Ble nesa' i d卯m rygbi merched Cymru?

Ffynhonnell y llun, Ben Evans

Fe enillodd t卯m rygbi dynion Cymru Bencampwriaeth y Chwe Gwlad a'r Goron Driphlyg eleni - chweched pencampwriaeth y cochion ers troad y ganrif.

Ond stori wahanol yw hi ar ferched Cymru ar hyn o bryd. Dros y ddwy rownd gyntaf o'r bencampwriaeth eleni dydi Cymru heb sgorio pwynt, gan ildio 98 (colli 53-0 yn erbyn Ffrainc a 0-45 yn erbyn Iwerddon).

Yn sgil y canlyniadau yma mae'r garfan wedi cael rhywfaint o feirniadaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Gohebydd chwaraeon 大象传媒 Cymru, Catrin Heledd, sy'n trafod i ble mae carfan Warren Abrahams yn mynd nesaf.

Wrth i Siwan Lillicrap, capten t卯m rygbi merched Cymru adael Parc yr Arfau yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn yn ei dagrau, roedd hi'n amlwg ei bod hi wedi bod yn brynhawn anodd, nid yn unig i'r arweinydd gydag anaf i'w phigwrn ond i'r garfan gyfan - eu seithfed colled o'r bron a'r ail ers i Warren Abrahams gymryd yr awenau fel prif hyfforddwr newydd.

Wrth ei benodi 'n么l ym mis Tachwedd y llynedd ynghyd 芒 chyn gapten Cymru Rachel Taylor fel hyfforddwr sgiliau parhaol, roedd addewid o arddull newydd, cyffrous, ond yn ystod y ddwy g锚m ddiwethaf mae Cymru wedi ildio 15 cais ac wedi methu 芒 sgorio'r un pwynt.

Ffynhonnell y llun, Catherine Ivill

Disgrifiad o'r llun, Warren Abrahams, Prif Hyfforddwr carfan merched Cymru

Yr hyn sy'n cael ei ofyn nawr yw pam? Doedd neb yn disgwyl gwyrthiau yn erbyn Ffrainc bythefnos yn 么l - t卯m lled broffesiynol ac un o'r ffefrynnau i ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ei newydd wedd eleni.

Ond roedd Iwerddon yn her wahanol - t卯m amatur, fel Cymru, sydd eto i sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd y flwyddyn nesaf a th卯m sydd wedi chwarae ond unwaith yn ystod y 14 mis diwethaf.

Roedd ildio cais yn erbyn y Gwyddelod o fewn dau funud a phwynt bonws o fewn 15 felly yn dipyn o ergyd. Roedd y Gwyddelod ar eu gorau - y perfformiad mwyaf cyflawn ers rhai blynyddoedd, yn 么l cyn enillydd y Gamp Lawn gyda nhw yn 2013, Gill Bourke.

Ffynhonnell y llun, Chris Fairweather

Disgrifiad o'r llun, Y Wyddeles Eve Higgins yn cael ei thaclo gan gapten Cymru, Siwan Lillicrap, yn ystod yr ornest unochrog ar Barc yr Arfau, 10 Ebrill 2021

Ond doedd Cymru ddim ynddi gyda'r un camgymeriadau yn codi i'r wyneb dro ar 么l tro - y darn gosod, yr amddiffyn, ac er bod 'na welliant yn yr ail hanner, doedd 'na'r un ffordd yn 么l.

Wedi'r chwiban olaf, fe gyfaddefodd Abrahams nad oedd y perfformiad yn ddigon da. Ond fe ychwanegodd ei fod e'n credu'n gryf yng ngallu ei garfan a'i fod e'n gweld potensial.

Roedd 'na ddigon o ymateb ar y gwefannau cymdeithasol i'r canlyniad hefyd - sylwadau a arweiniodd at Siwan Lillicrap i drydar ei diolch am y gefnogaeth ond hefyd yn tynnu sylw at y geiriau creulon roedd hi wedi eu derbyn.

Disgrifiad o'r llun, Gohebydd chwaraeon 大象传媒 Cymru, Catrin Heledd

Trydar eu hamddiffyniad o'r garfan bresennol wnaeth nifer o gyn-chwaraewyr gan godi cwestiynau yngl欧n 芒'r gefnogaeth ariannol a'r strwythurau sy'n bodoli i ddatblygu chwaraewyr benywaidd ifanc.

'Beiwch URC, nid y merched' oedd cri Gemma Hallett, a enillodd y Goron Driphlyg gyda Chymru, gan dynnu sylw at y ffaith, yn absenoldeb t卯m dan 20 a th卯m dan 18, taw dyma oedd eu cyfle cyntaf i brofi rygbi rhyngwladol.

Yn 么l cyn enillydd Cwpan y Byd gyda Lloegr, Danielle Waterman, roedd yr ysgrifen ar y mur pan ymddiswyddodd Rachel Taylor fis Mawrth, wedi llai na phum mis ers ei phenodi.

Fe ddywedodd y chwaraewr p锚l-droed a ph锚l-rwyd rhyngwladol, Nia Jones, bod angen ariannu g锚m y merched yn well. Dylen ni ddim bod mewn sefyllfa meddai, lle ma'r dynion yn ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a'r merched yn methu 芒 sgorio.

Ffynhonnell y llun, DAMIEN MEYER

Disgrifiad o'r llun, Wythwr Ffrainc, Emeline Gros, yn croesi am gais ym muddugoliaeth Ffrainc dros Gymru yn Stadiwm La Rabine yn Vannes, 3 Ebrill 2021

Mae'r Undeb wedi ymateb i'r feirniadaeth. Maen nhw, medden nhw, wedi ymrwymo i ddatblygu g锚m y merched yng Nghymru. Fe gafodd strategaeth newydd ei chymeradwyo cyn y pandemig ynghyd 芒 chyllid ychwanegol i sicrhau gwelliannau o lawr gwlad i'r lefel elitaidd.

Efallai bod y pandemig wedi arafu pethau, medden nhw ond maen nhw'n hyderus y bydd y strategaeth newydd yn cyflymu'r datblygiad.

Ffynhonnell y llun, DAMIEN MEYER

Disgrifiad o'r llun, Canlyniad y g锚m yn erbyn Ffrainc, 3 Ebrill 2021

Fis Gorffennaf y llynedd fe gyhoeddodd yr Undeb hefyd eu bod nhw'n awyddus i ddilyn yn 么l traed Lloegr a Ffrainc gan gynnig cytundebau proffesiynol i rai o'r chwaraewyr. Mae hynny eto i ddigwydd ond mae'r Capten Lillicrap yn gobeithio y bydd yr addewid yn dwyn ffrwyth yn ystod y 12 mis nesaf.

Mae llawer yn gallu digwydd o fewn blwyddyn ond y flaenoriaeth nawr i Gymru yw'r g锚m i osgoi'r llwy bren ar y 24ain o Ebrill. Fe fydd honno oddi cartref yn erbyn naill ai'r Eidal neu'r Alban.

Mae'n g锚m sydd angen ei hennill yn ddelfrydol ac yn g锚m lle bydd Cymru yn gobeithio tawelu'r dyfroedd gyda pherfformiad a phwyntiau.

Ffynhonnell y llun, DAMIEN MEYER

Hefyd o ddiddordeb: