大象传媒

Drakeford: Brechlyn Covid-19 AstraZeneca yn ddiogel

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Y brechlyn gan AstraZeneca/RhydychenFfynhonnell y llun, Vincenzo Izzo
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y brechlyn gan AstraZeneca/Rhydychen

Mae brechlyn Covid-19 AstraZeneca/Rhydychen "yn ddiogel" ac nid yw Llywodraeth Cymru'n rhannu'r pryderon sydd wedi eu mynegi mewn gwledydd eraill, meddai'r Prif Weinidog.

Daeth sylwadau Mark Drakeford wrth i sawl gwlad Ewropeaidd gymryd cam rhagofalus i atal defnyddio'r brechlyn dros dro yn dilyn adroddiadau bod rhai pobl wedi dioddef ceuladau gwaed ar 么l cael y pigiad.

Wrth siarad yn ystod y sesiwn holi ac ateb wythnosol yn y Senedd, dywedodd Mr Drakeford wrth aelodau: "Mae fy neges i bobl yng Nghymru yn syml iawn: mae brechlyn Rhydychen yn ddiogel."

"Nid yw'r pryderon a fynegwyd amdano mewn man arall yn cael eu rhannu gan y rheoleiddiwr meddyginiaethau yma yng Nghymru, nid ydynt yn cael eu rhannu gan Sefydliad Iechyd y Byd, nid ydynt yn cael eu rhannu gan asiantaeth rheoleiddio meddyginiaethau Ewrop, ac yn sicr nid ydynt yn cael eu rhannu gan ein Prif Swyddog Meddygol a'n cynghorwyr gwyddonol."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nid yw'r Prif Weinidog am i unrhyw un yng Nghymru deimlo'n betrusgar wedi'r penderfyniad mewn rhai gwledydd i oedi rhoi'r brechlyn

Ychwanegodd ei fod e a'r Gweinidog Iechyd wedi profi'r holl dystiolaeth ddydd Llun mewn cyfarfod gyda'r Prif Swyddog Meddygol, a'i fod yn credu'n llwyr nad oes mwy o risg o ddatblygu ceulad gwaed ar 么l derbyn y pigiad nag y byddai yn y boblogaeth yn gyffredinol ar unrhyw adeg.

"Mae ceuladau gwaed yn digwydd drwy'r amser yn y boblogaeth ac nid yw'r brechlyn yn mynd i gynyddu eich risg o hynny", meddai Mr Drakeford.

Pwysleisiodd hefyd nad yw am i "unrhyw un yng Nghymru a allai fod yn betrusgar yngl欧n 芒'r brechlyn ddod yn fwy petrusgar oherwydd y straeon y byddant wedi eu gweld neu eu clywed".

Mae rhai o'r brechlynnau AstraZeneca yn cael eu cynhyrchu yn ffatri Wockhardt yn Wrecsam.

'Diogel i barhau'

Dywedodd Dr Richard Roberts, pennaeth Rhaglen Clefydau y Gellir eu Hatal Drwy Frechlyn (MHRA), Iechyd Cyhoeddus Cymru, nad oedd yn deall pam bod rhai gwledydd wedi atal defnydd o'r brechlyn.

Roedd y gwahanol asiantaethau sy'n caniat谩u a monitro meddyginiaethau yn Ewrop a'r DU yn dweud ei bod yn ddiogel i barhau i ddefnyddio'r brechlyn, meddai.

"Y rheswm yr ydym yn cael ein brechu yw er mwyn ein hamddiffyn rhag Covid, sy'n dal o gwmpas."

O gymharu'r risg ddamcaniaethol o dioddef ceulad gwaed gyda'r siawns o farw oherwydd Covid, byddai cael y pigiad 1,000 gwaith yn fwy diogel, meddai Dr Roberts.

Roedd y risg o farw o Covid yn amlwg, meddai, ond nid oedd sicrwydd bod y nifer fechan o achosion o geulad gwaed yn gysylltiedig 芒'r brechlyn.

"I mi, mae'n anodd iawn ei ddeall - rydym yn dibynnu ar y wyddoniaeth i'n harwain.

"Mae'r asiantaeth feddyginiaethau Ewropeaidd, a'r MHRA yn datgan yn gwbl glir ei bod yn ddiogel i ddefnyddio'r brechlyn, ac eto mae gennych chi'r penderfyniadau cenedlaethol i oedi'r rhaglen yng nghanol pandemig.

"Os ydy'r asiantaethau'n dweud ei bod yn ddiogel i barhau, mae'n bwysig gwrando ar hynny.

"Nid ydym yn gweld unrhyw arwydd bod pobl ddim yn dod ymlaen i gael eu brechu. Mae gan bobl bob hyder yn y brechlyn

"Pe bawn i'n cael cynnig y brechlyn hwnnw heddiw, byddwn yn ei gymryd, heb unrhyw bryderon o gwbl."