'Canolbwyntio ar roi ail ddos y brechlyn yn sgil oedi'

Disgrifiad o'r llun, 'Does dim disgwyl i'r oedi effeithio ar y targedau brechu,' medd y prif fferyllydd Andrew Evans

Sicrhau ail ddos o frechlyn Covid-19 fydd y flaenoriaeth yng Nghymru wrth i lai o gyflenwad o frechlyn AstraZeneca Rhydychen gyrraedd yn ystod Ebrill, medd prif swyddog fferyllol Llywodraeth Cymru.

Wrth siarad 芒'r 大象传媒 dywed Andrew Evans bod y cynllun brechu yn llwyddo a bod 1.7 miliwn dos wedi cael eu rhoi yng Nghymru hyd yma.

Mae oedi wedi bod gyda chludiant o oddeutu 250,000 dos o frechlyn AstraZeneca o India i Gymru, ac fe fyddan nhw'n cyrraedd ddiwedd Ebrill.

Ond dywed Mr Evans na fydd yr oedi yn effeithio ar dargedau brechu y grwpiau blaenoriaeth erbyn canol Ebrill, na chwaith yn effeithio ar yr ymdrech i frechu pob oedolyn erbyn diwedd Gorffennaf.

'Dim canslo apwyntiad'

Yn gynharach nodwyd y byddai 5 miliwn dos o frechlyn AstraZeneca Rhydychen yn hwyr yn cyrraedd o India i'r DU, ac mae'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn credu y bydd hynny yn amharu ar gyflenwadau Ebrill.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd y broses o roi'r dos cyntaf yn cyflymu eto erbyn diwedd Ebrill a dechrau Mai

"Does dim disgwyl i'r un apwyntiad gael ei ganslo," ychwanegodd Mr Evans.

"Yn nechrau mis Mawrth roedd cyflenwadau niferus o'r brechlyn yn cyrraedd Cymru. Ry'n ni wedi bod yn mynd trwy rheiny ac mae nifer sylweddol ar 么l ar gyfer yr wythnosau nesaf.

"Bydd yna ychydig llai o gyflenwadau wedi hynny. Ar ddechrau mis Ebrill bydd rywfaint yn llai o frechlynnau ar gael na'r hyn roedden ni wedi ei gredu yn wreiddiol."

Brechu pob oedolyn erbyn diwedd Gorffennaf

Pan roedd y cyflenwadau yn is ym mis Chwefror roedd yna ganolbwyntio ar roi'r ail ddos a dyna fydd yn digwydd eto, medd y prif swyddog fferyllol, wedi oedi yn y cludiant ar longau o India.

"Ry'n ni wedi bod yn blaenoriaethu yr ail ddos ers yr oedi diwethaf ar ddechrau mis Chwefror. Mae hyn yn golygu ein bod mewn sefyllfa dda - gan ein bod wedi brechu bron i 400,000 o bobl yr eildro - yn enwedig gyda brechlyn Pfizer.

"Ond nawr gallwn ddisgwyl ychydig o oedi wrth roi'r dos cyntaf a hynny am y byddwn yn sicrhau bod y bobl sydd angen yr ail ddos yn cael un ond ry'n ni hefyd yn sicrhau bod cymaint 芒 phosib yn cael y dos cyntaf hyd yn oed os oes yna oedi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd cael cyflenwad o frechlyn Moderna yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael eu brechu

"Wrth i ni eisoes weinyddu ail ddos o frechlyn Pfizer mae'n golygu y bydd y cyflenwadau ym mis Ebrill yn cael eu rhoi fel dos cyntaf i gleifion newydd.

"Hefyd bydd brechlyn Moderna yn dod yn ystod dechrau mis Ebrill - dim llawer o gyflenwadau efallai ond mae'n golygu y bydd mwy o bobl wedi cael y dos cyntaf erbyn canol Ebrill.

"Bydd y cyflenwadau i feddygfeydd teulu a chanolfannau brechu yn parhau yn uchel ond bydd mwy o bwyslais ar roi'r ail ddos oherwydd cyflenwadau is ond bydd y broses o roi'r dos cyntaf yn cyflymu eto erbyn diwedd Ebrill a dechrau Mai," ychwanegodd.

Dywedodd hefyd ei fod yn hyderus y bydd y rhan fwyaf o bobl yn y grwpiau blaenoriaeth yn cael eu brechu erbyn canol Ebrill ac er waethaf yr oedi y bydd pob oedolyn yng Nghymru wedi ei frechu erbyn diwedd Gorffennaf.

"Fydd yna ddim problem gyda hynny - er y bydd ychydig o arafu yn ystod y dyddiau nesaf," meddai.