Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Datblygiadau arloesol y pandemig i 'siapio'r dyfodol'
- Awdur, Huw Thomas
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Bydd gwaith arloesol wnaeth ddigwydd yn ystod y pandemig yn helpu ailadeiladu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, yn 么l ymchwilwyr.
Mae ymgynghoriadau drwy fideo ac apiau ar gyfer cleifion ymhlith y dechnoleg newydd i ddod yn gyffredin yn ystod y pandemig.
Ond roedd datblygiadau arloesol eraill yn hanfodol, gan gynnwys prynu PPE wedi'i wneud o ddeunydd a oedd yn caniat谩u i staff ysgrifennu eu henwau arno, er mwyn cael eu hadnabod ar ward brysur.
Mae GIG Cymru yn archwilio sut wnaeth staff addasu a chreu ffyrdd newydd o weithio, gyda'r canlyniadau yn siapio'r dyfodol.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn casglu'r wybodaeth, ac er bydd yr adroddiad llawn yn dilyn ym mis Ebrill, mae'r t卯m wedi cyhoeddi'r them芒u sydd wedi dod i'r amlwg.
Maen nhw'n cynnwys sut dechreuodd staff ddefnyddio technoleg ddigidol newydd yn gyflym fel rhan o'u gwaith clinigol, yn ogystal ag ar gyfer gweinyddu'r gwasanaeth gofal iechyd.
Technoleg yn helpu i drin Covid-19
Yn ymarferol, roedd hyn yn golygu defnyddio ymgynghoriadau dros ff么n a fideo yn gyson, o'i gymharu 芒'r angen arferol i fynychu'r feddygfa neu glinigau ysbyty.
Fe wnaeth technoleg hefyd helpu gyda thrin Covid-19, gyda Chymru'n un o'r unig wledydd yn y byd i weithredu set o ganllawiau ar-lein yn gyflym ar gyfer staff clinigol i sicrhau bod cleifion ym mhob rhan o'r wlad yn cael yr un safon o driniaeth.
Dyfeisiodd Dr Simon Barry y system o ledaenu canllawiau trin Covid-19 ar-lein.
Mae'n ymgynghorydd anadlol yng Nghaerdydd ac yn arwain ar feddygaeth anadlol yng Nghymru.
Roedd y canllawiau yn cynnwys sesiynau fideo y gallai staff y GIG ledled Cymru eu gwylio yn hawdd.
"Fe wnaeth Covid droi popeth yn wyneb i waered. Mae wedi rhoi pwysau anhygoel ar y gwasanaeth iechyd i addasu mewn ffordd anhygoel o gyflym, a fy nghred i yw bod y GIG wedi llwyddo i wneud hynny," meddai Dr Barry.
Ychwanegodd fod y "rhagolygon yn erchyll" ym mis Mawrth 2020 wrth i feddygon wylio adroddiadau teledu yn dangos y feirws yn rhwygo trwy ogledd Yr Eidal.
Ond dywedodd fod y broblem yn gorfodi penderfyniadau cyflym, gan gynnwys canllawiau Covid-19 ledled Cymru i sicrhau'r un safonau uchel ym mhob ysbyty.
Apiau i gleifion
Gweithiodd Dr Barry gyda'r Institute for Clinical Science and Technology yng Nghaerdydd i greu sesiynau fideo y gallai meddygon wylio ar-lein, ac ers hynny mae wedi helpu i ddatblygu ap i helpu adferiad cleifion sydd wedi cael Covid-19.
Wrth siarad am yr ap, dywedodd Dr Barry: "Un o'r egwyddorion yma yw ein bod ni eisiau annog cleifion i helpu eu hunain.
"Datrysiadau digidol, fel apiau i gleifion, yw'r ffordd orau o wneud hynny. Fe wnaethon ni greu'r ap hwnnw cyn y Nadolig a hyd yn hyn mae wedi cael ei lawrlwytho dros 4,000 o weithiau.
"Mae'n cynnwys cefnogaeth seicolegol, ffisiotherapi, a gan ddietegwyr - pob math o agweddau sy'n berthnasol. Yn y b么n, rydym yn ceisio helpu cleifion i osod eu targedau eu hunain, ac i helpu eu hunain i wella."
Mae'r ap Adferiad Covid wedi adeiladu ar y gwaith oedd eisoes wedi arwain at ddatblygu apiau ar gyfer cleifion 芒 chyflyrau anadlol, gan gynnwys asthma a COPD.
Mae ymchwilwyr sy'n casglu tystiolaeth o arloesi yn ystod pandemig Covid-19 wedi canfod bod yr angen i wneud penderfyniadau ar frys yn golygu bod modd symud yn gyflymach i gyflwyno technoleg newydd a ffyrdd gwell o weithio.
Hyder i dreialu offer newydd
Thema arall sy'n dod i'r amlwg yn yr astudiaeth yw'r hyder sydd bellach gan staff i dreialu offer newydd neu wahanol ddulliau o weithio.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn un o'r cyfranwyr at astudiaeth Prifysgol Abertawe.
Dywedodd ei gyfarwyddwr cynorthwyol arloesi, Tom James, mai rhai o'r datblygiadau arloesol gorau oedd y symlaf.
"Mae yna ddatblygiadau arloesol aflonyddgar, ac weithiau mae yna ddatblygiadau arloesol sy'n effeithio ar lawer a llawer o bobl ond maen nhw'n syml iawn, iawn.
"Pethau fel PPE sy'n eich galluogi i roi eich enw arno, fel y gallwch chi gyfathrebu'n iawn 芒 phobl eraill sydd wedi gwisgo mewn dillad diogelwch."
'Agwedd fwy personol i ofal iechyd'
Fel yr apiau a ddatblygwyd gan Dr Barry, fe fydd agwedd fwy personol i ofal iechyd o ganlyniad i'r pandemig, yn 么l Mr James.
Dywedodd fod angen i ddata cleifion ddilyn eu taith drwy'r ysbyty: "I'r data a'r wybodaeth honno ddilyn claf mewn ffordd gryno a syml - hynny fydd un o'r gwelliannau a'r datblygiadau arloesol mwyaf y byddwn yn eu gweld."
Ychwanegodd fod bancio personol ar ffonau symudol yn dangos sut y gellid ymdrin 芒 data sensitif mewn ffordd ddiogel.
""Rydym wedi llwyddo rheoli ein bancio ar-lein, lle mae gennym wybodaeth bersonol a sensitif ar ein ffonau symudol," meddai.
"Sut allwn ni ddefnyddio technoleg ddigidol i wella'r ffordd ry'n ni'n rheoli ein gofal iechyd ein hunain? Mae hwnnw'n rhywbeth ry'n ni eisiau datblygu yn gyflym."
Bydd Prifysgol Abertawe yn cyhoeddi canlyniadau llawn yr ymchwil yn ddiweddarach ym mis Ebrill.