Angen helpu menywod i ddod yn 么l i'r gwaith

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae cyfrifoldebau gofal yn rhwystro nifer o fenywod rhag dychwelyd i'r gwaith

Mae angen gwneud mwy i helpu menywod ddychwelyd i'r gwaith er mwyn osgoi "cam sylweddol yn 么l" yn y frwydr dros gydraddoldeb rhyw yn ystod y pandemig, meddai elusen.

Merched oedd deiliaid 52% o'r swyddi oedd ar ffyrlo yng Nghymru ddiwedd Ionawr.

Dywed yr elusen Chwarae Teg y gallai menywod fod y rhai olaf i ddychwelyd i weithio, oherwydd cyfrifoldebau gofal, a diffyg ariannu'r diwydiannau lle maent yn fwy blaenllaw na dynion.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei fod wedi teilwra cefnogaeth i helpu merched.

Daw'r pryderon wrth i adroddiad gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (ONS) ddangos bod menywod wedi cael eu heffeithio'n waeth na dynion gan gyfnodau clo niferus.

Ffynhonnell y llun, Chwarae Teg

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Cerys Furlong o elusen Chwarae Teg mae angen gweithredu i rwystro'r bwlch rhwng merched a dynion rhag mynd yn fwy

Dywedodd Cerys Furlong, o elusen cydraddoldeb rhyw Chwarae Teg, mai merched oedd wedi ysgwyddo'r cyfrifoldeb yn bennaf, dros addysgu plant gartref a chefnogi neu ofalu am berthnasau bregus.

"I'r rhai hynny sydd wedi parhau i weithio a jyglo rhwng pwysau gwaith a chyfrifoldebau gofal ychwanegol, mae 'na effaith ar iechyd meddwl a lles," meddai.

"Mae 'na berygl o ddifri ein bod yn mynd am yn 么l yn dilyn y cynnydd a wnaed - mae perygl mai merched fydd yr olaf i ddychwelyd i weithio, ac efallai'n cael eu hanghofio ar gyfer symud ymlaen, datblygu gyrfa a dyrchafiad."

Codwyd pryderon mewn adroddiad ddiweddar gan Bwyllgor Economi, Isadeiledd a Sgiliau'r Senedd bod arian adfer yn cael gyfeirio tuag at ddiwydiannau lle mae dynion yn fwy blaenllaw.

Dywedodd Dr Alison Parken, o Brifysgol Caerdydd wrth y pwyllgor fod merched yn debygol o golli allan ar fuddsoddiad am bod arian yn mynd i sectorau megis adeiladu, gwneuthur, a pheirianneg.

Mae cynrychiolwyr diwydiannau sy'n cyflogi nifer fawr o ferched - megis gofal, manwerthu, trin gwallt a phrydferthwch, a'r sector priodasau - wedi codi pryderon droeon am ddiffyg ariannu.

Dywedodd y pwyllgor trawsbleidiol ei fod yn poeni y gallai dosbarthiad arian gael effaith negyddol ar obeithion gyrfaol merched a genethod.

Ddiwedd Ionawr roedd 92,500 o ferched ar ffyrlo yng Nghymru, sy'n cyfateb i 52% o'r swyddi oedd ar lai o gyflog, yn 么l ystadegau swyddogol.

Merched oedd yn dal 45% o'r swyddi gafodd eu diddymu rhwng Hydref a Rhagfyr 2020, sy'n uwch na'r ffigwr yn ystod y dirwasgiad diwethaf, pan roedd 30-35% o'r rhai a gollodd eu swyddi yn ferched, yn 么l ffigyrau'r ONS.

Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, sydd wedi bod yn gweithio a dysgu plant o'i chartref, bod angen gwneud mwy i osgoi creu gweithlu "dwy haen", pe bai gofalwyr a rhieni ddim yn cael cymorth i ddychwelyd i'w swyddi.

'Dan straen fel mam'

Ffynhonnell y llun, Bikram Yoga

Disgrifiad o'r llun, Dywed Sarah Davies nad oedd hi wedi gallu neilltuo amser i dyfu'r busnes tra'r oedd hi'n ceisio aros yn bositif ac yn dysgu ei phlant o gartref

Roedd stiwdio yoga a pilates, Bikram Yoga, yng Nghaerdydd wedi bod ar agor ers naw mis pan darodd y pandemig, ond roedd y busnes wedi tyfu'n gyflym yn yr amser yna.

"Roeddan ni'n gwneud yn dda iawn, ac yna daeth y byd i stop," meddai Sarah Davies, a sefydlodd y cwmni.

"Roeddwn i'n ofni y byddwn yn colli'r busnes - roedd hwnnw'n thema dyddiol," meddai.

Dywed Sarah, sy'n 42 ac yn fam i ddau o blant, nad oedd hi wedi gallu neilltuo amser i dyfu'r busnes tra'r oedd hi'n ceisio aros yn bositif ac yn dysgu ei phlant o gartref.

"Dwi wedi cael fy nhynnu rhwng bod yn berchennog busnes gwael neu fod yn fam wael, a ddim yn llwyddo yn r'un o'r ddau," meddai.

"Mae e wedi bod yn boenus a mwy na thebyg dyma'r mwyaf o straen dwi erioed wedi'i deimlo fel mam."

Ffynhonnell y llun, Sarah Davies

Disgrifiad o'r llun, Mae Sarah Davies wedi bod yn dysgu ei phlant o gartref yn ystod y pandemig

Roedd llawer o'i haelodau yn famau oedd wedi gorfod canslo dosbarthiadau ar-lein, ac oedd hi'n poeni bod nifer ohonynt ar "ymyl y dibyn".

Tra bod y busnes wedi cael cymorth trethi gan y cyngor, roedd diffyg cymorth i'r diwydiant iechyd, ffitrwydd a llesiant, meddai, ac roedd rhieni wedi cael eu hanghofio yn ystod y pandemig.

"Dwi'n teimlo fel bod merched wedi cadw teuluoedd efo'i gilydd, fel mai nhw yw'r gliw sy'n dal popeth efo;i gilydd yn ystod y pandemig yma.

"Mae'n cael ei gymryd yn ganiataol y byddwn yn gwneud pob dim... mae mamau mo'yn help."

'Cefnogaeth ar sail rhyw'

Dywed Llywodraeth Cymru ei fod wedi diogelu dros 160,000 o swyddi gyda pecyn cefnogaeth o dros 拢2bn ar gyfer busnesau yn ystod y pandemig.

Roeddynt wedi teilwra cefnogaeth i helpu menywod a pherchnogion busnes ac entrepreneuriaid benywaidd, oherwydd pryderon bod merched yn cael eu heffeithio'n anghyfartal. Roeddynt hefyd yn anelu i ddarparu mwy o gymorth busnes ar sail rhyw.

"Mae'n Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu'r Economi, a lansiwyd yn ddiweddar, yn rhoi diddordebau merched wrth galon ei hymateb," meddai llefarydd.