Ymgyrch Cwpan y Byd 2022: Cymru 1-0 Gweriniaeth Siec
- Cyhoeddwyd
Cymru oedd yn fuddugol yn erbyn y Weriniaeth Siec nos Fawrth yn eu hail g锚m yn y rowndiau rhagbrofol i geisio cyrraedd Cwpan y Byd Qatar 2022.
Fe beniodd Daniel James i mewn i'r rhwyd i sicrhau'r fuddugoliaeth i Gymru yn hwyr yn yr ail hanner.
Y Weriniaeth Siec oedd yn rhagori yn yr hanner cyntaf gyda Jakub Jankto yn saethu at y g么l dair gwaith.
Gareth Bale gafodd y cyfle gorau i Gymru wrth i'w ergyd o du mewn i'r cwrt cosbi gael ei harbed ar 么l 36 munud.
Yn gynnar yn yr ail hanner, cafodd ymosodwr yr ymwelwyr, Patrik Schick, garden goch ar 么l codi ei law i wyneb Connor Roberts, ond cafodd Roberts hefyd ei anfon bant yn hwyrach yn y g锚m am ail garden felen.
Gyda'r ddau d卯m i lawr i 10 dyn ac yn chwilio am y fuddugoliaeth, fe groesodd Bale y b锚l o'r asgell chwith a llwyddodd James i benio i mewn i'r rhwyd heibio Tomas Vaclik yn y g么l.
Roedd angen amddiffyn arwrol gan Gymru ar adegau, gyda James Lawrence yn achub ei d卯m sawl tro, cyn i Joe Rodon daflu ei hun o flaen ergyd Ondrej Celustka yn yr eiliadau olaf i sicrhau buddugoliaeth gyntaf Cymru yn yr ymgyrch.
Mae'r canlyniad yn symud Cymru lan i'r trydydd safle yng Ngr诺p E, un pwynt tu 么l y Weriniaeth Siec sy'n ail, a phedwar pwynt i ffwrdd o Wlad Belg, er eu bod wedi chwarae un g锚m yn llai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2021