大象传媒

Llwyddiant papurau bro er gwaethaf her y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cardi Bach

Mae rhai sydd yn gweithio ym maes papurau bro Cymru yn dweud fod yr argyfwng wedi bod yn sbardun i ddatblygu mwy o waith digidol yn y maes yn ystod y 12 mis mwyaf heriol yn eu hanes.

Dywed eraill eu bod wedi gweld cynnydd mewn gwerthiant er yr heriau amlwg.

Deallir bod llai na hanner y 58 papur bro yng Nghymru a Lloegr wedi medru parhau i gyhoeddi yn rheolaidd oherwydd effaith Covid-19.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Roedd cyhoeddi ar y we yn arbed llawer iawn o gostau,' medd Dylan Lewis, cadeirydd Clonc

Yn 么l Dylan Lewis, cadeirydd papur bro Clonc yn ardal Llanbedr Pont Steffan, roedd yna bryder ar y dechrau am effaith y coronafeirws ar y papurau bro ond mae technoleg wedi caniat谩u iddyn nhw barhau i gyhoeddi.

"Ar y dechrau, roeddwn i yn poeni achos roedd pawb yn ansicr o beth oedd y ffordd orau ymlaen," meddai. "Ond fe benderfynon ni gyhoeddi pedwar rhifyn ar y we, ac mewn gwirionedd roedd e'n dipyn haws na beth 'da ni'n gwneud ar bapur.

"Roedd e'n arbed llawer iawn o gostau, ac yn arbed gwaith gwirfoddol a bu'r darllen ar y we yn rhagorol."

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae'r papur wedi bod yn cyhoeddi fideos ar wefan Bro 360 sydd yn adlewyrchu profiadau busnesau lleol yn ystod yr argyfwng.

"Ni'n ceisio gwneud dau beth - hyrwyddo ein busnesau lleol a chadw cofnod o'r hyn maen nhw wedi gorfod 'neud yn y flwyddyn a fu."

Ychwanega Dylan Lewis bod y pandemig wedi bod yn sbardun i wneud mwy yn ddigidol.

"Ydy, yn bendant. Ble o ni mewn sefyllfa o fethu cael ein gwirfoddolwyr mas i gasglu newyddion, ni wedi gorfod cyhoeddi'r papur ar y we."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae'r papurau bro wedi profi eu bod yn wydn iawn,' medd Heledd ap Gwynfor

Yn 么l Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Partneriaethau Mentrau Iaith Cymru mae'r argyfwng yn dangos pwysigrwydd papurau bro Cymru.

"Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd iawn ond beth mae'r papurau bro yn ei brofi yw eu bod nhw'n wydn iawn ac yn medru ymateb i heriau," meddai. "Ac mae nhw wedi gwneud hynny yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae nifer wedi cyhoeddi yn ddigidol ar nifer o blatfformau gwahanol."

Mae nifer o bapurau bro wedi manteisio ar hyfforddiant rhithiol gan Mentrau Iaith Cymru a Bro 360 ar sut i gynhyrchu papurau bro yn effeithiol a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn fwy effeithiol.

'Wedi codi st锚m'

Mae nifer wedi parhau i gyhoeddi yn y dull traddodiadol, gyda rhai wedi gweld gwerthiant yn uwch nag erioed.

Dywedodd Eurfyl Lewis, cadeirydd y Cardi Bach: "Mae'r gwerthiant wedi bod yn rhyfeddol. Bob mis ni'n argraffu 750 o gop茂au. Yn ystod y misoedd diwethaf mae'r siopau yn gofyn am fwy o gop茂au sydd yn rhyfeddol.

"Dwi'n falch i ddweud bod y Cardi Bach wedi codi st锚m yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a dwi'n hyderus y bydd e'n dal i deithio ar y cledrau am flynyddoedd i ddod."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Mae fersiwn bapur o'r Barcud yn bwysig iawn,' medd John Jones

Yn 么l John Jones o bapur y Barcud, mae'r fersiwn papur mor bwysig ag erioed.

"Er bod yr oes ddigidol yn ein cynorthwyo ni yn enfawr yn ystod y pandemig, dwi'n hollol ffyddiog y byddwn ni yn cyhoeddi'r Barcud a'i werthu fe yn y siopau," meddai.

'Papur Braf yw'r Papur Bro. Tlotach cymuned hebddo' - dyna yw arwyddair y Barcud. Mae'n si诺r y byddai sawl cymuned o gwmpas Cymru yn eilio hynny yn sgil eu profiadau yn ystod y 12 mis diwethaf.

Pynciau cysylltiedig