大象传媒

Covid-19: Saith marwolaeth a 201 achos newydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Prawf Covid-19Ffynhonnell y llun, Circle Creative Studio

Mae Iechyd Cyhoeddus wedi cyhoeddi bod saith person arall wedi marw a 201 o achosion newydd o coronafeirws wedi bod.

Daw hynny a chyfanswm y marwolaethau yng Nghymru i 5,505 a chyfanswm yr achosion positif i 208,895.

Mae 23,735 o bobl eraill bellach wedi derbyn brechiad cyntaf ac mae'r cyfanswm bellach yn 1,365,355 - sy'n cyfateb i 43.2% o'r boblogaeth.

Mae 11,080 yn rhagor o bobl eraill wedi cael ail frechiad, felly mae'r cyfanswm hwnnw bellach yn 400,743 - sy'n cyfateb i 12.7% o gyfanswm y boblogaeth.

O'r achosion newydd, roedd 21 yn Abertawe, 19 yng Nghaerdydd, 17 yng Ngwynedd, 15 yn Sir Ddinbych a 14 yng Nghasnewydd.

Mae'r gyfradd achos saith diwrnod fesul 100,000 o'r boblogaeth ar gyfer Cymru gyfan yn parhau i fod yn 38.5, ond mae'r gyfradd positifrwydd profion i lawr i 3%.

Merthyr Tudful sydd 芒'r gyfradd achosion uchaf, lle mae wedi codi eto i 139.2, ac yna Ynys M么n lle mae hefyd ychydig yn uwch ar 98.5, ac yna Blaenau Gwent yn 63, Sir y Fflint yn 62.1 ac Abertawe yn 53.8

Y gyfradd achosion yng Ngheredigion bellach yw 4.1, ar 么l tri achos yn y saith diwrnod hyd at Fawrth 22.

Cynhaliwyd 13,970 o brofion yn y cyfnod adrodd 24 awr diweddaraf.

Pynciau cysylltiedig