大象传媒

Chwe Gwlad Merched: Yr Alban 27-20 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Hannah JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hannah Jones oedd capten Cymru am y tro cyntaf gyda'r anaf i Siwan Lillicrap

Mae t卯m rygbi merched Cymru wedi darfod pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y safle olaf wrth i'r Alban eu curo yn Stadiwm Scotstoun, Glasgow.

Serch hynny, roedd yn ddiweddglo mwy cadarnhaol i'r t卯m wedi colledion mor drwm yn eu dwy g锚m gyntaf yn y gystadleuaeth.

Sgoriodd y t卯m eu pwyntiau cyntaf o'r bencampwriaeth, a'u ceisiau cyntaf - gan yr asgellwyr Lisa Neumann a Caitlin Lewis.

Daeth gweddill pwyntiau Cymru o giciau Robyn Wilkins.

Fe wnaeth ceisiau Megan Kennedy, Christine Belisle Evie Gallagher a Megan Gaffney sicrhau mai'r Alban wnaeth orffen yn bumed yn y tabl.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hannah Jones a Lisa Thomson

Roedd yr hyfforddwr Warren Abrahams wedi gwneud naw newid i'r t卯m gollodd 45-0 yn erbyn Iwerddon bythefnos yn 么l.

Hannah Jones oedd capten Cymru yn absenoldeb Siwan Lilicrap sydd wedi cael anaf.

Cafodd Cymru drafferthion unwaith yn rhagor o ran chwarae gosod, ond roedd yna eiliadau addawol hefyd, gan gynnwys rhediadau campus gan y cefnwr Jasmine Joyce, a berfformiodd yn ardderchog wrth amddiffyn ac ymosod.

Cadarnhaol hefyd oedd y diffyg arwyddion o roi'r ffidil yn y to tan y diwedd wrth geisio cau'r bwlch gyda'r gwrthwynebwyr.

Lloegr yw'r pencampwyr Chwe Gwlad am y drydedd flwyddyn yn olynol ar 么l trechu Ffrainc.