大象传媒

Mount Snowdon neu'r Wyddfa? Uluru neu Ayers Rock?

  • Cyhoeddwyd
cwpan I climbed Snowdon

Tra bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gohirio'r penderfyniad i ollwng yr enw Saesneg "Snowdon" a dim ond defnyddio "Yr Wyddfa", mae gwledydd eraill hefyd wedi cael trafodaethau tebyg dros y blynyddoedd.

Ac ar draws y byd mae nifer o leoliadau gydag enw Saesneg ac enw yn yr iaith frodorol - a rhai yn gyfuniad o'r ddau...

Uluru/Ayers Rock

Roedd twristiaid a theithwyr yn heidio yn eu miloedd i 'Ayers Rock' - ond bellach mae'n cael ei adnabod yn ffurfiol wrth ei enw Cynfrodorol llawer h欧n.

Uluru ydi'r enw gwreiddiol am y graig sanctaidd yn Awstralia ond yn 1873 fe wnaeth y syrf毛wr William Gosse ei galw'n Ayers Rock ar 么l y gwleidydd Syr Henry Ayers.

Cafodd ei ail-enwi'n Ayers Rock/Uluru yn 1993, yna'n Uluru/Ayers Rock yn 2002, ond o fewn y parc cenedlaethol lle mae'r graig wedi ei lleoli maen nhw'n defnyddio'r gair Uluru yn unig.

贰惫别谤别蝉迟/颁丑辞尘辞濒耻苍驳尘补/厂补驳补谤尘腻迟丑腻

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mynydd uchaf ac enwoca'r byd... a chanddo dri enw.

I'r Tibetiaid, Chomolungma ydi enw'r mynydd - sy'n golygu 'mam sanctaidd', tra bod pobl Nepal yn ei galw'n Sagarm膩th膩 - sef 'pen yn yr awyr mawr glas'.

Er bod yr enwau brodorol yn fwy adnabyddus heddiw, Everest ydy'r enw mwyaf cyffredin o hyd ar draws y byd. Fe gafodd y mynydd ei henwi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar 么l Sir George Everest, Syrf毛wr Cyffredinol India. Doedd Sir George Everest, a gafodd ei eni ym Mhowys, ddim o blaid yr enw gan nad oedd posib ei ysgrifennu yn yr iaith Hindi.

Ben Nevis/Beinn Nibheis

Mynydd uchaf yr Alban, a'r uchaf ar ynysoedd Prydain, gydag enw Celtaidd wedi ei Seisnigeiddio.

Beinn Nibheis ydi'r enw yng Ngaeleg yr Alban. Ystyr beinn ydy 'mynydd' ac yn 么l rhai mae'r gair nibheis yn golygu cymylau, ac yn rhannu'r un tarddiad 芒'r gair Cymraeg 'nef'.

Scafell Pike ydy'r unig enw am fynydd uchaf Lloegr, ond o'r hen Norseg daw'r enw. Mae Skallfield yn gyfuniad o skall - sef copa moel, a fiall - sef mynydd. Mae pike yn golygu'r 'rhan uchaf'.

Corr谩n Tuathail/Carrauntoohil

Ffynhonnell y llun, Colin Park/Creative Commons

Draw yn Iwerddon mae enwau Gwyddeleg am eu mynyddoedd wedi eu Seisnigeiddio yn aml.

Yr enw swyddogol ar fapiau OS am fynydd ucha'r wlad ydi Carrauntoohil.

Corr谩n Tuathail ydi'r enw Gwyddeleg. Enw dyn ydy Tuathaill, ac mae Corr谩n wedi ei gyfieithu i gryman neu dant.

Mae llynnoedd yn dilyn patrwm tebyg. Lough Neagh ydi'r enw Saesneg ar lyn mwyaf ynys Iwerddon er enghraifft. Y fersiwn Gwyddeleg ydi Loch nEachach.

Yosemite

Mae enw'r parc cenedlaethol enwog yn yr Unol Daleithiau yn tarddu o'r gair am 'laddwr'. Dyma'r enw oedd yn cael ei roi am lwyth y Miwok, oedd yn byw yno, gan rai o'u gelynion o lwythau eraill.

Enw y Miwok am yr ardal oedd Ahwahnee - sef 'ceg fawr'.

Aotearoa/New Zealand

Ffynhonnell y llun, Daniel Peckham/Creative Commons

Llynedd fe newidiodd cwmni Vodafone y geiriad ar eu ffonau o Vodafone NZ i VF Aotearoa, yr enw brodorol ar y wlad.

Mae asiantaeth cyfathrebu DDB Group New Zealand hefyd wedi newid eu henw i DDB Group Aotearoa.

Aotearoa yw'r gair M膩ori am y wlad, ac mae'n golygu 'gwlad y cwmwl hir gwyn'.

Daw'r enw Seland Newydd o Nova Zeelandia, yr enw roddodd yr Ewropeaid cyntaf i lanio ar yr ynysoedd - ar 么l rhanbarth Zeeland yn yr Iseldiroedd.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig