大象传媒

Cymru wedi cyrraedd targed brechu Covid-19 yn gynnar

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
brechuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae pawb yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf yng Nghymru wedi cael cynnig brechlyn yn erbyn Covid-19, yn 么l Llywodraeth Cymru.

Roedd y llywodraeth wedi gosod targed i gynnig pigiad i bawb dros 50 oed a phawb sy'n cael eu hystyried yn fregus erbyn canol mis Ebrill.

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru bod y targed wedi ei chyrraedd yn gynnar, gyda phawb yn y grwpiau perthnasol wedi cael cynnig brechlyn.

Ychwanegodd: "Rydym yn annog pobl yn y grwpiau blaenoriaeth yma sydd heb gael brechlyn eto i gysylltu gyda'u bwrdd iechyd i drefnu."

Wrth siarad ddydd Iau, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae hon yn ymdrech wirioneddol ryfeddol ac mae i lawr i waith caled miloedd o bobl sy'n gweithio'n ddiflino ar reng flaen y GIG ledled Cymru i wneud i hyn ddigwydd. Rwyf am ddiolch i bob un ohonyn nhw."

'Bwrw 'mlaen sy'n bwysig'

Mae'n "galonogol iawn ein bod ni wedi cyrraedd y garreg filltir", meddai Steffan John, fferyllydd cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog.

Dywedodd bod hynny'n "gredit i bawb yn y gwasanaeth iechyd sy'n gweithio mor galed", a hefyd y cyhoedd sydd "wedi bod yn wych yn 'neud yn si诺r bod nhw'n dod i'w hapwyntiadau, sy'n helpu pawb dynnu at ei gilydd i gael y sialens enfawr 'ma o frechu'r holl wlad".

Does dim cadarnhad o sut y bydd y cam nesaf yn gweithio eto, meddai, ond "bwrw 'mlaen ydy'r peth pwysig a dal i gadw'r momentwm i fynd".

"Wrth gwrs mae'r sialens o roi'r ail ddos hefyd a 'da ni'n gw'bod yn ystod yr wythnosau nesa' bod 'na rywfaint o brinder [brechlynnau], felly 'da ni isio gweld be' fydd yn digwydd dros yr wythnosau nesa', ond dwi'n meddwl bod pawb yn y gwasanaeth iechyd yn barod i fynd..."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dal i fynd a chadw'r momentwm sy'n bwysig, meddai Steffan John

Mae ffigyrau diweddara' Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 1,490,372 o bobl, neu 47% o'r boblogaeth, bellach wedi cael un dos o'r brechlyn.

Daeth cadarnhad ym mis Chwefror mai Cymru oedd y cyntaf o wledydd y DU i gynnig pigiad i bawb dros 70 oed, gweithwyr iechyd rheng flaen a phobl hynod fregus.

Yn 么l y strategaeth gafodd ei chyhoeddi ddechrau'r flwyddyn, erbyn yr hydref bydd pob oedolyn cymwys arall yng Nghymru wedi cael cynnig brechlyn.

Beth ydy'r ymateb?

Mae llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar iechyd, Jo Watkins, wedi croesawu'r newyddion, gan "ddiolch i bawb sy'n gweithio ar hyn dros y Pasg".

Ychwanegodd bod angen "parhau gyda'r rhaglen i sicrhau bod pawb yng Nghymru'n cael eu brechu cyn gynted ac mewn modd mor ddiogel 芒 phosib".

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Mae hon yn stori lwyddiant wirioneddol Brydeinig a hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran, yn enwedig ein timau brechu a lluoedd arfog sydd wedi mynd y tu hwnt i gyflawni'r rhaglen gyflwyno.

"Mae penderfyniad beiddgar y Llywodraeth Geidwadol i optio allan o gynllun yr UE wedi cael ei gyfiawnhau'n llawn ac wedi sicrhau bod Cymru wedi cael y brechlynnau ar gael i gyrraedd y targed hwn, amddiffyn ein rhai mwyaf agored i niwed, a dechrau ailagor cymdeithas.

"Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol y gallwn ni i gyd ei dathlu wrth i ni barhau ar y ffordd i adferiad."

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS: "Mae'r garreg filltir hon yn dyst i waith caled ein staff GIG gwych a'r fyddin o wirfoddolwyr sydd wedi mynd y tu hwnt i sicrhau bod Cymru'n gallu cyrraedd y targed hwn. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl hebddyn nhw.

"Mae cyflwyno'r brechlyn yn rhoi gobaith a hyder inni ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir a rhaid iddo barhau ar gyflymder i sicrhau bod pobl Cymru'n cael eu brechu cyn gynted 芒 phosibl.

"Mae angen i ni wybod beth mae'r garreg filltir hon bellach yn ei olygu i leddfu cyfyngiadau ymhellach. Rwy'n ddiolchgar i bobl Cymru am bopeth maen nhw wedi'i wneud i'n cyrraedd ni at y pwynt hwn."

Pynciau cysylltiedig