大象传媒

Gorchymyn 'aros yn lleol' i ddod i ben ar 27 Mawrth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Castell CaerffiliFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd y gorchymyn i 'aros yn lleol' yn dod i ben ar 27 Mawrth, os yw lefelau coronafeirws yn parhau yn isel, meddai Mark Drakeford.

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai hynny'n caniat谩u i sector twristiaeth Cymru ailagor, gan ddechrau gyda llety hunan-arlwyo a gweithgareddau awyr agored i blant dros y Pasg.

Ychwanegodd na fydd yr oedi disgwyliedig i'r llwyth nesaf o frechlynnau yn effeithio ar y targed o frechu pawb yn y grwpiau blaenoriaeth erbyn canol Ebrill.

Ond mae pryder, meddai, bod rhai pobl heb fod yn rhoi eu manylion i dimau olrhain mewn ardaloedd fel Merthyr Tudful, ble mae cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am gynllun mwy "clir" ar gyfer codi'r cyfyngiadau, tra bod Plaid Cymru eisiau gweld mwy o gefnogaeth i bobl sydd yn gorfod hunan ynysu.

Trafferth timau olrhain

Mae dros 1.2 miliwn o bobl yng Nghymru eisoes wedi derbyn un brechiad, a 318,000 wedi derbyn y brechlyn llawn o ddau ddos - y gyfradd uchaf yn y DU.

Ar hyn o bryd mae disgwyl oedi o ryw bedair wythnos yn y broses o gludo'r llwyth nesaf o frechlynnau Covid o India i'r DU.

Dywedodd Mr Drakeford bod modd iddyn nhw addasu eu cynlluniau "hyblyg" oherwydd hynny, ac nad oedd hynny am effeithio ar unrhyw un sydd eisoes yn aros am eu hail bigiad.

Ond cyfaddefodd nad oedd modd "esgus na fydd yn cael unrhyw effaith o gwbl", ac y gallai olygu bod yn rhaid arafu rhywfaint ar lacio'r cyfyngiadau presennol.

Pwysleisiodd hefyd na ddylai pobl boeni fod brechlyn AstraZeneca am achosi clotiau gwaed, fel yr oedd rhai gwledydd Ewropeaidd wedi awgrymu wrth atal eu cynllun brechu am gyfnod yn ddiweddar.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Mark Drakeford bod Cymru'n gwneud "cynnydd gwych" wrth frechu'r grwpiau blaenoriaeth

Dywedodd Mr Drakeford fod cyfradd yr achosion Covid-19 yng Nghymru'n "sefydlog" - tua 44 achos am bob 100,000 o bobl - ond bod rhai ardaloedd penodol yn peri pryder.

"Rydyn ni'n monitro'r sefyllfa yn Ynys M么n a Merthyr Tudful yn agos ble mae clystyrau o achosion, sy'n gysylltiedig 芒 chartrefi'n cymysgu'n gymdeithasol, wedi cynyddu'r gyfradd," meddai.

"Rydyn ni'n arbennig o bryderus bod pobl yn gyndyn mewn rhai llefydd o siarad gyda'n timau olrhain cysylltiadau.

"Mae'r olrhain yna'n hanfodol i weld beth yw tarddiad yr haint a pha mor bell mae wedi lledaenu.

"Bydd hyn hyd yn oed yn bwysicach wrth i ni ddechrau llacio cyfyngiadau."

Ychwanegodd nad oedd wedi diystyru cyflwyno cyfyngiadau lleol yn y ddwy ardal, ond bod "camau eraill" y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd gyntaf gan gynnwys rhagor o brofion.

Dim cwrdd dan do eto

Gyda Chymru'n wynebu Ffrainc yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn gan obeithio cipio'r Gamp Lawn, gofynnodd Mr Drakeford i bobl barhau i wylio'r rygbi "gydag aelodau eich cartref yn unig" er gwaethaf y temtasiwn i fwynhau'r awyrgylch gydag eraill.

Fe gadarnhaodd y bydd rhai siopau anhanfodol a chanolfannau garddio yn cael ailagor o ddydd Llun ymlaen, wrth i'r broses o lacio cyfyngiadau barhau.

Bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yr wythnos nesaf, meddai, ar godi'r cyfyngiadau 'aros yn lleol' ar 27 Mawrth ac ailagor rhai atyniadau awyr agored.

Ond er ei bod hi'n bosib y bydd pobl yn cael teithio'n bellach o'r penwythnos nesaf ymlaen, dyw'r Prif Weinidog heb awgrymu eto pryd y gall pobl gwrdd dan do neu ffurfio swigen 芒 chartrefi eraill eto.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhai pobl wedi bod yn cymysgu dan do ers cael eu pigiad, meddai Mark Drakeford

Wrth ateb cwestiynau yn y gynhadledd i'r wasg, dywedodd Mr Drakeford bod tystiolaeth yn awgrymu bod rhai pobl sydd bellach wedi cael y brechlyn nawr yn meddwl y gallen nhw gymysgu ag eraill dan do.

"Efallai eich bod chi wedi cael y brechlyn, ond dydy'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru dal ddim wedi," meddai.

"Ac hyd yn oed ar 么l i chi gael eich brechu mae'n cymryd tair wythnos iddo gael effaith.

"Dyw'r brechlyn ddim yn ateb i bopeth - dyw e ddim yn golygu bod pobl yn gallu ymddwyn mewn ffyrdd sy'n cynyddu'r risg."

'Angen cynllun clir'

Wrth ymateb i gyhoeddiad Mr Drakeford, galwodd y Ceidwadwyr Cymreig unwaith eto am gynllun "clir" ar sut i godi'r cyfyngiadau.

"Bydd archfarchnadoedd, er enghraifft, yn cael ailagor i fasnach anhanfodol, felly pam ddim y stryd fawr?" gofynnodd Andrew RT Davies.

"Dydy hynny ddim yn edrych yn deg i mi, ac mae'n rhaid i bobl deimlo bod y rheolau'n deg ac yn cael eu gweithredu'n hafal ar draws Cymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Andrew RT Davies fod Mark Drakeford wedi awgrymu eisoes y byddai siopau'r stryd fawr yn cael ailagor

Dywedodd Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru, sy'n Aelod o'r Senedd dros Ynys M么n ble mae un o'r clystyrau newydd o achosion, nad oedd am weld ei ardal yn mynd i mewn i gyfyngiadau lleol eto.

Ond dywedodd y dylai hynny fod yn opsiwn, er y byddai'n well ganddo weld camau eraill fel cefnogaeth i bobl sydd angen hunan ynysu.

"Mae'r gwledydd sydd wedi bod fwyaf llwyddiannus wrth daclo clystyrau o achosion lleol yn rhai sydd wedi gosod mecanwaith gref i gefnogi pobl - o gymorth ariannol sy'n well na'r hyn sydd gennym ni, i roi pobl mewn gwestai i hunan ynysu."