Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Parseli bwyd i blant 'bob 10 munud' yng Nghymru
Fe gafodd dros 54,000 o barseli bwyd eu rhoi i blant yng Nghymru dros gyfnod o 12 mis - yn 么l elusen flaenllaw.
Yn 么l yr Ymddiriedolaeth Trussell, cafodd cyfanswm o 146,000 o barseli eu rhoi i oedolion a phlant rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021 - sy'n cyfateb i un parsel bob 10 munud ar gyfartaledd.
Mae'r Ymddiriedolaeth nawr yn galw ar y pleidiau gwleidyddol sy'n sefyll yn etholiadau'r Senedd ar 6 Mai i ymroi i weithio tuag at ddatblygu cynllun i gael gwared am yr angen sydd yna am fanciau bwyd.
Mae'r 146,000 o barseli yn gynnydd o 8% o'i gymharu 芒 135,000 o barseli gafodd eu dosbarthu'r flwyddyn flaenorol.
Mae'n 69% yn uwch na 2015/16.
Dywed yr Ymddiriedolaeth y gallai'r gwir ffigwr sydd mewn angen fod yn llawer mwy.
Yn 么l Ymddiriedolaeth Trussell nid yw'n fater o fwyd yn unig, mae yn ymwneud 芒 pheidio bod ag arian ar gyfer y pethau elfennol o ganlyniad i ddiweithdra a phobl yn colli swyddi.
Dywedodd Susan Lloyd-Selby, rheolwr ymgyrchoedd Ymddiriedolaeth Trussell: "Ni ddylai unrhyw un wynebu'r gwarth cymdeithasol o fod angen cymorth brys i gael bwyd.
"Ond eto mae ein rhwydwaith o fanciau bwyd led led Cymru yn parhau i ddarparu niferoedd uchel o barseli bwyd wrth i fwy a mwy o bobl geisio ymdopi heb ddim digon o arian ar gyfer nwyddau elfennol.
"Dyw hyn ddim yn iawn ond rydym yn gwybod y gallwn adeiladu dyfodol gwell."
Galwodd ar etholwyr i bwyso ar ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Senedd i roi ymroddiad tuag at weithio ar roi diwedd am yr angen am fanciau bwyd.
'Dylen ni ddim fod yn y sefyllfa hyn'
Ar raglen Dros Frecwast 大象传媒 Radio Cymru fore Iau dywedodd Huw Evans, sy'n gwirfoddoli gyda banc bwyd Ystradgynlais, ei fod wedi gweld y cynnydd enfawr yn y galw gyda'i lygaid ei hun.
"Fi'n cofio pan o'n i wedi dechre gwirfoddoli gyda banc bwyd ym Mhontardawe, dros yr haf sawl blwyddyn yn 么l, dim ond fi oedd yna... achos do'n i ddim yn disgwyl gweld braidd neb o gwbl yn dod mewn drwy'r drws.
"Ond bellach... mae 'na ryw 15 o bobl yna'n ddyddiol bob dydd Mawrth a bob dydd Sadwrn achos y galw. Ac 'y ni'n gweld yr un peth yn Ystradgynlais ac yn Ystylafera hefyd.
"Ma' fe'n beth poenus tu hwnt i weld bod cymaint o bobl ag anghenion", meddai.
"Nag 'y ni'n s么n am hyn ddigon, sa' i'n credu, bod pobl - yn syml iawn - yn gorfod penderfynu 'ydyn ni'n rhoi bwyd ar eu platiau nhw neu ydyn ni'n gwario ar nwy neu egni?'.
"Ma' pobl yn embarrassed tu hwnt bo nhw'n gorfod dod mewn a gofyn am fwyd. Mae'n un o'r pethe sylfaenol mewn bywyd, yn dyw e.
"Ac ma fe'n druenus i weld bod pobl yn dal yn teimlo bo' nhw ddim yn gallu dod mewn - fi'n nabod sawl person sydd yn gwrthod dod i'r banc bwyd dim ond achos bo' nhw ddim yn teimlo bo nhw yn haeddu y fath o gefnogaeth, ac ma fe'n warthus.
"Mae 'na deuluoedd sydd angen bwyd, ac mae'r bwyd ar gael. A bydden i'n galw i unrhyw un sydd mas 'na, os ydych chi'n nabod rhywun, anfonwch nhw lawr at y banciau bwyd, achos dyna beth 'y ni'n 'neud."
Beth mae'r pleidiau'n ei ddweud?
Dywed Llafur Cymru eu bod am greu swyddi gwrdd newydd a "mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economeg lle bynnag maen nhw'n bodoli.
Maen nhw'n addo rhoi swydd, hyfforddiant neu gyfle hunan-gyflogedig i bawb dan 25 oed, yn addo adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol carbon-isel i'w rhentu a hefyd sefydlu rhaglen addysg fydd yn sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar eu hol oherwydd y pandemig.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud eu bod wedi ymroi i "roi diwedd ar dlodi a chefnogi'r teuluoedd sy'n derbyn y cyflogau lleiaf."
Dywed y blaid y byddant yn adeiladu economi cryfach gan greu 65,000 o swyddi newydd.
Yn 么l llefarydd bydd cynnig cynllun i ddod allan o'r cyfnod clo ynghyd 芒 rhewi treth y cyngor am ddwy flynedd yn rhoi help mawr i deuluoedd.
Dywed Plaid Cymru y byddant yn dod a thlodi plant i ben drwy ehangu cynllun prydiau ysgol am ddim, gan eu cynnig i bob plentyn cynradd erbyn diwedd eu tymor cyntaf mewn llywodraeth.
Byddant yn ymgeisio i roi taliadau cychwynnol o 拢10 i bob plentyn teuluoedd sy'n byw mewn tlodi, gan gynyddu hyn i 拢35 yn ystod eu tymor cyntaf mewn llywodraeth.
Yn 么l Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, byddai ei phlaid yn ehangu cynllun prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau i'r cyfnod ar 么l y pandemig, a byddant yn mynd i'r afael 芒 llwgu, unigrwydd ac arwahanrwydd.
Ychwanegodd fod y blaid am helpu pobl allan o dlodi drwy gynlluniau fel gofal plant am ddim, creu swyddi gwyrdd ac mewn rhai amgylchiadau cael gwared ar ddyledion aelwydydd sy'n cael eu rhoi yn nwylo asiantaethau casglu arian.