大象传媒

Covid: Marwolaethau yn gostwng am y nawfed wythnos

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
prawfFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y marwolaethau wythnosol yng Nghymru sy'n gysylltiedig 芒 Covid wedi gostwng i'w lefel isaf ers 16 Hydref.

Hon yw'r nawfed wythnos yn olynol i'r niferoedd ostwng.

Yn 么l y Swyddfa Ystadegau roedd yna 49 o farwolaethau yn gysylltiedig gyda'r feirws - 7.9% o'r holl farwolaethau.

Roedd 19 yn llai o farwolaethau yn yr wythnos hyd at 19 Mawrth o gymharu 芒'r wythnos flaenorol.

O ran y byrddau iechyd roedd 10 marwolaeth yn ardal Aneurin Bevan, naw ym Mhowys - gan gynnwys pump mewn cartrefi gofal - a naw yn Betsi Cadwaladr.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ni chafodd yr un farwolaeth yn gysylltiedig gyda Covid-19 ei chofnodi mewn pedair sir

Ni chafodd unrhyw farwolaethau yn ymwneud a Covid eu cofrestru ym Mlaenau Gwent, Torfaen, Sir Benfro a Cheredigion.

Er mwyn mesur tueddiadau, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn cofnodi cyfartaledd marwolaethau dros gyfnod o bum mlynedd.

Mae'r ffigyrau wythnosol diweddara yn is na'r cyfartaledd dros bum mlynedd, a hynny am y drydedd wythnos yn olynol.

Wrth edrych ar y ffigyrau ers dechrau'r pandmeig, bu 40,075 o farwolaethau, gyda 7,764 yn gysylltiedig gyda Covid-19 yn 么l y tystysgrifau marwolaeth.

Roedd hyn 6,017 yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd.

Ffynhonnell y llun, ICC

Pynciau cysylltiedig