大象传媒

Blog Vaughan: Bant 芒 ni

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Un wennol ni wna wanwyn ac un poster ni wna etholiad ond fe sylwais ar fy mhoster etholiad cyntaf ddoe a chyda'r pleidiau ar ganol lansio eu hymgyrchoedd mae'n bryd edrych ymlaen at yr hyn y gallwn ddisgwyl dros yr wythnosau nesaf.

Rwyf wedi colli cownt ar faint o ymgyrchoedd etholiad yr wyf wedi gohebu arnynt erbyn hyn ond hon fydd y fwyaf anodd i groniclo gan y bydd cymaint o'r ymgyrchu, os nad yn y dirgel, allan o olwg.

Ni fydd timau o ganfaswyr i'w gweld ar y strydoedd, fe fydd yr hynny o ddadleuon cyhoeddus sydd yn digwydd yn cael eu cynnal heb gynulleidfa gorfforol a'r rhan helaethaf o'r ymgyrchu yn digwydd yn y rhithfyd. Os ydych chi eisiau osgoi'r etholiad, cadwch draw o Facebook, da chi!

Y seddi i wylio, fel ym mhob etholiad datganoledig, yw'r gwregys coch o etholaethau sy'n ymestyn o Gasnewydd yn y dwyrain i Abertawe yn y gorllewin ac i fyny cymoedd 么l-ddiwydiannol Morgannwg a Gwent.

Mae 'na 22 ohonyn nhw i gyd ac os ydy'r gwrthbleidiau am dorri crib y Blaid Lafur yn fan hyn y mae gwneud hynny.

Does 'na ddim digon o seddi rhestr na seddi ymylol yng ngweddill Cymru i danseilio Llafur heb golledion yn ei chadarnle deheuol.

Dim ond un sedd o'r ddwy ar hugain yna sy ddim yn nwylo'r blaid Llafur ar hyn o bryd, sef y Rhondda, ond os ydy honna'n enilladwy i Blaid Cymru gallasai seddi eraill yn y cymoedd fod yn fregus.

Yn yr un modd bydd y Ceidwadwyr yn argyhoeddedig bod etholaethau lle mae eu hymgeiswyr wedi llwyddo yn etholiadau San Steffan, o fewn eu cyrraedd. Ymhlith y rheiny mae G诺yr, Pen-y-bont a Bro Morgannwg.

Y tu hwnt i'r de-ddwyrain fe fydd y Ceidwadwyr yn targedu'r seddi a enillwyd ganddynt yn y gogledd ddwyrain yn etholiad 2019 ond mae'n bosib y gallasai Llafur gael ei digolledu am unrhyw golledion yn y gogledd drwy'r bleidlais restr.

Fel ym mhob etholiad fe fydd llwyth o bleidiau llai yn cystadlu am bleidleisiau gan ganolbwyntio yn bennaf ar y rhestri rhanbarthol.

Fel y dangosodd presenoldeb Kirsty Williams yn y senedd ddiwethaf gall hyd yn oed un sedd fod yn allweddol wrth i lywodraeth geisio adeiladu mwyafrif.

Yn aml iawn y seddi allweddol yn y fathemateg seneddol yw'r bedwaredd sedd ar y pum rhestr ranbarthol a dim ond ff诺l fuasai'n ceisio proffwydo i bwy y bydd y rheiny'n mynd.