大象传媒

Galw am ailagor tafarndai a bwytai Cymru dan do yn gynt

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
tafarn

Mae aelodau o dasglu twristiaeth a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn y pandemig wedi galw ar y prif weinidog i agor lletygarwch dan do yn gynharach.

Mewn llythyr at Mark Drakeford, mae cynrychiolwyr o'r diwydiant yn dweud eu bod "yn annog yn gryf" i Mr Drakeford wneud datganiad positif am ailagor lletygarwch yn yr adolygiad nesaf o gyfyngiadau Covid-19.

Fe ddywed y llythyr: "Rydym yn gofyn am ddyddiad ailagor i'n busnesau yng Nghymru i fod o leiaf yn gyfartal gyda'r dyddiad o 17 Mai sydd nawr mewn lle yn Lloegr a'r Alban - ac yn gynt na hynny os yw'n bosibl.

"Mae eich penderfyniad i roi iechyd a diogelwch ein cenedl uwchlaw blaenoriaethau eraill wedi achub bywydau, gwarchod darpariaeth gofal iechyd a gyrru neges glir y bydd Cymru'n gyrchfan ddiogel i ymweld pan fydd yr amser yn iawn.

"Rydym hefyd yn cydnabod llwyddiant ysgubol rhaglen frechu Llywodraeth Cymru.

"Rydym yn credu bod cyflawni'r ddau beth hyd yma nawr yn dangos fod yr amgylchiadau yn iawn i wneud datganiad clir a phositif, a dod 芒 dyddiad ailagor i fusnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru ymlaen."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni wedi gweithio'n agos gyda'r tasglu, ac fe fyddan nhw'n ymwybodol ein bod wedi cyhoeddi cyfres o gamau i lacio cyfyngiadau yn ystod Ebrill a Mai, os fydd amgylchiadau iechyd cyhoeddus yn ffafriol.

"Ry'n ni'n parhau i gymryd pethau cam wrth gam yn ofalus fel rhan o'r broses tair wythnos, gyda'r adolygiad nesaf ar 22 Ebrill."

Ymateb y pleidiau

Dywedodd Russell George ar ran y Ceidwadwyr: "Mae'n dweud cyfrolau pan mae tasglu Llafur eu hunain wedi ysgrifennu at y prif weinidog yn galw am gyflymu ailagor y sectorau lletygarwch a thwristiaeth ehangach.

"Mae safbwynt Llafur o fynnu chwarae gwleidyddiaeth yn hytrach na gwrando ar y wyddoniaeth yn golygu bod busnesau Cymru yn colli allan ar fasnach hanfodol, ac yn peryglu bywoliaeth pobl.

"Mae Ceidwadwyr Cymru wedi cyhoeddi map manwl ond gofalus a fyddai'n diweddu'r gemau gwleidyddol, achub swyddi a rhoi Cymru ar y ffordd i wella."

Dywedodd Plaid Cymru mewn datganiad: "Mae'n ddealladwy bod y sector lletygarwch yn rhwystredig ar 么l y flwyddyn fwyaf heriol yn y cof.

"Dyna pam mae Plaid Cymru wedi herio Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig i fynd cyn belled ag y gallant i leihau cyfyngiadau sy'n niweidio lles a busnesau pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.

"O ystyried yr amodau cyffredinol, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i archwilio pob llwybr posibl ar gyfer ailagor lletygarwch yn gyflym ac yn ddiogel, ac os yn bosibl cyn y dyddiad a drefnwyd. Os yw'r llywodraeth yn anfodlon gwneud hyn yna mae'n rhaid iddyn nhw gyhoeddi'r dystiolaeth sy'n cyfiawnhau eu penderfyniadau.

"Ar ben hynny, dylai'r llywodraeth ailedrych ar frys ar ei phenderfyniad i ohirio unrhyw gymorth ariannol ychwanegol i fusnesau lletygarwch a hamdden Cymru i helpu gyda chostau ailagor.

Meddai datganiad gan y Democratiaid Rhyddfrydol: "Dylai unrhyw benderfyniad ar lacio cyfyngiadau gael ei wneud ar sail gwyddoniaeth ac ystadegau.

"Mae cyfnod clo yn rhwystredig ac mae angen i ni gyd ddilyn y rheolau. Os wnawn ni hynny ni fydd angen cyfnod clo arall a dyna'r peth pwysicaf.

"Ry'n ni eisoes wedi gweld beth sy'n digwydd pan mae cyfyngiadau'n cael eu llacio yn rhy gyflym."