´óÏó´«Ã½

Sharon Morgan: Blwyddyn heb theatr

  • Cyhoeddwyd
Sharon MorganFfynhonnell y llun, Sharon Morgan

Ar Ddiwrnod Theatr y Byd, yr actor Sharon Morgan sy'n trafod blwyddyn o lwyfannau tawel, a'i gobeithion ar gyfer y cyfnod nesaf i'r theatr yng Nghymru.

Blwyddyn yn ôl ro'n i ar fin chwarae Clytemnestra mewn cynhyrchiad o'r Oresteia gan gwmni August012.

Ar ôl 18 mis yng Nghwmderi o'n i'n edrych ymlaen at ymestyn fy hun yn gorfforol, yn ddeallusol ac emosiynol, yn ysu am fod mewn ystafell ymarfer am dair wythnos yn trafod ac arbrofi, yn creu ar y cyd, ac yn anad dim, at y wefr o gyflwyno'r gwaith i gynulleidfa fyw, o fod yn rhan o ddigwyddiad byrlymus cymunedol.

Cychwynnodd ymarferion yng Nghanolfan y Mileniwm, darllenwyd y ddrama, trafodwyd y bwriad, rhyfeddwyd at feiddgarwch y set, ymarferwyd rhai o'r caneuon gyda'r band, ac yna yng nghanol y prynhawn gyrrwyd ni adre.

Y diwedd

Ceision ni ymarfer ar-lein ond heb yr agosatrwydd o fodoli yn y gofod does dim modd darllen na mynegi'r arwyddion corfforol ag emosiynol. Penderfynodd y cwmni ddod a'r cyfan i ben, a thalwyd ein cyflogau'n llawn gan Gyngor y Celfyddydau.

Oedd camu oddi ar felin draed bywyd llawrydd am y tro cyntaf ers cychwyn fy ngyrfa yn 1970 yn brofiad rhyfedd.

Heb bwysau a thensiynau ymarfer a pherfformio, a'r straen barhaol o chwilio am y rhan nesaf, crëwyd lle o dawelwch nas profwyd o'r blaen, yn arbennig gan fod pob actor arall yn yr un cwch ac am dipyn 'oedd cael fy ngorfodi i hepgor yr ymdrechu cyson yn braf iawn - ond doedd dim modd oedi am byth.

Prynais feicroffon, comisiynwyd dramâu byrion i'w dangos ar-lein gan gwmnïau theatr, gynigiais i syniad - ges fy ngwrthod - eisteddais yn yr ardd trwy'r gwanwyn hudol yn ymchwilio i ddiffyg dramodwyr benywaidd, a ddois i nabod llwybrau glannau'r Afon Taf yn drylwyr.

Darganfyddais ffynnon ddofn o hiraeth a cholled. Gofynnais 'Ydy bywyd werth ei fyw?' a 'Faint ohono sy' ar ôl?' 

Ffynhonnell y llun, Sharon Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ardd wedi bod yn le pwysig i Sharon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

Cefnogaeth

Yn wahanol i lawer iawn o weithwyr theatr ro'n i'n gymwys ar gyfer yr SEISS (Self-Employment Income Support Scheme) ac mae'n dal i fod yn achubiaeth, ond bu rhaid i Equity a'r undebau creadigol eraill ymgyrchu'n gryf dros hawl ei aelodau i gefnogaeth ariannol deg.

Daeth hi'n amlwg bod llawer o'r farn mai hobi oedd actio, neu fod actorion yn gyfoethog, a bod y theatr a'r celfyddydau yn ddibwys ac amherthnasol. Mae'r gosodiad 'Gadewch i'r ballerinas fynd i gefn y ff…n ciw?' yn aros yn y cof. Croesawyd Cronfa Llawrydd Llywodraeth Cymru a'i grantiau o £2,500 i'r artistiaid hynny ddisgynnodd trwy'r rhwyd. 

Wrth i'r clo lacio llwyfannwyd cynyrchiadau theatr yn Lloegr. Ond ddim fan hyn. Cyhoeddwyd canllawiau ar gyfer caniatáu agor y theatrau, a peilotwyd arbrawf gan Theatr Clwyd, ond dyna'r cyfan. 

Ym mis Medi creodd Julia Thomas, Theatr Canoe, profiad quasi theatraidd trwy roi recordiad o This Incredible Life gan Alan Harris ar-lein, gyda lluniau o gyntedd Theatr y Ffwrnes a'r awditoriwm, a'r rhybuddion, 'boneddigion a boneddigesau mae'r sioe ar fin dechrau,' gan ddod ag atgofion o'r stafell wisgo, sefyll yn yr esgyll, ac yna'r profiad o fod yn y foment, yng ngŵydd cynulleidfa a'i sŵn a'i ymateb -a'r cymeradwyo wrth gwrs. 

Ffynhonnell y llun, Sharon Morgan

Addasu

Ailgychwynnodd y diwydiant ffilm a theledu. Ffilmiais dan reolau Cofid nôl yng Nghwmderi ac ar y gyfres Amgueddfa i S4C, gyda'i saniteiddio, mascio, dillad a props mewn bagiau plastig, a pellter dwy fetr, yn falch o gael perfformio, o fod mewn gwaith. 

Mae Cofid fel fflach o fellt yn goleuo am eiliad yr hyn sy'n cuddio yn y tywyllwch. Pwy a wyddai?

Mai'r rhai tlotaf sy'n diodde' fwyaf.

Bod bywydau bobl ddu yn cyfrif.

Bod menywod ofn cerdded y strydoedd yn y nos ar ben ei hunain.

Byddai cymaint yn cwestiynu os yw'r berthynas rhwng San Steffan a Chymru yn gweithio.

Bod gan Lywodraeth Cymru rym nas defnyddiwyd o'r blaen.

Bod y mudiad dros annibyniaeth yn tyfu.

Bod angen Theatr ar gymdeithas.

Bod angen Theatr i adlewyrchu a thrafod yr uchod.

Mae'r Theatr yng Nghymru yn wahanol i'r Theatr yn Lloegr.

Mae'n ddwyieithog.

Mae'n rhwydwaith o gwmnïau bach a chanolig sy'n dibynnu ar arian cyhoeddus.

Mae ganddon ni gyfle i'w ailadeiladu ar ffurf sy'n unigryw i ni.

Prysured y dydd.

Hefyd o ddiddordeb