大象传媒

Galw am 'fwy o gymorth' i oroeswyr trais domestig

  • Cyhoeddwyd
Lluniau CCTV o'r nosonFfynhonnell y llun, Rhianon Bragg
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Lluniau CCTV o Gareth Wyn Jones a Rhianon Bragg o flaen gwn

Mae dynes o Wynedd - a gafodd ei dal yn erbyn ei hewyllys gan ei chyn-gariad - yn galw am "fwy o gymorth" i oroeswyr trais domestig.

Cudd-ymosododd Gareth Wyn Jones o Rosgadfan ger Caernarfon ar Rhianon Bragg wrth iddi gyrraedd ei chartref yn hwyr ar 15 Awst 2019.

Disgrifiodd Ms Bragg y profiad fel un ble roedd hi'n "ceisio goroesi, funud wrth funud".

Yn dilyn ei phrofiad, dywed Ms Bragg ei bod yn poeni am ddiogelwch ei hun a dioddefwyr eraill a bod angen "cymorth priodol" i oroeswyr trais yn y cartref.

Mae'r Weinyddiaeth Cyfiawnder a Gwasanaeth Erlyn Y Goron yn dweud eu bod yn ymrwymo i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr.

Dywedodd Ms Bragg bod Jones yn gwisgo dillad cuddliw ac yn cario gwn pan gafodd ei dal yn erbyn ei hewyllys ganddo.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Rhiannon Bragg a Gareth Wyn Jones mewn perthynas am bum mlynedd

Dywedodd: "Parciais i'r car, wedyn dod allan, ac yna jyst o 'mlaen i, neidiodd Gareth allan o'r cysgodion, gyda gwn wrth ei frest.

"Nes i sgrechian. Roedd yn sioc ond doedd o ddim yn syndod."

Dywedodd Ms Bragg ei bod wedi bod yn dweud wrth yr heddlu "am fisoedd" bod ymddygiad ei chyn-gariad yn "gwaethygu".

"Nes i sgrechian a dweud wrtho am roi'r gwn lawr. Ond 'naeth o jyst edrych arna'i a dweud na, doedd o ddim yn mynd i wneud hynny.

"A dyna oedd dechrau'r wyth awr o gael fy nal yn erbyn fy ewyllys - baril y gwn ond modfedd o fy mrest, yn clywed fy mod i'n mynd i gael fy lladd.

"Roedd yna adegau pan o'n i'n meddwl byswn i byth yn gweld fy mhlant eto."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llwyddodd Rhianon Bragg i hael help ar 么l perswadio Jones i adael iddi fynd i apwyntiad doctor

Dywedodd Ms Bragg bod ei chyn-gymar wedi rheoli ei hymddygiad ac ymddwyn yn fygythiol tuag ati am ran helaeth o'u perthynas a barodd bum mlynedd.

Ond hyd yn oed pan ddaeth hi 芒'r berthynas i ben, parhaodd y bygythiadau a'r aflonyddu, hyd nes y noson pan gafodd ei dal yn erbyn ei hewyllys.

Llwyddodd Ms Bragg i berswadio Jones i adael iddi fynd i apwyntiad doctor yn y bore, ac unwaith roedd hi yn y feddygfa fe ddywedodd wrth ei meddyg teulu beth oedd yn digwydd.

Cl么dd y feddygfa a chafodd Jones ei arestio gan yr heddlu.

'Angen edrych ar 么l dioddefwyr'

Cafodd Jones ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner yn y carchar ym Mawrth 2020. Pan mae'n cael ei ryddhau, bydd gorchymyn yn ei atal rhag mynd yn agos at d欧 Ms Bragg.

Ond mae Ms Bragg yn poeni na fydd y gorchymyn yn ddigon i'w gadw draw.

Ychwanegodd fod ei phrofiad o'r system llys wedi achosi iddi gwestiynu a ydy goroeswyr trais yn y cartref angen mwy o gefnogaeth.

Mae'n dweud y dylai goroeswyr gael eu cefnogi a'u harwain "trwy gydol y system".

"Maen nhw'n diodde' troseddau treisgar, dychrynllyd," meddai. "Dylid edrych ar holau, a gofalu am eu hangenion."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

'Byd estron i'r rhan fwyaf'

Ychwanegodd y dylai goroeswyr dderbyn "gofal priodol mewn byd sy'n hollol estron i'r rhan fwyaf.

"A phan mae'r troseddwyr yn cael eu rhyddhau, dylai'r dioddefwyr allu arwain eu bywydau heb ofn o ad-daledigaeth a byw mewn diogelwch."

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae ein cydymdeimladau'n parhau i fod gyda Ms Bragg ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod mwy o gyflawnwyr y troseddau dinistriol yma'n wynebu cyfiawnder trwy garreg filltir y Ddeddf Trais Domestig."

"Mae troseddwyr sydd ar drwydded, ar 么l pasio asesiad Bwrdd Par么l, yn cael eu monitro'n fanwl ac yn wynebu dychwelyd i'r carchar os ydyn nhw'n torri'r amodau llym ar ble allan nhw deithio a phwy allan nhw gysylltu 芒 hwy."

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyniad y Goron: "Rydym yn cymryd trais domestig yn ddifrifol iawn, ac yn parhau i fod yn benderfynol o sicrhau bod cyflawnwyr yn wynebu cyfiawnder a'n diogelu dioddefwyr gymaint ag sy'n bosib o ail-droseddau."

Pynciau cysylltiedig