Sgandal gwaed: Taliadau cyfartal i ddioddefwyr o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae cleifion yng Nghymru, gafodd eu heintio gan waed nad oedd yn ddiogel, yn mynd i gael yr un cymorth ariannol 芒 thrigolion gweddill y DU.
Roedd cleifion gyda haemoffilia ymhlith miloedd i dderbyn gwaed wedi ei heintio yn y 1970au a'r 80au.
Ar hyn o bryd mae'r dioddefwyr yn derbyn 拢14,000 yn llai na phobl yn Lloegr. Mae'r taliadau hefyd yn wahanol yn Yr Alban.
Fe fydd y taliadau newydd i ddioddefwyr yn cael eu had-dalu n么l hyd at Ebrill 2019 a bydd arian i bobl gafodd eu heintio gyda HIV a Hepatitis C yn cael ei ad-dalu n么l i 2017.
Fe fydd llywodraeth y DU yn gwneud datganiad yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Iau.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ei fod yn croesawu'r penderfyniad i "roi cymorth ariannol ychwanegol i'r rhai gafodd eu heintio gyda Hepatits C a, neu, HIV".
"Mae effaith sylweddol yr heintiau ar fywydau nifer o unigolion wedi eu trafod yn eang yn Siambr y Senedd," meddai.
Sut bydd y taliadau yn newid?
Yng Ngorffennaf 2019 fe gafwyd cytundeb mewn egwyddor rhwng pedair adran iechyd gwledydd Prydain i roi diwedd ar y gwahaniaethau oedd yn bodoli.
Trysorlys y DU fydd yn gyfrifol am ariannu nifer o'r newidiadau.
Fe fydd y taliadau sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru yn cael eu cynyddu i'r hyn sy'n cael ei dalu yn Lloegr a'r Alban .
Fe fydd taliadau hefyd yn cael eu gwneud i bartneriaid sydd wedi colli eu hanwyliaid.
Fe fydd taliadau cleifion gafodd eu heintio gan Hepatitis C (Cam 1) yn cynyddu o 拢20,000 i 拢50,000, gyda 拢20,000 yn ychwanegol pe bai'r claf yn datblygu Hepatitis C (Cam 2).
Fe fydd taliadau o 拢80,500 yn cael eu rhoi i ddioddefwyr gafodd eu heintio gyda HIV.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2019