大象传媒 i 'wreiddio gwasanaethau o fewn cymunedau'
- Cyhoeddwyd
Bydd swyddi a chynyrchiadau'n cael eu symud gan y 大象传媒 o Lundain i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon dros y chwe blynedd nesaf fel rhan o gynllun y gorfforaeth i "wreiddio ei gwasanaethau a'i straeon o fewn cymunedau".
Fel rhan o'r cynllun, a gafodd ei amlinellu i staff fore Iau gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Tim Davie, bydd Cymru yn dod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer newyddiaduraeth Hinsawdd a Gwyddoniaeth ar draws y 大象传媒, a bydd rhaglenni Newsnight ar 大象传媒 Two yn cael eu cyflwyno o Gaerdydd, Belfast, Glasgow a Manceinion drwy gydol y flwyddyn.
Bydd r么l gomisiynu newydd yng Nghymru yn cael ei chreu wedi i'r 大象传媒 ddatgelu y bydd y rhan fwyaf o'i chynyrchiadau teledu rhwydwaith yn cael eu cynhyrchu y tu allan i Lundain - o leiaf 60% erbyn 2027.
Y bwriad ydy y bydd hynny'n arwain at ddyblu nifer y cyd-gomisiynau o Gymru sy'n ymddangos ar sianeli ar draws y DU, yn dilyn llwyddiant cyfresi fel Keeping Faith/Un Bore Mercher, Hidden/Craith a Hinterland/Y Gwyll.
Bydd y ffordd mae pobl yn derbyn eu gwasanaethau ar-lein 大象传媒 News yn newid hefyd, gyda gwasanaeth ar-lein 大象传媒 News yn y DU yn darparu gwasanaeth sydd wedi'i bersonoli.
Yn ogystal bydd rhwydwaith newydd o ohebwyr cymunedol digidol ar draws y DU yn cael ei greu "i ddod yn agosach at rai o'r cymunedau sy'n cael eu tan-gynrychioli fwyaf ac i gryfhau ein darpariaeth newyddion ar-lein yn rhanbarthol".
Wrth gyhoeddi'r cynlluniau dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr y Cenhedloedd a Chyfarwyddwr 大象传媒 Cymru: "Mae'r cynllun hwn yn ymwneud 芒 dod 芒'r 大象传媒 yn gyfan yn agosach at gynulleidfaoedd - yng Nghymru ac ar draws y DU.
"Mae'n drawsnewidiad o'r top i'r gwaelod - ac yn ymrwymiad gan bob rhan o'r 大象传媒 i wreiddio ein gwasanaethau a'n straeon ym mywydau ein cynulleidfaoedd.
"Mae'r ymrwymiad i wario 拢700m tu allan i Lundain yn mynd i gynnau cymaint o gyfleoedd newydd i greu swyddi a datblygu sgiliau ar draws y sector gynhyrchu yng Nghymru.
"Rwy'n falch tu hwnt fod Cymru am fod yn ganolfan o ragoriaeth ar gyfer newyddiaduraeth hinsawdd a gwyddoniaeth. Does dim stori bwysicach - a dwi wrth fy modd fod Cymru yn mynd i gael y cyfle i arwain y ffordd."
Ymhlith y cyhoeddiadau eraill:
Mwy o bersonoli ar-lein er mwyn sicrhau bod cynnwys Cymraeg yn amlycach ac yn haws cael mynediad ato
O leiaf 100 o rifynnau o raglen Radio 4 Today yn cael eu cyd-gyflwyno y tu allan i Lundain bob blwyddyn.
100 o swyddi yn cael eu creu yn nhimau datblygu cynnyrch ac ar-lein 大象传媒 News y tu hwnt i Lundain.
50% o wariant Radio rhwydwaith y 大象传媒 yn cael ei fuddsoddi y tu allan i Lundain - i fyny o tua 40% ar hyn o bryd. Yn ogystal 芒 symud y t卯m gwyddoniaeth, bydd cyfresi amser-brig allweddol ar Radio 1, 1Xtra, Radio 2 a Radio 4 yn symud o Lundain i'w cynhyrchu ar draws y DU.
Gweithio gyda S4C i 'foderneiddio ein partneriaeth hir-sefydlog er mwyn adlewyrchu'r tirlun digidol'.
Dadansoddiad gohebydd 大象传媒 Cymru, Teleri Glyn Jones:
Mae'r cyhoeddiad yma yn newid diwylliannol sylweddol i'r 大象传媒.
Hyd yma mae'r gwasanaethau cenedlaethol (Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon) a'r gwasanaethau rhanbarthol yn Lloegr wedi gweithio ar wah芒n, bron fel lloeren, i'r gwasanaethau rhwydwaith sy'n bennaf wedi cael eu lleoli yn Llundain.
Dyma newid pwyslais sy'n datganoli grym a budd economaidd y 大象传媒 tu hwnt i'r M25.
Ond nid dim ond swyddi ac arian sy'n symud, mae'r gorfforaeth yn gobeithio y bydd y newidiadau yma yn golygu bod cynnwys y 大象传媒 yn adlewyrchu'r amrywiaeth o straeon a safbwyntiau sydd i'w cael o amgylch y wlad yn well.
Ond mewn gwirionedd, roedd na bwysau o sawl cyfeiriad ar y 大象传媒 i newid. Mae'r pandemig wedi taflu goleuni newydd ar ddatganoli, a'r angen i adlewyrchu'r gwahaniaethau gwleidyddol ym Mhrydain.
Ac mae pwysau gwleidyddol wedi bod hefyd - gyda rhai o fewn Llywodraethy DU yn cwestiynu dyfodol model ariannu y gorfforaeth yn gyhoeddus.
Y gobaith ydy bod y newidiadau pellgyrhaeddol yma yn mynd yn ddigon pell i dawelu beirniaid y 大象传媒.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2021