Saliwt gynnau yng Nghaerdydd er cof am Ddug Caeredin
- Cyhoeddwyd
Mae saliwt gynnau er mwyn nodi marwolaeth Dug Caeredin wedi cael ei gynnal yng Nghastell Caerdydd ddydd Sadwrn, yn ogystal 芒 nifer o leoliadau eraill ledled y Deyrnas Unedig.
Bu farw'r Tywysog Philip, fu'n 诺r i'r Frenhines Elizabeth II am 73 mlynedd, yn 99 oed ddydd Gwener.
Mewn dinasoedd megis Caerdydd, Llundain, Caeredin a Belfast cafodd ergyd ei thanio pob munud am 41 munud o 12:00, meddai'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Aelodau o gatrawd 104 y Magnelwyr Brenhinol o farics Rhaglan fu'n gyfrifol am danio'r gynnau yng Nghaerdydd - yr unig gatrawd saliwtio yng Nghymru.
Ymysg y rheiny oedd yn bresennol yn y seremoni oedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford ac Andrew Dawes, pennaeth y Fyddin yng Nghymru.
Cadarnhau manylion yr angladd
Roedd y cyhoedd wedi cael eu hannog i beidio 芒 mynychu'r saliwtiau oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.
Bu llongau'r Llynges ar y m么r - HMS Diamond a HMS Montrose - yn gwneud yr un fath er cof am wasanaeth y Dug fel swyddog yn y Llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Cafodd digwyddiad bychan hefyd ei gynnal gan Glwb Iotio Brenhinol Cymru yng Nghaernarfon - clwb yr oedd y Dug yn noddi.
Wrth roi teyrnged i'w dad ddydd Sadwrn, dywedodd Tywysog Cymru fod y Dug "wedi rhoi'r gwasanaeth mwyaf syfrdanol a ffyddlon i'r Frenhines, fy nheulu a'r wlad, a hefyd i'r Gymanwlad gyfan".
"Fel y gallwch ddychmygu, rydw i a fy nheulu yn ei golli'n ofnadwy," meddai'r Tywysog Charles.
"Roedd yn ffigwr oedd yn cael ei garu a'i werthfawrogi'n fawr, ac fe alla i ddychmygu y byddai wir yn gwerthfawrogi'r nifer o bobl ar draws y byd sy'n rhannu ein colled a'n tristwch.
"Roedd fy nhad annwyl yn berson arbennig fyddai wedi'i syfrdanu gan yr ymateb a'r teyrngedau hefyd sydd wedi'i roi iddo, ac rydw i a fy nheulu wir yn gwerthfawrogi hynny.
"Bydd hynny'n gysur i ni yn ein colled a'r amser trist yma."
Mae manylion am angladd y Dug, fydd yn cael ei gynnal ar 17 Ebrill, wedi cael eu rhyddhau hefyd.
Bydd yn cael ei chynnal yng Nghapel St George yn Windsor, ond bydd y trefniadau yn wahanol i'r arfer oherwydd y cyfyngiadau Covid-19 sydd mewn lle.
Ni fydd yn angladd gwladol ac ni fydd yn gorwedd yn gyhoeddus, yn 么l dymuniadau'r Dug.
Mae'r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer yr angladd - oedd yn cynnwys 800 o westeion - bellach wedi eu haddasu i gyd-fynd 芒 chyfyngiadau coronafeirws, a 30 o bobl fydd yn cael bod yn bresennol.
Mae'r cyhoedd wedi cael cais i beidio 芒 mynychu'r angladd oherwydd y pandemig.
Yn dilyn marwolaeth Dug Caeredin yn 99 oed ddydd Gwener mae nifer o Gymry blaenllaw wedi rhoi teyrnged iddo.
Mae'r prif bleidiau yng Nghymru oll wedi dweud y byddan nhw'n atal eu hymgyrchoedd etholiad am y tro.
Fe fydd Aelodau'r Senedd yn dychwelyd i Fae Caerdydd fore Llun ar gyfer sesiwn arbennig i roi teyrnged i'r Dug.
Mae baneri swyddogol ar holl adeiladau'r llywodraeth wedi'u gostwng i hanner mast - adeiladau fel y Senedd yn y Bae, Neuadd y Ddinas a Chastell Caerdydd - ac fe fyddan nhw'n aros felly tan 08:00 y bore wedi'r angladd.
Mae llyfr o gydymdeimlad ar gael ar wefan y Teulu Brenhinol i unrhyw un sy'n dymuno mynegi eu cydymdeimlad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2021