond bydd angen buddsoddiad a ni'n obeithiol y daw," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru.
Mae Pontio wedi ceisio gwneud nifer o ddigwyddiadau rhithiol ond dydy'r rheini ddim yn cynnig yr un cysur na gobaith i actorion sy'n parhau i chwilio am waith.
Un o'r dram芒u olaf i gael ei llwyfannu yng nghanolfan Pontio cyn y cyfnod clo llynedd oedd addasiad o nofel 么l-apocalyptaidd Manon Steffan Ross, Llyfr Glas Nebo.
"Dwi'n teimlo mor lwcus gawsom ni orffen y daith a'r sioe," meddai Tara Bethan, oedd yn chwarae rhan y prif gymeriad.
"Mi nes i golli lot o waith a dwi dal wrthi yn colli lot o waith oherwydd y llynedd. Y syniad oedd pwshio bob dim ymlaen blwyddyn ac yn amlwg dydi hynna heb weithio allan.
"Y gwirionedd ydy bod y sefyllfa gelfyddydol ar hyn o bryd ar chw芒l ac mae'n dorcalonnus."
Wrth drafod cynulleidfaoedd yn dychwelyd dywedodd nad ydy cael "person bob tair s锚t er mwyn cadw pellter ddim yn bosib yn ariannol".
"Dwi'n deall bod yn rhaid aros ond am ba hyd?"
Yn Wrecsam, trodd canolfan gelfyddydol T欧 Pawb at y we ar 么l gorfod cau y llynedd.
Ochr yn ochr 芒 ffrydio gweithdai a gigiau, llwyfannodd y ganolfan .
"Pan fedrwn ni, mi wnawn ni wneud pethau mewn person yn yr adeilad," meddai Morgan Thomas, trefnydd digwyddiadau yn Nh欧 Pawb.
"Ond unrhyw beth 'dan ni yn ei wneud, yn symud 'mlaen 'dan ni'n gobeithio ei roi ar-lein hefyd fel bod pawb yn gallu cymryd rhan a gweld hynny."
Agor stiwdio yn ystod pandemig
A thra fo lleoliadau eraill yn cau eu drysau, agorodd sefydliad celf Periclo stiwdios mewn hen gapel yn Rhosrobin yn ystod gwanwyn 2020.
O'r cychwyn roedd llawer o alw am ofod o'r fath ymhlith artistiaid, gan gynnwys myfyrwyr celf oedd yn methu gweithio ar eu campws oherwydd cyfyngiadau.
"Llenwodd y lle'n sydyn iawn," meddai Paul Eastwood, un o'r artistiaid preswyl.
"Roedd y stiwdios cyntaf i ni eu hadeiladu'n llawn, ac wedyn roedd rhestr aros, felly adeiladon ni fwy o stiwdios lawr grisie' ond mae ganddon ni dal restr aros o 10."
Mae Periclo'n gobeithio dod o hyd i ofod newydd i allu ateb y galw.
Mae Creu Cymru, yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer theatrau a chanolfannau Celf Cymru yn lansio ymgyrch #HiraethuAmdanat ddydd Mawrth i dynnu sylw at faint maen nhw'n gweld eisiau cynulleidfaoedd, perfformwyr a staff.
Yn sgil hyn fe fydd theatrau ar hyd a lled Cymru yn cael eu goleuo'n lliwiau'r enfys.
'Pwysau sylweddol ar y sector'
Wrth ymateb i'r galw am fwy o gymorth dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Celfyddydau fod "pwysau sylweddol ar y sector diwylliannol heb ddyddiad pendant ar gyfer ailagor".
"Mae'n ddealladwy bod hyn yn achosi poeni meddwl. Byddwn yn gallu ariannu unigolion a sefydliadau trwy gydol 2021," meddai llefarydd.
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw hefyd yn deall pryder y maes a'u bod yn gweithio at ailagor yn ddiogel.
"Hyd yn hyn rydym wedi clustnodi 拢63m i gronfeydd caledi diwylliannol," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020